Tad a mab Edwards o Gonwy i agor Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn swyddogol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Gyda llai nag wythnos i fynd nes i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddychwelyd i Faes y Sioe yn Llanelwedd, mae’r paratoadau ar y gweill wrth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr, arddangoswyr a da byw o’r radd flaenaf i ddigwyddiad sy’n dathlu’r gorau o fyd ffermio, cynnyrch Cymreig ac ysbryd y Nadolig.

Bydd Ffair Aeaf 2025 yn cael ei hagor yn swyddogol gan Ieuan a Sion Edwards o ‘r cwmni enwog  Edwards o Gonwy. Cynhelir y Seremoni Agoriadol am 10am ddydd Llun 24 Tachwedd yn Neuadd Arddangos 1, y Prif Gylch.

Teulu enwog o gigyddion o Gymru

Agorodd Ieuan Edwards, cigydd o fri a sylfaenydd Edwards o Gonwy, ddrysau ei siop gigydd draddodiadol ar Stryd Fawr Conwy am y tro cyntaf ym 1983. Heddiw, mae’r busnes yn adnabyddus ledled Cymru a’r DU am ei ymrwymiad diwyro i ansawdd, crefft a chynnyrch lleol. Mae tîm y siop yn ymfalchïo yn eu gallu i gynhyrchu peis, selsig, cigoedd wedi’u halltu a bwydydd deli o ansawdd uchel, y cyfan wedi’u paratoi gan gigyddion profiadol sydd wedi meistroli eu crefft ac sy’n ddefnyddio’r cynhwysion gorau, o ffynonellau lleol lle bynnag y bo modd.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel siop grefftus safonol wedi tyfu i fod yn frand cenedlaethol, ac mae eu selsig a’u peis arobryn “Cigydd o Gymru” bellach yn cael eu mwynhau ar draws y DU ac yn cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd blaenllaw. Mae’r busnes yn dal i esblygu ac i ddatblygu cynnyrch newydd, gan gynnal y traddodiadau a’r safonau sydd wedi saernïo’i enw da dros bedwar degawd.

Mewn pennod newydd gyffrous, mae’r teulu Edwards newydd gaffael ar fferm ger Llanrwst, gan gryfhau eu dull gweithredu “cylch cyfan” trwy gynhyrchu eu cig eidion a chig oen Cymreig eu hunain ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn yr Agoriad Swyddogol, cyflwynir Gwobr Goffa John Gittins 2025, Ysgoloriaeth Nuffield 2026, Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2026 a Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar sy’n cael ei chyflwyno am y tro cyntaf. Mae’r anrhydeddau pwysig hyn yn cydnabod ymrwymiad, arloesi ac arweinyddiaeth neilltuol ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn agor ei gatiau am 8am ddydd Llun 24 Tachwedd, tan ddydd Mawrth 25 Tachwedd. Gall ymwelwyr edrych ymlaen at ddeuddydd o gystadlaethau da byw, bwyd a diod, siopa, arddangosiadau, adloniant a naws Nadoligaidd yn un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr amaethyddiaeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.