ARWERTHWR IFANC O LANELWY YN ENNILL GWOBR URDDASOL DR EMRYS EVANS - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gyhoeddi mai Siôn Eilir Roberts o Farchnad Da Byw Llanelwy yw enillydd Gwobr Dr Emrys Evans 2025.

Mae’r wobr nodedig hon, a noddir yn garedig gan Mrs Mair Evans, yn cydnabod cyflawniadau arwerthwr da byw o dan 35 oed sy’n rhagori yn ei faes ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Gan gynrychioli Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd a Chaer, cafodd Mr Roberts ei ddewis o blith wyth o ymgeiswyr cryf o bob cwr o Gymru. Cynhaliwyd cyfweliadau anffurfiol a chafodd yr ymgeiswyr eu hasesu’n ymarferol wrth gael eu harsylwi’n gweithredu “ar y planc” yn ystod arwerthiannau da byw.

Canmolodd y beirniaid, Gwilym Richards FRICS, FAAV, FLAA a Geraint James FNAEA, MNAVA, FLAA, Siôn am ei “ymagwedd bositif a diymhongar tuag at werthwyr a phrynwyr fel ei gilydd.” Nodwyd ei ymdrechion i gynyddu’r nifer o anifeiliaid sy’n mynd trwy’r farchnad er gwaethaf y gystadleuaeth gref yn rhanbarth y Gogledd-ddwyrain. “Yn ystod ei gyfnod byr gyda’i gyflogwyr presennol, mae Siôn wedi dangos gallu nodedig i ddenu cwsmeriaid newydd yn ogystal ag annog gwerthwyr i ddychwelyd o’r system pwysau marw i farchnata pwysau byw,” meddai’r beirniaid.

Archwiliodd y beirniaid amrywiaeth eang o sgiliau arwerthu cyfoes gan gynnwys defnyddio llwyfannau ar-lein megis Marteye, rheolaeth ariannol, rheoli cyfrifon, a thechnegau cyfathrebu.

“Roedd yn anrhydedd i ni farnu’r gystadleuaeth eleni,” meddai’r beirniaid. “Roedd yn galonogol gweld safon uchel yr arwerthwyr ifanc – o oedran 21 i 34 – pob un yn dod â’u cryfderau a’u brwdfrydedd eu hunain i’r proffesiwn.”

Roedd yr ymgeiswyr eraill yn cynrychioli marchnadoedd da byw o Sir Fôn i Benfro, gan ddangos y doniau ifanc cryfion sydd gennym yng Nghymru a’r dyfodol addawol sydd gan yr arwerthu da byw yma.

Bydd Mr Roberts yn derbyn medal a thystysgrif yn ystod seremoni gyflwyno gwobrau’r Gymdeithas ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, ddydd Llun 21 Gorffennaf, gan barhau â’r traddodiad o anrhydeddu rhagoriaeth er cof am Dr Emrys Evans.

 

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn estyn ei diolchiadau diffuant i Mrs Mair Evans am ei chefnogaeth barhaus i’r wobr bwysig hon.