Diwrnod Maes CARAS Cymru yn tynnu sylw at fferm cig eidion sero net sydd wedi ennill gwobrau - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Diolch i’r tywydd godidog ddechrau’r hydref, Eryri yn gefndir a’r nifer dda a ddaeth, roedd cyfarfod a chinio Cyngor CARAS Cymru ar Faes Sioe Sir Fôn yn nodedig iawn. Gosodwyd y naws ar gyfer yr ymweliad â Chastellior, Porthaethwy, uned besgi cig eidion ddwys sydd wedi ennill gwobrau lu.

Mae taith y fferm 800-erw ar Ynys Môn tuag at fod yn sero net wedi dod â nifer o wobrau i law Dylan Jones. Ef yw Ffermwr y Flwyddyn Tir Glas Prydain, Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn Farmers Weekly 2024 ac enillydd Gwobr Syr Bryner Jones CAFC 2024.

Esboniodd Dylan fod y cynllun i ddod yn hollol hunangynhaliol wedi’i ddatblygu yn 2016. Cyn hynny, roedd ef a’i dad, Wyn, yn pesgi 700 o wartheg y flwyddyn, yn wyna 900 o ddefaid ac yn prynu’r holl borthiant, ar wahân i’r 51ha o haidd a dyfwyd ar y fferm.

Meddai: “Rydyn ni’n prynu ein holl wartheg rhwng 15 a 24 mis oed ac yn eu gwerthu rhwng 22 a 30 mis. Mae’n ddwys, ond rydw i wedi gwneud llawer o waith dros y ddeng mlynedd ddiwethaf gyda Phrifysgol Bangor a Cyswllt Ffermio – mae’n llyfr agored er mwyn i eraill allu dilyn ein taith tuag at Sero Net

“Fel ffermwyr cig eidion dwys, roeddwn i eisiau profi y gallem gyrraedd Sero Net, er mwyn dangos y gall cynhyrchu cig eidion yma yng Nghymru fod yn fuddiol i fwydo’r cyhoedd a chyrraedd nodau amgylcheddol. Rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud dros y ddeng mlynedd ddiwethaf i brofi hyn. Mae mor fuddiol i’r amgylchedd.”

Dylan yw’r drydedd genhedlaeth yng Nghastellior. Dechreuodd trwy ddangos nad oedd arfer sylfaenol ffermio wedi newid ers dyddiau ei daid, a oedd, gyda’i frodyr, wedi colli eu tad yn ifanc iawn.

Roedd technoleg wedi datblygu ers i’r tri dyn ifanc orfod adeiladu â llaw ddyrnwr medi a gafwyd yn rhodd gan Lywodraeth Canada yn ystod yr Ail Ryfel Byd, â hynny heb lyfryn cyfarwyddiadau. Cyrhaeddodd y porthladd ym Mhorthaethwy mewn bocsys o ddarnau, nyts, beltiau a bolltau!

Meddai: “Meddyliwch beth oedd yn rhaid iddyn nhw fynd drwyddo i adeiladu’r dyrnwr medi hwnnw! Doedden nhw ddim yn hollol siŵr beth oedden nhw’n ei wneud, ond fe wnaethon nhw adeiladu’r dyrnwr medi hwnnw ar yr iard. Heddiw, yn y bôn, rydyn ni’n dal i wneud beth roedd fy nhaid yn ei wneud. Mae technoleg wedi dod ymlaen yn aruthrol, ond mae arfer sylfaenol ffermio yr un peth o hyd.

“Rydyn ni’n tyfu’r cnydau i fwydo’r stoc i gael y tail i dyfu’r cnydau. Dyna yn y bôn oedden nhw’n ei wneud a dyna’n union beth rydyn ni’n ei wneud heddiw. Mae glasbrint yr hyn yr oedd fy nhad-cu yn ceisio ei wneud yn dal i weithio heddiw. Rydyn ni’n magu gwartheg ar rawn cartref a gwair cartref.”

