Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Eleni, dyfarnwyd un o’r gwobrau uchaf eu bri ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru – Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniadau neilltuol i’r diwydiant defaid yng Nghymru – i Mr Kevin Parry, o Lwynrhydill, Sir Frycheiniog.
Mae Kevin a’i wraig, Delyth, yn ffermio yn Llwynrhydill ger Capel Uchaf, Sir Frycheiniog, lle maen nhw’n rhedeg fferm ddefaid lwyddiannus gyda hawliau pori ar Fynyddoedd yr Epynt. Mae eu diadell yn cynnwys mamogiaid Penfrith Beulah, ochr yn ochr â Miwlod Cymreig a fridiwyd gartref a Defaid Cheviot Bryniau Brycheiniog.
Y tu allan i giât y fferm, mae Kevin wedi cysegru llawer o’i amser i gefnogi a hyrwyddo diwydiant defaid ehangach Cymru. Mae wedi bod yn Gadeirydd ar Gymdeithas Defaid Penfrith Beulah, gan gynrychioli a hyrwyddo’r brîd mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys diwrnodau agored yr NSA.
Bu Kevin hefyd yn gadeirydd ar Gymdeithas Miwlod Cymru am saith mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw chwaraeodd ran allweddol wrth hyrwyddo’r brîd yn nigwyddiadau’r NSA, Sioe Frenhinol Cymru, ac ar draws y DU. Fel Cadeirydd, un o’i brif gyfrifoldebau oedd dod i gyswllt ag arwerthwyr wrth baratoi gwerthiannau blynyddol y Gymdeithas yn y Trallwng, Llanfair-ym-Muallt a Rhuthun. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae ei rôl uchel ei pharch fel arolygydd bridiau yn y gwerthiannau hyn wedi ennill enw da iddo fel cyfryngwr teg a diduedd.
Yn ogystal, mae Kevin wedi bod yn aelod o Bwyllgor Cynghori Technegol Gwarant Fferm am y saith mlynedd ddiwethaf, gan sicrhau bod llais y ffermwr yn cael ei gynrychioli mewn trafodaethau llywodraethu a phenderfyniadau am bolisi.
Mae ei angerdd dros fridio defaid yn amlwg trwy’r swyddi niferus fu ganddo ar gymdeithasau a phwyllgorau, gan gefnogi’r gymuned ffermio a hyrwyddo bridiau cynhenid. Mae ei arbenigedd hefyd wedi cael ei gydnabod yn helaeth trwy ei gyfraniadau rheolaidd fel beirniad a stiward mewn sioeau amaethyddol lleol, yn ogystal â’r Sioe Frenhinol.
Roedd y panel beirniadu ar gyfer y wobr eleni yn cynnwys Mr Dafydd Parry Jones (Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru), Mr Richard Thomas (Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru), a Ms Caryl Hughes (Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru).
Dywedodd y beirniaid fod safon yr enwebeion unwaith eto yn eithriadol o uchel. Ar ôl cyfweld â rhestr fer o dri ymgeisydd trawiadol, cytunwyd yn unfrydol mai Mr Kevin Parry fyddai derbynnydd haeddiannol Gwobr Goffa John Gittins 2025, i gydnabod ei gyfraniad gydol oes i’r diwydiant defaid yng Nghymru.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol i Mr Parry yn Seremoni Agoriadol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 24 Tachwedd.
Am ragor o wybodaeth am y Ffair Aeaf, neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.