Y Gorau o Gymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru! - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae tocynnau cyw cynnar ar werth nawr – ac mae’r cynnig yn dod i ben yn fuan!

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn prysur agosáu, a chyn bo hir bydd Maes y Sioe yn Llanelwedd yn fwrlwm o dda byw arobryn, hwyl yr Ŵyl a miloedd o siopwyr Nadolig unwaith eto. Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer y digwyddiad deuddydd a gynhelir ddydd Llun 24 a dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.

Mae’r Ffair Aeaf wedi ennill ei phlwyf fel un o brif sioeau stoc Ewrop, ac mae’n denu da byw o safon eithriadol o uchel i’w chystadlaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd ffermwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn arddangos y gwartheg, y defaid, y moch a’r ceffylau gorau, a’r cyfan yn cystadlu am yr anrhydeddau uchaf a’r tlysau uchel eu bri. Ar y diwrnod olaf, gall ymwelwyr brofi gwefr yr ocsiwn wrth i enillwyr y gwobrau fynd o dan y morthwyl yn y cylchoedd arddangos.

Ochr yn ochr â’r da byw, mae’r Ffair yn cyflwyno rhaglen helaeth o gystadlaethau a dosbarthiadau gan gynnwys ceffylau, sioe helgwn, dofednod wedi’u gwisgo, cigyddiaeth, hamperi cig, wyau a cholomennod, coginio, cynhyrchion, crefftau a threfnu blodau, gan sicrhau bod rhywbeth at bob dant.

I siopwyr, mae’r Ffair Aeaf yn lle perffaith i ddod o hyd i anrhegion Nadolig gwreiddiol, gyda channoedd o stondinau masnach sy’n cynnig cynhyrchion unigryw. Ar y nos Lun, mae’r Sioe yn aros ar agor tan yr hwyr er mwyn i chi wneud eich siopa Nadolig, cyn i’r diwrnod gau gydag arddangosfa dân gwyllt anhygoel i gerddoriaeth am 7pm.

Yn y Neuadd Fwyd, mae’r ffocws yn dal i fod ar fwydydd a diodydd a gynhyrchir yng Nghymru, ac arddangosir popeth â balchder, o gawsiau arbenigol i bicau ar y maen traddodiadol. Bydd dim diwedd ar y dewis i’r rheiny sydd wrth eu bodd â bwyd, gyda’r tameidiau i’ch temtio a’r anrhegion perffaith.

Mae ardal boblogaidd Gwledd | Feast, yn y Sied Gneifio, yn addo bod yn fwrlwm o fwyd stryd Cymreig lleol, gyda phopeth o dameidiau sawrus i ddanteithion melys. Ac i ychwanegu at y naws, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau adloniant cerddorol byw dros y ddau ddiwrnod ar Lwyfan Gwledd, gyda doniau lleol a ffefrynnau tymhorol bywiog – y cefndir perffaith i fwyta, yfed a llawenhau!

Mae’r Ffair Aeaf yn digwydd yn ystod y tymor ysgol, felly mae’n gyfle unigryw i blant ysgol a myfyrwyr coleg archwilio taith bwyd o’r fferm i’r fforc, ac mae Groto Siôn Corn yn ychwanegu ysgeintiad o hud Nadoligaidd ar gyfer plant o bob oed. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich grŵp ysgol i gael mynediad am ddim.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd ardal arbennig yn y Pafiliwn Ffariaeth yn arddangos Ceffylau Trwm  godidog ochr yn ochr â’r Sioe Helgwn, a fydd yn cael ei chynnal mewn pabell gerllaw. Bydd y nodwedd newydd a chyffrous hon yn adeiladu ar y Pentref Ceffylau Trwm hynod boblogaidd a gyflwynwyd gyntaf gan Lysgennad Caernarfon, Rhys Griffiths, yn y Sioe Frenhinol, a bydd yn cynnwys cyfle i weld crefft y ffarier ar waith ac arddangosfeydd trawiadol – atyniad na ddylech ei golli.

Mae’r Ffair Aeaf yn agor i’r cyhoedd am 8am bob dydd, ac yn addo deuddydd yn llawn cystadlaethau, siopa, bwyd a diod, a dathliadau Nadoligaidd.

Mae tocynnau cyw cynnar ar gael ar-lein nawr, hyd nes 9 Tachwedd. Pris tocyn oedolyn yw £22 ar gyfer y dydd Llun ac £20 ar gyfer y dydd Mawrth, mae’n £5 i blant, ac mae mynediad am ddim i blant o dan 5 oed. Mae aelodau CAFC yn cael gostyngiadau arbennig.

Am fanylion llawn, i brynu tocynnau neu weld yr atodlenni, ewch i www.rwas.wales neu www.cafc.cymru.

Dechreuwch dymor yr ŵyl gyda thaith i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2025 – gŵyl sy’n dathlu ffermio, bwyd ac ysbryd y Nadolig.