Beirniaid ar Gyfer Cystadlaethau Da Byw Sioe Frenhinol Cymru 2025 yn Cael Eu Cyhoeddu - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi’r panel o feirniaid nodedig ar gyfer cystadlaethau da byw Sioe Frenhinol Cymru 2025 a gynhelir rhwng y 21ain a’r 24ain o Orffennaf. Bydd yr arbenigwyr a ddewiswyd yn ofalus yn gwerthuso miloedd o anifeiliaid ar draws nifer o gategorïau yn un o sioeau mwyaf Ewrop. Gyda’u profiad helaeth yn y diwydiant, bydd y beirniaid uchel eu parch hyn yn cynnal safonau rhagoriaeth uchel y sioe mewn gwerthuso da byw, gan barhau â’i hetifeddiaeth fel un o brif ddigwyddiadau amaethyddol y DU.

Mae’r rhestr llawn i’w weld yma: Cystadlaethau – Royal Welsh Cymru