Darlledwr Dei Tomos i Agor Sioe Frenhinol Cymru 2025 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Bydd y darlledwr a’r newyddiadurwr enwog, Dei Tomos, yn agor Sioe Frenhinol Cymru eleni yn swyddogol, yn ystod blwyddyn sir dan sylw Caernarfon. Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) wrth ei bodd bod Dei, cyn-lais dibynadwy Radio Cymru ar faterion amaeth a chefn gwlad, wedi cytuno i gynnal y seremoni.

Mae Dei Tomos yn enw cyfarwydd ledled Cymru, wedi adrodd a myfyrio ar y materion sydd wrth galon amaethyddiaeth Cymru a’i harwyddocâd dwfn i’r genedl ers dros 40 mlynedd. Mae wedi cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni, ac mae ei arddull ddwys a chwilfrydig, ei ddealltwriaeth ddofn o Gymru wledig, a’i ymrwymiad diwyro i’r gymuned amaethyddol wedi ennill edmygedd cyffredinol.

Mae Dei wedi derbyn nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys Gwobr Netherthorpe fawreddog Urdd Newyddiadurwyr Amaethyddol Prydain yn 2015, sy’n cydnabod ei arbenigedd hirdymor ym myd amaethyddiaeth a materion cefn gwlad yng Nghymru. Fe enillodd hefyd, sawl tro, Wobr Goffa Bob Davies Undeb Amaethwyr Cymru am ei raglenni radio beunyddiol ac wythnosol poblogaidd, Bwletin Amaeth a Byd Amaeth, a roddodd lwyfan i leisiau a heriau cymunedau gwledig. Fe’i henwebwyd yn Ddarlledwr Radio Cymreig y Flwyddyn yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd yn 2015, ac mae’n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor.

Mae gyrfa Dei hefyd wedi cynnwys rolau ym maes addysg ieuenctid a theledu. Bu’n gyd-gyflwynydd ar gyfresi amaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn cyflwyno rhaglenni cefn gwlad a theithiau antur dramor ar S4C yn nyddiau cynnar y sianel. Cyn troi at ddarlledu, roedd yn Ddirprwy Bennaeth Canolfan Addysg Awyr Agored yr Urdd yng Nglan-llyn.

Am flynyddoedd lawer, bu Dei’n un o brif gyflwynwyr llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, ac yn un o’r cyflwynwyr cyntaf ar raglenni teledu byw o’r Sioe Frenhinol. Bu hefyd yn aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis.

“Mae’n fraint gennym y bydd Dei Tomos yn agor y Sioe eleni,” meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas, Aled Rhys Jones. “Mae ei waith wedi amlygu’r rôl hollbwysig y mae cymunedau ffermio’n ei chwarae yn stori, diwylliant a threftadaeth ein cenedl. Rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu i Lanelwedd ac at glywed ei fyfyrdodau ar adeg arbennig i sir Gaernarfon, ei sir enedigol.

“Gyda’i wreiddiau dwfn ym myd y wlad a’i eiriolaeth gydol oes dros y Gymraeg a diwylliant Cymru, mae Dei Tomos yn berson delfrydol i nodi dechrau’r hyn sy’n addo bod yn Sioe Frenhinol gofiadwy unwaith eto.”

 

Bydd y Seremoni Agoriadol Swyddogol yn cael ei chynnal am 10:00yb ddydd Llun, 21 Gorffennaf, y tu allan i Bafiliwn y Llywydd. Am ragor o wybodaeth am y Sioe Frenhinol, ewch i: www.rwas.wales.