Sioe Frenhinol Cymru yn ennill Gwobr Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sioe Frenhinol Cymru yn ennill Gwobr Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025

Mae twristiaeth a lletygarwch wedi cael eu canmol fel “anadl einioes economi Cymru”, gyda busnesau yn y sector yn creu swyddi ac yn sbarduno twf ar draws y wlad.

Daeth Uwchgynhadledd Twristiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau, 27 Mawrth, ag arweinwyr diwydiant o Gymru, y DU ac Ewrop ynghyd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i archwilio dyfodol diwydiant sy’n cyfrannu £3.8 biliwn i economi Cymru yn flynyddol.

Yn dilyn yr uwchgynhadledd, anrhydeddodd y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol cyfraniadau eithriadol i’r diwydiant. Cafodd enillwyr o bob rhan o Gymru eu cydnabod am eu rhagoriaeth a’u harloesedd mewn twristiaeth a lletygarwch.

Cydnabuwyd Sioe Frenhinol Cymru yn y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol, gan ennill gwobr fawreddog y Digwyddiad Gorau. Roedd y sioe eisoes wedi ennill ei henw da fel digwyddiad blaenllaw yng Ngwobrau Twristiaeth Canolbarth Cymru. Mae’r sioe, a gynhelir yn flynyddol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, yn un o’r digwyddiadau amaethyddol mwyaf arwyddocaol yn y DU, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ac arddangos y gorau o fyd ffermio, bwyd a bywyd gwledig Cymru.

Roedd y llynedd yn garreg filltir hanesyddol wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddathlu ei phen-blwydd yn 120 oed, gan adlewyrchu dros ganrif o ymrwymiad i amaethyddiaeth a thraddodiadau gwledig Cymru. Mae’r wobr yn cydnabod effaith a llwyddiant parhaus y sioe, gan wella ymhellach enw da Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer profiadau amaethyddol a diwylliannol.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones:

“Mae’n anrhydedd anhygoel i ni dderbyn y wobr hon. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn drysor cenedlaethol ac mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ein tîm, ymroddiad ein harddangoswyr ac angerdd ein hymwelwyr. Hoffwn estyn fy niolch o galon i’n Cyfarwyddwyr, ein haelodau ffyddlon a’n siroedd nawdd, ein harddangoswyr, ein gwirfoddolwyr, ein staff ymroddedig a’n hymwelwyr. Mae eu cefnogaeth ddiysgog a’u hymrwymiad i’r digwyddiad hwn yn adlewyrchu eu hymdrechion arbennig.”

Gellir cael tocynnau ar gyfer digwyddiad eleni yma: RWAS – Royal Welsh Agricultural Society