Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn dathlu bwyd a ffermio rhagorol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Heidiodd miloedd o ymwelwyr i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar gyfer deuddydd o ddathlu, cystadlu a naws Nadoligaidd. Cynhaliwyd y digwyddiad blynyddol ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ddydd Llun 24 a dydd Mawrth 25 Tachwedd.

Cynhaliwyd y Ffair Aeaf am y tro cyntaf ym 1990 ac, yn wreiddiol, dim ond digwyddiad undydd cymharol fach ydoedd. Erbyn hyn, mae’r Ffair Aeaf wedi dod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr amaethyddiaeth Prydain. Mae’r Ffair wedi cynnal ei henw fel un o’r sioeau gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer stoc o’r radd flaenaf, ac eleni denodd bron i 700 o arddangoswyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Agorwyd Ffair Aeaf 2025 yn swyddogol gan y tad a’r mab, Ieuan a Sion Edwards, o deulu o gigyddion uchel eu parch Edwards o Gonwy, fore Llun. Dewis addas iawn o ystyried thema’r ddarpariaeth addysgol eleni, ‘Ein Bwyd”.

Yn ei araith agoriadol, croesawodd y cigydd o fri, Ieuan Edwards, ymwelwyr, a myfyriodd ar bwysigrwydd y Ffair Aeaf i’r diwydiant. Wrth siarad yn onest am yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r maes cynhyrchu bwyd yn eu hwynebu, tynnodd sylw at rôl hanfodol ffermwyr wrth fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n tyfu. Nododd y pwysau y mae’r diwydiant yn ei wynebu ond hefyd ei gydnerthedd rhyfeddol, gan bwysleisio pwysigrwydd creu amgylchedd lle gall ffermwyr gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

Rhannodd Ieuan, hefyd, y dylanwad dwys y cafodd y Sioe Frenhinol ar ei daith broffesiynol a phersonol, gan gofio am uchafbwyntiau fel ennill Gwobr Syr Bryner Jones yn 2013 a degawdau o gymryd rhan yn y Ffair.

Parhaodd mab Ieuan, Sion Edwards, â’r anerchiad gan roi golwg optimistaidd ar ddyfodol y diwydiant. Roedd ef hefyd yn cydnabod y newid yn nhirwedd cynhyrchu bwyd, a phwysleisiodd  bwysigrwydd sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu ffynnu.

“Er mwyn cwrdd â’r heriau sydd o’n blaenau, rhaid i’n diwydiant fod yn economaidd hyfyw a gweithredu mewn ffordd effeithlon a chynaliadwy. Bydd y dyfodol yn edrych yn wahanol, ond mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yr un mor bwysig o hyd,” meddai Sion.

Wrth fyfyrio ar y llawenydd y gallwn ei gael o fwyd a’r pleser sydd i’w gael o amgylch y bwrdd, dyfynnodd Sion yr awdur a’r athro o Brifysgol Harvard, Michael Pollan:

“Nid tanwydd yn unig yw bwyd. Mae bwyd yn golygu teulu, mae bwyd yn golygu cymuned, mae bwyd yn golygu hunaniaeth. Ac rydyn ni’n maethu’r holl bethau hyn pan fyddwn ni’n bwyta’n dda.” (Cyfieithiad).

Yn ystod yr agoriad swyddogol, fe fu’r seremoni hefyd yn dathlu cyflawniadau nodedig yn y gymuned amaethyddol. Cyhoeddodd Susan Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus ar gyfer Cyhoeddusrwydd, y Wasg a Gwobrau, enwau enillwyr nifer o wobrau uchel eu bri, a gyflwynwyd gan John Owen, Llywydd Sir Gaernarfon 2025:

  • Gwobr Goffa John Gittins 2025 – Kevin Parry, Brycheiniog.
  • Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2026 – Eiry Wiliams, Ceredigion.
  • Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield CAFC 2025 – Tudor Roderick NSch, Brycheiniog.

