Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru 2025 – Dathliad i Gystadleuwyr, Teuluoedd a Pawb sy’n Caru Cŵn!
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gyhoeddi bod yr Amserlen Da Byw a Cheffylau hir ddisgwyledig ar gyfer Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru 2025 nawr ar gael! Yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 17eg a dydd Sul 18fed Mai ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, mae’r digwyddiad bywiog hwn yn ddathliad o dyddyn, ffermio cynaliadwy, a bywyd gwledig. P’un a ydych yn gystadleuydd, yn angerddol dros gefn gwlad, neu’n deulu sy’n chwilio am ddiwrnod allan gwych, mae gan yr ŵyl hon rywbeth i bawb!
Cystadlaethau Da Byw a Cheffylau – Ceisiadau Ar Agor Nawr!
Gall cystadleuwyr nawr gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau da byw a cheffylau, gyda cheisiadau ar-lein yn agor ddydd Mercher 5ed Mawrth ac yn cau ddydd Mercher 2il Ebrill. Eleni, mae’r Ŵyl yn cyflwyno dosbarthiadau newydd cyffrous ar gyfer gwartheg ‘Red Poll’ a defaid ‘Castlemilk Moorit’, gan adlewyrchu’r diddordeb cynyddol yn y bridiau unigryw hyn. Gyda dros 600 o ddosbarthiadau cystadlu, gan gynnwys rhagbrofol ar gyfer digwyddiadau marchogol mawreddog fel Sioe Geffylau Ryngwladol Frenhinol Cymdeithas Ceffylau Sioe Prydain (BSHA), Senior Showing and Dressage Ltd (SSADL), Cymdeithas Merlod Sioe Prydain (BSPS), a London International Horse Show, mae hwn yn gyfle gwych i arddangoswyr arddangos eu cynigion da byw a cheffylau gorau i feirniaid uchel eu parch.
Gall cystadleuwyr ddod o hyd i’r holl fanylion ar wefan Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cystadlaethau – Royal Welsh Cymru ac fe’u hanogir i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.