Daeth Sioe Frenhinol Cymru 2025 i ben heddiw ar ôl pedwar diwrnod o ddathliadau bywiog, nifer rhyfeddol o ymwelwyr, a dathliad o’r gorau ym maes amaethyddiaeth, bwyd a bywyd gwledig Cymru ar faes y sioe yn Llanelwedd.
O ymweliad Brenhinol gan Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol ddydd Llun i goroni Prif Bencampwyr y Da Byw, mae’r Sioe eleni wedi amlygu gwir gryfder, balchder ac angerdd y gymuned wledig.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones:
“Mae Sioe Frenhinol Cymru eleni wedi bod yn ddathliad gwirioneddol o’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Rydym wedi croesawu torfeydd rhyfeddol i Lanelwedd drwy’r wythnos gyfan, gyda’r tywydd yn berffaith i greu’r amodau delfrydol ar gyfer sioe gofiadwy iawn. Roedd safon y stoc arddangos yn eithriadol, ac mae wedi bod yn wych gweld ychwanegiadau newydd megis Pentref y Ceffylau Trwm yn cael derbyniad mor gadarnhaol gan ymwelwyr.
“Mae miloedd o deuluoedd wedi ymuno â ni, ac mae wedi bod yn arbennig o galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau’r sioe – roedd y wifren sip ar stondin y Lluoedd Arfog yn boblogaidd iawn drwy’r wythnos. Rydym hefyd wedi gweld ymateb gwych ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gyda’n fideo o’r anthem genedlaethol yn ystod Moliant y Maes yn cyrraedd dros 250,000 o wylwyr. Diolch o galon i Gaernarfon, ein Sir Nawdd eleni, ac i bawb sydd wedi cefnogi’r sioe gyda ffyddlondeb blwyddyn ar ôl blwyddyn. Diolch o waelod calon.”
Dathliadau Dydd Agoriadol ac Ymweliad Brenhinol
Agorwyd Sioe Frenhinol Cymru 2025 yn swyddogol gan y darlledwr a’r newyddiadurwr, Dei Tomos, mewn seremoni oedd yn adlewyrchu traddodiadau dyfnaf amaethyddiaeth a diwylliant Cymru. Yn ddiweddarach, mynychodd Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Amaethyddol y Gymanwlad, a gynhaliwyd ar faes y sioe. Yna aeth ati i deithio o gwmpas y maes, gan gyfarfod â chystadleuwyr ac aelodau o’r tîm gwirfoddolwyr, ac arsylwi ar y llu o gystadlaethau sydd ar gael yn ystod y Sioe.
Sir Gaernarfon – Sir Nawdd 2025
Eleni, dathlwyd Sir Gaernarfon fel y Sir Nawdd, gan ddod ag ysbryd cymunedol cryf a thîm brwdfrydig o wirfoddolwyr a fu’n gyfrifol am lawer o’r llwyddiant.
Dywedodd Llywydd CAFC 2025, Mr John R Owen:
“Mae gwasanaethu fel Llywydd y Gymdeithas eleni wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint wirioneddol. Rwy’n hynod falch o gael cynrychioli fy ardal enedigol yn y rôl hon, ac rwy’n dymuno diolch o galon i Sir Gaernarfon fel ein Sir Nawdd eleni. Mae eu hymdrechion anhygoel i godi arian ac ymwybyddiaeth dros y flwyddyn wedi bod yn amhrisiadwy, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at wneud y sioe eleni yn llwyddiant ysgubol.”
Ymddangosiad Godidog Cyntaf i’r Pentref Ceffylau Trwm
Un o’r uchafbwyntiau newydd yn Sioe 2025 oedd sefydlu’r Pentref Ceffylau Trwm, a ddaeth yn ffefryn ymhlith ymwelwyr. Cafodd yr actor a marchog, Martin Clunes, groeso cynnes gan y torfeydd yn ystod ei ymweliad ddydd Iau, wrth iddo deithio’r pentref ochr yn ochr â Rhys Eifion Griffith, Llysgennad eleni, a fu’n ganolog i wireddu’r weledigaeth hon.
Mwynhaodd Mr Clunes ei ymweliad cyntaf erioed â’r Sioe Frenhinol yn fawr, a chafodd gyfle i deithio o gwmpas y maes cyn camu i’r cylch i farnu’r Bencampwriaeth Uchaf i Geffylau. Pan ofynnwyd iddo am ei ymweliad cyntaf â’r Sioe, dywedodd:
“Mae’n wych! Rwy’n dwlu ar sioe – ond mae hon yn un anferth!”
Roedd wedi’i syfrdanu gan Bentref y Ceffylau Trwm ac yn gobeithio y byddai’r Sioe Frenhinol yn parhau ag ef, gan ychwanegu: “Bydda i’n dod yn ôl.”
Hud a Lledrith yng Nghylch y Prif Gylch
Fe gafodd y torfeydd eu swyno gan raglen lawn o berfformiadau yn y prif gylch, gan gynnwys marchogaeth syfrdanol gan y Cosaciaid Wcrainaidd, y tîm motocross Bolddog FMX boblogaidd, a’r Parêd Mawreddog o Bencampwyr – yn arddangos yr anifeiliaid gorau o bob rhan o’r maes.
Pencampwyr Da Byw 2025
Oherwydd cyfyngiadau Feirws Tafod Glas (blue tongue), nid oedd cystadleuwyr stoc o Loegr nac yr Alban yn gallu cymryd rhan yn y Sioe eleni. Fodd bynnag, rhoddodd Llywydd y Gymdeithas, Mr John R Owen, deyrnged i’r cystadleuwyr Cymreig:
“Er ein bod yn siomedig na allai rhai o’n cystadleuwyr rheolaidd o Loegr a’r Alban ymuno â ni eleni, rwy’n hynod falch o sut y camodd ein cymuned amaethyddol Gymreig i’r adwy. Roedd ansawdd y stoc arddangos yn rhagorol, gyda chystadlaethau cryf a chystadleuol yn arddangos rhagoriaeth bridio a dofi Cymru. Mae hyn yn dangos y gwydnwch a’r safon uchel sy’n diffinio amaethyddiaeth Gymreig.”
Pencampwyr Da Byw 2025:
Prif Bencampwr Gwartheg Biff: Arradfoot Undin – Mr Thor Atkinson, C/O Keadyview Livestock, Powys – Limousin Prydeinig
Prif Bencampwr Gwartheg Godro: Cottonhall Bam Bam Cornelia – Messers Kite & Thomas, Sir Benfro – Gwartheg Byrgorn Llaeth
Prif Bencampwr Trisiad Laeth: BB Sidekick Memory – Beverly Baker, Sir Fynwy – Holstein
Prif Bencampwr Defaid: Hwrdd Hesbin ‘Dutch Spotted’ – A R P & D R Wilson
Prif Bencampwr Moch: Gwyndy Lotti 31 – Amanda Phillips, Sir Fynwy– British Saddleback
Prif Bencampwr Ceffylau (wedi ei feirniadu gan Martin Clunes): Casgob Welsh Doll – Hannah Owens, Swydd Henffordd. Cob Cymreig Adran D
Colomen Gorau’r Sioe: Lloyd Williams
Pencampwr Wyau: Haf Roberts
Anifail Anwes Gorau’r Sioe: Crwban – Cai Bernard