Cyflwynwyd Gwobr Goffa gyntaf Dai Jones Llanilar i Elen Gwen Williams o Ynys Môn. Elen yw’r cyntaf i ennill y wobr arbennig hon a bydd nawr yn cael cyfle cyffrous i ddatblygu syniad gwreiddiol i’w ddarlledu ar S4C.

Addysg a pholisi

Unwaith eto eleni, chwaraeodd addysg ran ganolog yn y Ffair, gyda dros 2,000 o blant ysgol a myfyrwyr yn bresennol dros y ddeuddydd ac yn manteisio i’r eithaf ar fynediad am ddim ar gyfer ymweliadau arbennig i ysgolion cynradd ac uwchradd, ynghyd â gostyngiadau i grwpiau addysg bellach ac uwch.

Roedd y thema addysgol eleni, Ein Bwyd, yn cynnig profiad dysgu deinamig. Roedd y gweithdai i Flwyddyn 6 a gyflwynwyd gan y cyfanwerthwr bwyd Castell Howell, y darlledydd Myfanwy Alexander, a The Big Science Project, yn gymorth i ddisgyblion ddeall yn well o ble mae eu bwyd yn dod a sut mae’n cael ei gynhyrchu, gydag arddangosiadau coginio byw a sesiynau rhyngweithiol i ddod â’r neges yn fyw.

Cyflwynodd Rhys Jones, sylfaenydd Cattle Strength Gym yn Llanbedr Pont Steffan, dystysgrifau i ysgolion a gymerodd ran, a siaradodd am bwysigrwydd bwyta’n iach ac ymarfer corff. Ag yntau’n gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol, sefydlodd Rhys ei gampfa ar y fferm yn 2015 yn dilyn colled yn y teulu, ac ers hynny mae wedi cyfuno ei angerdd am ffitrwydd a ffermio i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ym maes amaethyddiaeth.

Mae’r digwyddiad deuddydd yn llwyfan pwysig i drafod polisi, ac roedd Gweinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o Lysgenadaethau’r Almaen ac Iwerddon, i helpu i roi’r digwyddiad ar y map rhyngwladol.

Mae’r Gymdeithas yn falch fod y Ffair Aeaf unwaith eto wedi chwarae rhan wrth hwyluso trafodaethau rhwng unigolion a sefydliadau dylanwadol iawn sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ac economi cefn gwlad. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau fel brecwast Hybu Cig Cymru (HCC) gydag anerchiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS.

Da Byw a Cheffylau

Unwaith eto, roedd cystadlaethau da byw wrth galon y digwyddiad, a chafwyd cefnogaeth ardderchog gan arddangoswyr. Roedd y niferoedd uchaf erioed yn adran y moch, yr ail nifer uchaf yn y dosbarth carcas cig oen, a’r dosbarthiadau defaid ar gapasiti llawn.

Dyfarnwyd Prif Bencampwr y Gwartheg – un o wobrau mwyaf uchel eu bri y Ffair Aeaf – i ‘Glangwden Velvet’, heffer Limousin Pedigri sy’n pwyso 598kg, a fridiwyd gan CL ac FE Jerman ac a arddangoswyd gan y Brodyr Edwards o Sir Ddinbych. Gwerthwyd yr anifail trawiadol am £27,000 yn yr ocsiwn ddydd Mawrth, gan osod record newydd am y pris uchaf ar gyfer y digwyddiad.

Aeth Prif Bencampwr y Defaid i bâr gwych o ŵyn Tecsel Iseldiraidd, y ddau wedi’u bridio a’u harddangos gan Tirion Griffiths o Gorwen, Sir Ddinbych.

Dyfarnwyd teitl Prif Bencampwr y Moch (Sengl) i fochyn cig moch Cymreig x Pietrain a arddangoswyd gan y Teulu Jenkins o Gastellnewydd Emlyn, Ceredigion. Yn yr adran parau, enillydd Prif Bencampwr y Moch (Pâr) oedd Mark Horsley o Ddwyrain Swydd Efrog gyda’i foch Pietrain-croes cig moch rhagorol.

