Fe wnaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar y cyd â Sir Nawdd eleni, sef Caernarfon, lansio Sioe Frenhinol Cymru 2025 yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 4 Mehefin.
Cynhaliwyd y digwyddiad lansio yn Neuadd hanesyddol Pritchard-Jones, gan nodi’r cyfri i lawr swyddogol at y Sioe eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt rhwng 21–24 Gorffennaf. Mynychodd tua 200 o westeion gwadd—gan gynnwys aelodau bwrdd, prif noddwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a chefnogwyr o bob rhan o Gymru.
Croesawyd y gwesteion gyda diodydd a chanapés, ynghyd â pherfformiad cefndirol gan y pianydd dalentog Elina Shchohla, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi symud i Gymru o Kyiv. Yn y Quad Prifysgol, croesawyd ymwelwyr gan un o geffylau trwm trawiadol Rhys Eifion Griffith, Trem Yr Wyddfa Aurora—yn adlewyrchu’r Pentref Ceffylau Trwm newydd fydd yn ymddangos yn y Sioe eleni.
Agorodd Nicola Davies, Cadeirydd y Cyngor, y noson drwy ddiolch i’r gwesteion, y noddwyr a Phrifysgol Bangor am eu croeso cynnes. Pwysleisiodd y cysylltiadau hir-sefydlog rhwng y Brifysgol a’r gymuned amaethyddol, gan nodi ei hanes balch o gefnogi addysg wledig ers 1884.
Estynnodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Edmund Burke, groeso twymgalon ar ran Prifysgol Bangor, gan dalu teyrnged i ffermwyr Caernarfon a fu’n gyfrifol am sefydlu’r Brifysgol 140 mlynedd yn ôl. Soniodd am gyfraniad parhaus myfyrwyr a graddedigion i sectorau amaethyddol ac amaeth-goedwigaeth Cymru.
Adolygodd Llywydd y Gymdeithas, John R Owen, ar y flwyddyn hyd yma, gan ddiolch i bawb a gyfrannodd at a mynychodd y digwyddiadau codi arian niferus ar draws y sir. Rhoddodd hefyd ragolwg o’r Digwyddiad Ffermio Mynydd sydd ar y gweill ym Fferm Hafod y Llan, gan ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ei drefnu.
Siaradodd Rhys Eifion Griffith, Llysgennad, yn gynnes am arwyddocâd y Sioe i’r gymuned leol. Mynegodd ei ddiolch i’r aelodau lleol ac i’r Gymdeithas am ymddiried ynddo i ymgymryd â rôl y Llysgennad ac am gefnogi ei weledigaeth ar gyfer y Pentref Ceffylau Trwm newydd a’i gystadlaethau. Anogodd Rhys aelodau sy’n arddangoswyr iau i gymryd rhan yng nghynghorau’r Gymdeithas, gan bwysleisio eu cyfraniad i lwyddiant parhaus y Sioe. Yna cyflwynodd fideo hyrwyddo swyddogol Sioe 2025, gan roi cipolwg cyffrous i’r gwesteion ar yr hyn sydd i ddod.
Cymerodd Cyfarwyddwr y Sioe, Richard Price, y llwyfan i dynnu sylw at uchafbwyntiau’r flwyddyn hon, gan gynnwys y Pentref Ceffylau Trwm disgwyliedig, dosbarthiadau cystadleuol newydd ar gyfer ceffylau trwm yn y prif gylch, a’r Bencampwriaeth Ceffylau Eithafol a fydd yn cael ei barnu gan Martin Clunes. Bydd y Cossaciaid o Wcráin yn dychwelyd gyda’u perfformiad triciau cyffrous, tra bydd barnwyr enwog fel Nigel Owens a Meinir Howells yn rhan o adran y defaid. Nododd Richard hefyd y gwaith paratoi helaeth sy’n mynd rhagddo yn Llanelwedd i sicrhau llwyddiant y Sioe eleni.
Cynhaliwyd dangosiad cyntaf Y Gerdd Groeso, cerdd gomisiwn sy’n dathlu balchder Caernarfon fel Sir Nawdd, a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd ar fideo gan y bardd enwog Myrddin ap Dafydd.
Daeth Yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd y Gymdeithas, â’r noson ffurfiol i ben drwy ddiolch i’r tîm staff a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled yn trefnu’r digwyddiad. Estynnodd ei ddymuniadau gorau i Gaernarfon am eu digwyddiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys Digwyddiad Ffermio Mynydd Hafod y Llan ar 12 Mehefin a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Ngholeg Glynllifon ar 27 Mehefin.
Daeth y noson i ben gyda pherfformiad ysbrydoledig gan Gôr Meibion Caernarfon, gan adael y gwesteion yn llawn cyffro a brwdfrydedd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2025.