HAUL A HAPUSRWYDD YN ŴYL WANWYN 2025
Daeth Yr Ŵyl Wanwyn eleni, dan nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i ben ddoe ar ôl penwythnos heulog bendigedig a ddenodd filoedd o ymwelwyr i faes y sioe yn Llanelwedd. Dros ddau ddiwrnod, rhwng 17 a 18 Mai, cafwyd cyfle i ddathlu’r gorau o fywyd cefn gwlad Cymru, gyda’r tywydd gwanwynol perffaith a golygfeydd trawiadol Canolbarth Cymru yn ffurfio cefndir delfrydol.
Roedd gan yr Ŵyl eleni enw newydd ffres a brandio bywiog, yn cynnwys y patrwm traddodiadol ‘Brethyn Cymreig’, gan ddathlu treftadaeth Gymreig y Gymdeithas ac apelio at gynulleidfa amrywiol o bob cefndir.
“Byddai’n amhosib gofyn am well amodau,” meddai Mr John Owen, Llywydd Sir Nawdd 2025, sef Caernarfon. “Daeth torfeydd cofiadwy allan dan yr haul, a bu’r awyrgylch yn hamddenol a chyfeillgar drwy gydol y penwythnos. Mae wedi bod yn ddechrau gwych i flwyddyn Caernarfon fel Sir Nawdd.”
Manteisiodd teuluoedd ar y gofod agored a’r ystod eang o weithgareddau ar draws y maes. Roedd plant yn arbennig wrth eu boddau yn ‘Will’s Petting Farm’ ac ‘Emma’s Donkeys’ yn ardal Bywyd Gwledig, lle cawsant gyfle i gwrdd â’r anifeiliaid ac ymgysylltu â nhw. Bu Babell Fawr Syrcas y Teulu Panic yn hynod boblogaidd, gyda phawb o bob oedran yn rhoi cynnig ar sgiliau syrcas.
Aeth y Grŵp Ail-greu Woodville â’r ymwelwyr ar daith nôl i’r canol oesoedd gyda’u harddangosfeydd hanesyddol, tra i’r rhai mwy anturus, roedd chwaraeon dŵr ar y llyn a stuntiau trawiadol gan Biking Builth Bulls yn cynnig cyffro a rhyfeddod.
Roedd y plant iau wrth eu boddau â’r Mini Off Rovers yn yr ardal arddangos, ac un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd eleni oedd yr helfa drysor addysgol ar draws y maes. Wrth gyrraedd, derbyniodd plant gardiau stamp arbennig a buont yn archwilio’r ŵyl yn frwd, yn casglu stampiau o stondinau gwahanol. I’r rhai a lwyddodd i gwblhau eu cardiau, roedd tystysgrifau ‘Arbenigwr Yr Ŵyl Wanwyn’ i’w hennill – gan greu atgofion parhaol a hyrwyddo dysgu am agweddau amrywiol ar fywyd gwledig. Yn ychwanegol, roedd adnoddau addysgol y gellid eu lawr lwytho, a ddatblygwyd ar y cyd â Twinkl, yn canolbwyntio ar anifeiliaid fferm frodorol a phrin – gan roi cyfle i deuluoedd ddysgu gyda’i gilydd mewn modd ymarferol a difyr.
Croesawodd yr Ŵyl gannoedd o gŵn ochr yn ochr â’u perchnogion. Denodd rhag-gymhwyliad Crufts Adran Gŵn RWAS Ltd gystadleuwyr brwd, tra bod Sioe Gŵn Hwyl y Sir Nawdd, Caernarfon, yn cynnig adloniant ysgafn i gyfranogwyr achlysurol a’r gynulleidfa fel ei gilydd.
Roedd arddangosiadau’r ‘Scurry Dogs’ yn uchafbwynt yn y cylch arddangos ac ardal Bywyd Gwledig, gyda llawer o ymwelwyr yn rhoi cyfle i’w cŵn roi cynnig ar sgiliau newydd. Bu stondinau masnach sy’n canolbwyntio ar gŵn yn gwneud busnes gwych wrth i berchnogion blesio’u cyfeillion blewog gydag anrhegion arbennig.
“Fel un sydd wedi tyfu i fyny’n mynychu sioeau amaethyddol, mae’n hyfryd gweld cymaint o gŵn a’u perchnogion yn mwynhau’r ŵyl,” meddai Rhys Griffith, Llysgennad Caernarfon a beirniad y dosbarthiadau Ceffylau Trwm. “Mae gan yr Ŵyl rywbeth at ddant pawb – o geffylau trwm trawiadol i anifeiliaid anwes teuluol yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau hwyl. Mae’r awyrgylch cynhwysol yma’n gwneud y digwyddiad yn arbennig iawn.”
Daeth ardal Gwledd yn ganolbwynt bywiog wrth i ymwelwyr ymlacio, mwynhau adloniant cerddorol a blasu danteithion o stondinau bwyd stryd gorau Cymru. Roedd masnach o’r safon uchaf drwy’r penwythnos, a gwerthwyr yn Neuadd Fwyd yr ŵyl yn adrodd am werthiant gwych – gyda nifer wedi gwerthu allan erbyn prynhawn Sul.
Manteisiodd llawer o deuluoedd ar y lleoedd picnic niferus ar draws y maes, gan fwynhau prydau hamddenol yn yr haul yng nghanol golygfeydd godidog y maes a’r ardal gyfagos.
Sicrhaodd yr amrywiaeth eang o arddangosiadau a gweithgareddau ddiddordeb i bob ymwelydd. Roedd uchafbwyntiau’n cynnwys sgiliau trawiadol y Torwyr Coed a MWMAC, crefftau traddodiadol gan y Gwent Spinners & Weavers, gwneud ffonau gan Bond Sticks & Stitches, ac arddangosfeydd Cŵn Adar gan y BASC.
