Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i Gynnal Cynhadledd Cymdeithas Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) Cymru 2025 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i Gynnal Cynhadledd Cymdeithas Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) Cymru 2025

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal Cynhadledd Cymdeithas Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) Cymru eleni ar ddydd Gwener, 25ain Ebrill 2025. Cynhelir y digwyddiad ym Mhafiliwn Maldwyn ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.

Bydd y gynhadledd undydd yn dod â threfnwyr sioeau amaethyddol o bob rhan o Gymru ynghyd i drafod datblygiadau allweddol yn y diwydiant ac i rannu arferion gorau. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys strategaethau marchnata digidol, y diweddariadau diweddaraf gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Cymru a gwella hygyrchedd mewn digwyddiadau amaethyddol.

“Rydym yn falch iawn o groesawu holl drefnwyr sioeau o bob rhan o Gymru i’r digwyddiad rhwydweithio a rhannu gwybodaeth werthfawr hwn,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Gall cynrychiolwyr sioeau amaethyddol sicrhau eu lle yn y gynhadledd drwy ymweld â: https://rwas.ticketsrv.co.uk/tickets/ASAO2025