Lansio Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar ar faes Y Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Ar faes Y Sioe Frenhinol heddiw (22/07/2025) cafodd Gwobr Goffa arbennig ei lansio gan S4C a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru er cof am y ffermwr a’r cyflwynydd adnabyddus, Dai Jones Llanilar.

Yn ganwr talentog, yn ffermwr o fri ac yn gyflwynydd rhaglenni amaeth ac adloniant yng Nghymru am dros hanner can mlynedd, roedd Dai Jones yn gymeriad poblogaidd ledled y wlad. Bu farw yn 78 oed yn 2022.

Bydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio â’r cwmnïau cynhyrchu aml-gyfrwng Telesgop (Ffermio) a Slam (Cefn Gwlad/Y Sioe) i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.

Yn ôl Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, bydd y wobr yn agor y drws i dalent y dyfodol:

“Roedd S4C yn awyddus i gynnal Gwobr Goffa er cof am Dai, er mwyn cadw’r cof yn fyw am ei gyfraniad amhrisiadwy i fyd amaeth, a’r byd darlledu yng Nghymru. Roedd e wir yn un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.

“Gobeithiwn y bydd y Wobr hon yn agor y drws at fyd darlledu i bobl ifanc, gan fagu a meithrin talent y dyfodol, a sicrhau ein bod yn parhau i ddod â chynnwys ffres a pherthnasol o gefn gwlad Cymru i’r sgrîn.”

Dywedodd Yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:

“Mae’r Gymdeithas yn awyddus iawn i gael gwobr arbennig i bobl ifanc sydd â brwdfrydedd dros sylwebu ar faterion gwledig ac ar bwysigrwydd Cymru wledig. Mae teulu Dai yn gefnogol iawn ac yn falch o weld y cyfryngau a’r Sioe Frenhinol yn cydweithio i greu’r cyfle arbennig hwn i’r genhedlaeth nesaf o gyflwynwyr a gweithwyr yn y maes. Bydd y wobr hon yn sicrhau bod gwaddol arbennig Dai yn parhau am flynyddoedd i ddod.”

I gystadlu am y Wobr, mae gofyn i unigolion o dan 30 oed gyflwyno syniad yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth i gwmni Telesgop cyn 1 Hydref eleni. Gofynnir hefyd iddyn nhw sgwennu ychydig am eu hunain a pham eu bod yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i banel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, tîm rhaglenni Ffermio a Chefn Gwlad, ac S4C.

Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi yn y Ffair Aeaf – 24ain a’r 25ain o Dachwedd eleni, yn Llanelwedd.

Er mwyn cyfle i ennill y wobr, cyflwynwch gais ddim mwy nag un tudalen A4 yn nodi eich syniad chi am eitem yn ymwneud â chefn gwlad ac amaethyddiaeth, acanfonwch drwy ebost at: [email protected] erbyn 23:59 ar 1af o Hydref 2025.

I weld y telerau ac amodau llawn a mwy o wybodaeth, ewch i: Telerau ac Amodau: Cyfle i gydweithio a datblygu sgiliau gyda thîm Ffermio S4C | Ffermio | S4C