Denodd y Parth Gwlân newydd ei wella diddordeb sylweddol, yn ogystal â’r arddangosfeydd Peiriannau a Theclynnau Hen, a roddodd gipolwg hiraethus ar fywyd cefn gwlad yn y gorffennol.
Yn y cylch arddangos, roedd Joseph’s Amazing Camels, tîm Ceffylau Gwedd Gentle Giant’s & Friends, a Meirion Owen gyda’i Gŵn Defaid yn cynnig adloniant o’r radd flaenaf drwy gydol y penwythnos.
Roedd y sioe stoc eleni yn drawiadol, gyda dros 100 o wartheg, bron i 700 o ddefaid, dros 110 o foch, mwy na 250 o eifr, a bron i 800 o geffylau, merlod ac asynnod wedi’u cofrestru. Ymhlith y dosbarthiadau newydd roedd gwartheg Red Poll a Dexter, a defaid Castle Moorit. Roedd hefyd diddordeb yn yr adran Stoc Llaeth Ifanc, gyda mwy o gystadleuwyr nag erioed ac ystod o fridiau gwartheg llaeth cynhenid. Braf oedd gweld y cylch arddangos yn llawn ar gyfer y Parȇd
Canlyniadau Prif Bencampwriaethau’r Da Byw a Cheffylau:
Prif Bencampwr Gwartheg Bîff: GLEBEDALE TOBLERONE – tarw Byrgorn Biff wedi ei arddangos gan Tim Bodily, Mynwy
Cil-wobr: SHELSLEYS KWAGGA – wedi ei arddangos gan David Powell, Swydd Gaerwrangon
Adran Gwartheg Ifanc Llaeth
Pencampwr: SALFACH THOR CARAMEL – wedi ei arddangos gan Salfach & Nantgaredig Jerseys, Sir Gaerfyrddin.
Cil-wobr: NANTGAREDIG THOR POPPY – hefyd gan Salfach & Nantgaredig Jerseys, Sir Gaerfyrddin.
Tywyswr Ifanc Gwartheg: MOLLY EDWARDS, Sir Gaerfyrddin
Gwobr ar gyfer y Stondin Masnach Gorau gan Fridiau Gwartheg: Gwartheg Hynafol Cymru
Prif Bencampwr Defaid: WILLIAM EVANS, Sir Benfro (Hwrdd Ceri)
Cil Bencampwr: DCL & CJ WILLIAMS, POWYS (Dafad Maesyfed)
Gwobr ar gyfer y Stondin Masnach Gorau gan Fridiau Defaid: Defaid Mynydd Cymreig
Geifr
Angora
Pencampwr: MARCHGWYN EVAN – wedi ei arddangos gan Stephen Prentice, Sir Gaerfyrddin
Cil-wobr: CHRIDO GIGI – wedi ei arddangos gan Chris Tyler
Cnu: Pencampwr a’r Gil-wobr CWMYSEWRDY ANGORAS, POWYS
Pygmy
Pencampwr: SUNNYMOUNT ZEBEDEE – wedi ei arddangos gan Tim Bee, Mynwy
Cil-wobr: PENRHIW JAZZ – wedi ei arddangos gan Jill Osborne, Gwent
Geifr Llaeth
Prif Bencampwr: CHATTERBOX TEXAS
Cil-wobr: CHATTERBOX STARGAZER – y ddwy wedi eu harddangos gan Adrian Bull, Wiltshire
Ceffylau
Prif Bencampwr: ROYAL CRAFTSMAN – wedi ei dangos gan Jane Brace, Penybont ar Ogwr
Cil-wobr: Silverwoods – wedi ei dangos gan Charlotte Elizabeth Arthur, Abertawe.
Gall canlyniadau llawn yr adrannau Ceffylau a’r Da Byw cael eu gweld ar wefan CAFC
Dywedodd Mr Geraint James, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Rydym wedi gweithio’n eithriadol o galed i greu gŵyl gynhwysol sy’n cydbwyso treftadaeth amaethyddol gyda gwerth i’r teulu cyfan – ac mae’r ffigurau presenoldeb eleni’n cadarnhau ein bod ar y trywydd iawn. Mae’r brandio newydd a’r gweithgareddau estynedig wedi denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Yr hyn sy’n galonogol yw gweld pobl o bob cefndir yn dod ynghyd – o deuluoedd ffermio’n rhannu eu gwybodaeth i ymwelwyr newydd yn darganfod diwylliant a thraddodiadau cefn gwlad Cymru. Mae’r ŵyl hon yn pontio’r bwlch rhwng cymunedau gwledig a threfol yn wirioneddol effeithiol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Gymdeithas: “Mae’r Ŵyl Wanwyn eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’r brandio a’r dull newydd wedi derbyn ymateb cadarnhaol iawn, ac roedd y tywydd bendigedig yn sicr o gymorth i ddangos yr Ŵyl ar ei gorau. Roedd yr awyrgylch hamddenol a chyfeillgar i deuluoedd – sy’n gwneud y digwyddiad hwn mor arbennig – yn amlwg drwy gydol y penwythnos. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth gan ymwelwyr, arddangoswyr, noddwyr a gwirfoddolwyr. Nawr rydym yn troi ein sylw at y Sioe Frenhinol, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i faes y sioe ym mis Gorffennaf.”
Hoffai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddiolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, stiwardiaid, arddangoswyr, stondinwyr a’r ymwelwyr a wnaeth y Gŵyl Wanwyn 2025 mor gofiadwy.