Mae’r fferm yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gyda gweithlu mewnol, y teulu ac un gweithiwr llawn-amser a dau weithiwr rhan-amser. Mae’n pesgi 1,600 o wartheg bob blwyddyn ar system hunangynhaliol, garbon isel sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng arloesi a chyfrifoldebau amgylcheddol, i greu menter gig eidion gynaliadwy, broffidiol.  Gwartheg godro croes yw’r gwartheg yn bennaf. Maen nhw’n dod o Gymru, a hynny’n lleol lle bo hynny’n bosibl, pan fyddan nhw rhwng 15 a 24 mis oed ac maen nhw’n cael eu pesgi ar gymhareb a dyfwyd yn gyfan gwbl gartref o wair, codlys a grawn.

Pwysleisiodd Dylan bwysigrwydd rhoi sylw i fanylder ac arloesi. Esboniodd sut y mae meddalwedd rheoli da byw yn cael ei defnyddio i reoli perfformiad buchesi a monitro cyfraddau tyfu’r gwartheg. Mae’r gwartheg yn cael eu pwyso bob wythnos, ac mae’r cynnydd pwysau byw dyddiol targed rhwng 1.6 a 1.8kg i gyrraedd pwysau byw gorffenedig rhwng 610 a 650kg. Trwy fonitro’r pwysau’n rheolaidd ceir arwydd o effeithlonrwydd y diet a’r angen am addasiadau i sicrhau’r perfformiad gorau posibl.

Esboniodd fod y fferm wedi dod yn hunangynhaliol o ran porthiant trwy gyflwyno meillion coch fel ffynhonnell protein yn y cylchdro dwy i dair blynedd. Mae’r grawnfwydydd yn gyfuniad o fathau gaeaf a gwanwyn yn bennaf, ac yn darparu’r startsh ar gyfer y diet a’r gwair ar gyfer gwelyau, gyda 110 erw o haidd gaeaf, 220 erw o haidd gwanwyn ac 20 erw o haidd haf i’w grimpio. Amlinellodd Dylan bwysigrwydd y feillionen goch, sef ‘planhigyn sy’n rhoi ac yn rhoi’ a’r angen i gynnwys cymaint o brotein â phosibl yn y porthiant.

Mae meillion yn cynhyrchu’r un 21/23% o brotein â phys, yn costio llai i’w tyfu ac yn fwy swmpus. Mae’r pys yn cael eu cynaeafu ddwy i dair wythnos yn gynnar, ac mae hyn yn codi’r cynnwys lleithder o 15/16% i 25/35% o leithder. Mae’r silwair i gyd wedi’i glampio.

Mae tail o fuarth y fferm yn hanfodol i gynnal deunydd organig y pridd ac, o’i ymgorffori’n effeithiol i’r pridd, mae angen prynu llai o nitrogen. Diolch i dechnegau newydd ar gyfer casglu cnydau a defnydd mwy effeithiol o faetholion, mae ôl troed carbon y fferm yn is, gan gyflawni sgôr o 3.9kg CO2e/kg o bwysau byw gwartheg yn Archwiliad Ôl Troed Carbon Cyswllt Ffermio, o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sy’n 18kg ar gyfer ffermydd pesgi eidion. Mae’r fferm wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor, Cyswllt Ffermio ac ABS Prism 2030 i baratoi ar gyfer y marchnadoedd a ddisgwylir yn y dyfodol.

Ffeithiau am y Fferm

  • Ffermio 324ha, berchen ar 243ha
  • Cynaeafu 2,000t o silwair bob blwyddyn
  • Cyfanswm dognau cymysg: 7kg o haidd wedi’i grimpio, 2kg o silwair meillion coch, 2kg o silwair Westerwold, 5kg o silwair protein uchel a 0.5kg o wellt
  • Pesgi 1,600 o wartheg godro-croes stôr bob blwyddyn
  • Pwyso 150 o wartheg bob wythnos
  • 28-30 mis oed wedi pesgi
  • Cyfartaledd o 122 diwrnod tan eu lladd
  • Cyflenwir gwartheg yn fisol i ABP