Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Derbyniodd un o hoelion wyth y byd amaethyddol cydnabyddiaeth fawreddog am 25 mlynedd o wasanaeth fel Cyfarwyddwr Sioe Frenhinol Cymru.
Mae Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Cymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i’r diwydiant sioeau amaethyddol.
Cyhoeddwyd y wobr i ddechrau yng Nghynhadledd Flynyddol ASAO yn Malvern ym mis Tachwedd 2024. Fodd bynnag, gan nad oedd Mr. Fetherstonhaugh yn gallu bod yn bresennol, cafodd y newyddion ei atal nes y gellid ei gyflwyno’n bersonol. Gwnaed y cyflwyniad swyddogol ddydd Gwener, 25 Ebrill 2025, yn ystod Cynhadledd ASAO Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.
Gwasanaethodd Mr Fetherstonhaugh fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus Sioe Frenhinol Cymru am 25 mlynedd cyn rhoi’r gorau iddi yn 2019, gan wneud y 100fed Sioe Frenhinol Cymru ei ddigwyddiad olaf yn y rôl. Drwy gydol ei gyfnod o chwarter canrif, bu’n arwain y digwyddiad Cymreig eiconig hwn yn fedrus drwy nifer o heriau gan gynnwys tywydd garw, achosion o glefydau, a chyfnodau o ansicrwydd gwleidyddol.
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a enwebodd Mr. Fetherstonhaugh ar gyfer y wobr: “Er gwaethaf y siwtiau chwaethus a’r het fowliwr arwyddnodiadol, roedd Harry bob amser i’w weld yn ei chanol hi – yn torchi ei lewys, yn gwneud y jobsys oedd angen, yn cefnogi ein gwirfoddolwyr gweithgar, ac yn sicrhau rhediad llyfn y sioe. Bu ei arweinyddiaeth yn allweddol yn esblygiad y Sioe Frenhinol i’r Sioe Frenhinol heddiw.”
Mae cysylltiad Mr. Fetherstonhaugh â’r Sioe Frenhinol yn rhychwantu oes, gyda’i gysylltiad teuluol yn ymestyn yn ôl cenedlaethau. Bu ei dad, yr Uwchgapten David Fetherstonhaugh, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe am 21 mlynedd, gan ymddeol yn 1989. Mae Harry ei hun wedi stiwardio mewn gwahanol adrannau o’r sioe ers 1977, gan wasanaethu mewn nifer o rolau gan gynnwys Prif Stiward Diogelwch, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus Gweinyddu, a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sioe.
Roedd ei ymrwymiad i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru hefyd yn ymestyn i swyddi arweiniol fel cadeirydd Pwyllgor Gweinyddol y Sioe, Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, ac Is-Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y gymdeithas. Yn 2004, dyfarnwyd Medal Aur y Gymdeithas iddo am ei wasanaethau eithriadol, a gyflwynwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn ystod ei hymweliad â’r sioe yn ystod canmlwyddiant y Gymdeithas.
Yn dilyn ei gyfnod fel Cyfarwyddwr y Sioe, daeth Mr. Fetherstonhaugh yn Llywydd y Gymdeithas yn 2020, rôl a ymestynnodd i dair blynedd oherwydd yr oedi a achoswyd gan bandemig Covid-19. Daeth ei dymor ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr i ben ddiwedd 2023, gan nodi diwedd cyfnod o wasanaeth nodedig i’r Gymdeithas.
Mae Gwobr Cyflawniad Oes ASAO yn cynrychioli’r gydnabyddiaeth uchaf yn y diwydiant sioeau amaethyddol, gan ddathlu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol i’r sector trwy gydol eu gyrfaoedd.