Dyfarnwyd teitl Prif Bencampwr y Ceffylau i ‘Llanmorlais Buster’, ebol blwydd Adran D a arddangoswyd gan Mark Swistun o Abertawe. Aeth Pencampwr y Ceffylau Cymreig i ebol blwydd trawiadol arall, y tro hwn yn Adran B a arddangoswyd gan Josh Hampson o Orllewin Swydd Efrog ac sy’n eiddo i Alison Wright.

Adeiladwyd ar y Pentref Ceffylau Trwm hynod boblogaidd, a gyflwynwyd am y tro cyntaf gan Lysgennad Caernarfon, Rhys Griffith yn Sioe Frenhinol Cymru 2025, trwy gynnwys ardal bwrpasol yn y Pafiliwn Ffariaeth i arddangos Ceffylau Trwm mawreddog ochr yn ochr â’r Sioe Helgwn gerllaw, gydag chyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosiadau byw ac arddangosfeydd gan y ffarier.

Hwyl yr ŵyl a siopa

Mewn maes eraill ar Faes y Sioe, aeth y wobr am y Stondin Fasnach Orau i Shearwell Data yn yr Adeilad Da Byw, am ei stondin ddifyr ac addysgiadol.

Eleni, cafwyd dros 370 o stondinau masnach, ynghyd â mwy nag 80 o stondinau ychwanegol yn y Neuadd Fwyd a’r ardal fwyd stryd, lle roedd cyfle i westeion flasu dewis eang o gynnyrch o bob cwr o Gymru. Aeth y wobr am y Stondin Fasnach Orau yn y Neuadd Fwyd i Hufen Iâ Mountainview o Sir Gaerfyrddin, a gydnabuwyd am ei hufen iâ crefftus o’r radd flaenaf wedi’i wneud gyda llaeth lleol a blasau cyfoethog.

Yn dilyn llwyddiant Ffair Aeaf y llynedd, roedd y pentref bwyd a diod o Gymru, Gwledd, yn cynnig cyfuniad bywiog o adloniant byw a bwyd stryd blasus o Gymru. Ymhlith y perfformiadau roedd y Welsh Whisperer, Parti Camddwr a 50 Shêds o Santa Clos, yn ogystal ag ysgolion a chorau lleol.

Cafwyd cyfle i siopa gyda’r hwyr unwaith eto ar y nos Lun – cyfle sy’n boblogaidd bob blwyddyn – a daeth miloedd i fwynhau’r naws Nadoligaidd, y siopa Nadolig a’r arddangosfa dân gwyllt ysblennydd i gerddoriaeth.

Mae llwyddiant y digwyddiad yn ganlyniad i’r pwyllgor gweithgar a phenderfynol, a hefyd i deyrngarwch yr arddangoswyr, y masnachwyr, y gwirfoddolwyr, a’r stiwardiaid. Fyddai ein digwyddiadau ddim yn digwydd heb gefnogaeth ein noddwyr hefyd, ac rydym yn diolch i’n prif noddwyr, Llywodraeth Cymru, HSBC a Dunbia, ynghyd â’r holl noddwyr eraill am helpu i gefnogi’r Ffair Aeaf.

Roedd Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Ffair Aeaf, William Hanks, wrth ei fodd â llwyddiant y digwyddiad:

“Mae wedi bod yn wych croesawu niferoedd mor uchel o ymwelwyr i’r Ffair Aeaf eleni, ac unwaith eto cafwyd naws Nadoligaidd hyfryd ar draws Maes y Sioe. O gerddoriaeth fyw ardderchog a bwyd a diod rhagorol, i safon wych y cystadlu ym mhob adran, roedd y digwyddiad yn dangos y gorau o faes amaethyddiaeth a bywyd gwledig yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar iawn am waith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr, ein stiwardiaid, ein masnachwyr, ein noddwyr ac, wrth gwrs, ein  hymwelwyr, sy’n gwneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Mae’r Gymdeithas yn hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd eleni, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwn i wneud Ffair Aeaf y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn well. Gobeithio bod ein holl westeion wedi mwynhau’r digwyddiad ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl y flwyddyn nesaf.”

