Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol i Ymweld â Sioe Frenhinol Cymru 2025 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) wrth ei bodd yn cyhoeddi y bydd Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun, 21 Gorffennaf 2025.

Yn bresennol yn rhinwedd ei rôl fel Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol y Gymanwlad (RASC), bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cymryd rhan yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y RASC, a gynhelir yn ystod y Sioe eleni. Wedi hynny, bydd Y Dywysoges Frenhinol yn teithio o gwmpas maes y sioe.

Dyma fydd seithfed ymweliad Ei Huchelder â’r Sioe Frenhinol, gan iddi ddod am y tro cyntaf yn 1981. Bu ei hymweliad diwethaf yn 2022, ac mae ei dychweliad eleni yn adlewyrchu ei chefnogaeth barhaus i amaethyddiaeth a bywyd gwledig.

“Mawr yw ein llawenydd y bydd Y Dywysoges Frenhinol yn ymuno â ni yn Sioe Frenhinol Cymru eleni,” meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. “Bu Ei Huchelder yn eiriolwr brwd ers tro am amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.

“Rydym yn edrych ymlaen at rannu â hi uchafbwyntiau’r sioe eleni, gan gynnwys yr arloesedd a’r datblygiadau cyffrous sydd wedi digwydd ers ei hymweliad diwethaf.”

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn yn Llanelwedd ac mae’n parhau i fod ymhlith y digwyddiadau amaethyddol mwyaf a mwyaf mawreddog yn Ewrop, gan ddathlu gorau amaethyddiaeth, bwyd a diwylliant gwledig Cymru.