Crynodeb o’r canlyniadau:

Prif Bencampwr y Gwartheg

‘Glangwden Velvet’, heffer Limousin Pedigri sy’n pwyso 598kg, wedi’i bridio gan CL ac FE Jerman ac wedi’i harddangos gan y Brodyr Edwards, Corwen, Sir Ddinbych. Gwerthwyd am £27,000 i K Jones, Brechfa.

Prif Bencampwr Cig Eidion Ifanc

‘Pretty Little Thing’, heffer cyfandirol sy’n pwyso 318kg, wedi’i bridio a’i harddangos gan DE ac SJ Cheacker, Caerloyw. Gwerthwyd am £4,400 i R Whitfield, Bold.

Prif Bencampwr y Moch (Sengl)

Mochyn cig moch sengl Cymraeg X Peitrain -, sy’n pwyso 90.5kg, wedi’i arddangos gan y Teulu Jenkins, Castellnewydd Emlyn, Ceredigion. Gwerthwyd am £550 i Gigydd Sion Jones, Ceredigion.

Prif Bencampwr y Moch (Pâr)

Pâr o foch Peitrain X cig moch, sy’n pwyso 86kg ac 88.5kg, wedi’u harddangos gan Mark Horsley, Dwyrain Swydd Efrog. Gwerthwyd am £420 yr un i Manisold Valley Meat Ltd, Leek.

Prif Bencampwr y Defaid

Pâr o ŵyn Tecsel Iseldiraidd, wedi’u bridio a’u harddangos gan Tirion Griffiths, Corwen, Sir  Ddinbych. Gwerthwyd am £1500 y pen i’r White Hart, Llandeilo.

Prif Bencampwr Carcas Sengl

Beltecs, wedi’i fridio gan Ben Moralee ac wedi’i arddangos gan Swinnerton & Hamplett, Swydd Amwythig. Gwerthwyd am £1600.

Pencampwr Carcas Sengl wedi’i fridio yng Nghymru

Beltecs X, wedi’i fridio a’i arddangos gan Gareth Jones, Llanbedr Pont Steffan. Gwerthwyd am £3,000 i’r White Hart, Llandeilo.

Prif Bencampwr Carcas Pâr a Phencampwr Pâr o Garcasau wedi’u bridio yng Nghymru

Pâr o ŵyn Beltecs X, wedi’u bridio a’u harddangos gan TG ac EA Jones, Llanbedr Pont Steffan. Gwerthwyd am £900 yr un i JW Simmons & Son, Lydney, Swydd Gaerloyw.

Pencampwr Hamper Cig

‘Arddangosfa o Gig o Gymru’, wedi’i harddangos gan Wild Welsh Meat yn masnachu dan yr enw Izzy’s Butchers, Powys. Gwerthwyd am £340.

Dofednod ar y gambren

Twrci, sy’n pwyso 16.5 pwys, wedi’i arddangos gan Russel Gibbons, Ceredigion. Gwerthwyd am £450 i D Roberts, Rhydaman.

Cig Moch, Byrgyrs a Selsig

Selsig, a arddangoswyd gan Morgan’r Family Butchers, Llanfair-ym-Muallt.

Asen Cig Eidion

O heffer Aberdeen Angus X Saler, a arddangoswyd gan GCSE Butchers, Powys. Wedi’i fridio gan CVJ a PM Pugh. Gwerthwyd am £180.

Prif Bencampwr y Ceffylau

‘Llanmorlais Buster’, Ebol Blwydd Adran D, sy’n eiddo i Mark Swistun, Abertawe, ac yn cael ei arddangos ganddo.

Prif Bencampwr y Ceffylau
‘Thistledown Red Bull’, Ebol Blwydd Adran B, a arddangoswyd gan Josh Hampson, Gorllewin Swydd Efrog. Perchennog, Alison Wright.

Pencampwr Helgi’r Sioe
Helgi Cymreig, o Helfa Tywi a Chothi, Sir Gaerfyrddin.

Bydd rhestr lawn o’r canlyniadau a’r enillwyr ar gael ar ap a gwefan CAFC cyn bo hir.