Caernarfon yn dwyn ei blwyddyn fel Sir Nawdd i fwcl wrth i Frycheiniog gymryd yr awenau ar gyfer 2026 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Roedd Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd ar Faes y Sioe ar 6 Rhagfyr, yn nodi trosglwyddiad swyddogol cyfrifoldebau’r Sir Nawdd o Gaernarfon i Frycheiniog ar gyfer 2026. Roedd y cyfarfod yn dathlu blwyddyn neilltuol o godi arian, digwyddiadau cymunedol, ac ysbryd sirol cadarn, ac yn croesawu’r tîm newydd a fydd yn arwain y Gymdeithas i mewn i’r flwyddyn sydd ar droed.

Diwedd ar flwyddyn anhygoel

O dan arweiniad y Llywydd, John Owen, gyda chefnogaeth y Llysgennad, Rhys Griffith, mae Caernarfon wedi dod ag egni, ymrwymiad ac undod neilltuol i’w blwyddyn fel Sir Nawdd 2025. Mae ei rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian wedi codi’r swm anhygoel o £252,774.

Canmolodd Cadeirydd y Cyngor, Nicola Davies, dîm Caernarfon am ei ymroddiad:

“Ar ran y Cyngor a’r Gymdeithas, diolchwn i chi John, a’ch gwraig Marian a holl aelodau Caernarfon am flwyddyn fythgofiadwy. Rydych chi’n sicr wedi rhoi Caernarfon ar y map, ac rydyn ni wedi mwynhau blwyddyn lwyddiannus dros ben.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cyflwynodd Caernarfon galendr amrywiol o ddigwyddiadau ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Lansiad Swyddogol y Sioe ym Mhrifysgol Bangor, y Digwyddiad Ffermio Mynydd ar Fferm Hafod y Llan, Eryri, diwrnod cwrdd-i-ffwrdd yn rasys Caer, saethu colomennod clai, nosweithiau cwis, ocsiynau, sioeau ffasiwn, cymdeithasu dros frecwast, ciniawau gyda’r hwyr, cyngherddau a chorau, a’r cyfan wedi gwneud cyfraniad allweddol i ddod â’r sir at ei gilydd a chyfrannu at yr arian a godwyd eleni. Comisiynodd y sir ‘Gerdd Groeso’ hefyd gan y Prifardd enwog Myrddin ap Dafydd, i nodi blwyddyn Caernarfon fel sir nawdd.

Yn ystod ei anerchiad olaf,  mynegodd y Llywydd, John Owen, ei ddiolchgarwch i’w bwyllgor sirol a’i gefnogwyr:

“Mae wedi bod yn flwyddyn wirioneddol arbennig. Er iddi ddechrau gydag ambell i her, mae wedi mynd o nerth i nerth, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r Gymdeithas am ei chefnogaeth trwy gydol y cyfnod. Mae ein blwyddyn fel y Sir Nawdd wedi creu ymdeimlad hyfryd o falchder a chymuned yng Nghaernarfon, a thu hwnt. Mae hefyd wedi tanlinellu pwysigrwydd y Gymdeithas – nid yn unig i’r diwydiant amaethyddiaeth, ond i Gymru gyfan.

Un o’r pethau mwyaf calonogol yw gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn nigwyddiadau’r Gymdeithas; eu hwynebau’n goleuo yn y cylch wrth iddynt dderbyn y cerdyn coch. Nhw yw dyfodol ffermio.”

Cafodd y Llysgennad Rhys Griffith gydnabyddiaeth hefyd gan Janet Phillips, aelod o grŵp pwyllgor cynghorol Sir Gaernarfon, am ei frwdfrydedd a’i gyfraniad neilltuol i’r flwyddyn fel Sir Nawdd.

“Mae Rhys wedi gweithio’n anhygoel o galed yn ystod ei flwyddyn fel Llysgennad. Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef – roedd yn hawdd mynd ato ac roedd yn ymroddgar a bob amser yn barod i wneud mwy na’r disgwyl. Un o’r adegau amlwg oedd y Pentref Ceffylau Trwm newydd yn y Sioe Frenhinol, a drefnwyd mor dda gan Rhys. Roedd yn hyfryd gweld y ceffylau gwedd yn dod â gwên i wynebau cymaint o ymwelwyr. Uchafbwynt bythgofiadwy arall oedd gwylio Rhys yn dod â cheffyl trwm i Brifysgol Bangor ar gyfer Lansiad y Sioe ym mis Mehefin – y tro cyntaf i hynny  ddigwydd, rwy’n siŵr!

Rhys, rwyt ti’n sicr wedi gadael dy farc. Fel y mae’r dywediad yn ei ddweud, os ydych chi eisiau cael rhywbeth wedi’i wneud, gofynnwch i rywun prysur – ac mae Rhys yn ymgorfforiad o hynny. Ffermwr, ymgymerwr, a bridiwr ceffylau ymroddgar, i gyd ar yr un pryd. Rwyt ti’n ddyn ifanc neilltuol ac yn enghraifft ddisglair o’r dalent sydd gennym yn ein sir. Diolch, o waelod fy nghalon, am bopeth rwyt ti wedi’i wneud dros Gaernarfon.”

Brycheiniog yn cymryd yr awenau ar gyfer 2026

Yn dilyn sylwadau clo Caernarfon, croesawodd y Gymdeithas Frycheiniog fel y Sir Nawdd newydd ar gyfer 2026. Arweinydd Brycheiniog yw Gethin Havard, sydd wedi’i benodi’n swyddogol yn Llywydd ar gyfer y flwyddyn Sir Nawdd sydd ar droed.

Mae Gethin, sy’n ffermio ar y cyd â’i ddau frawd, yn ardal Pontsenni, gan redeg buches sugno bîff a diadell o famogiaid bridio, yn dod â phrofiad helaeth a dealltwriaeth ddofn am amaethyddiaeth Cymru i’r rôl. Ag yntau wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Cymdeithas Magwyr Lloi Sugno Brycheiniog a Maesyfed am 17 mlynedd ac fel cynrychiolydd De Cymru ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain am 12 mlynedd, mae wedi dod yn llais uchel ei barch ac yn eiriolwr cryf dros ffermio yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth ei wraig Ceri, Dirprwy Arglwydd Raglaw Powys, a’u tair merch, bydd y teulu’n arwain Brycheiniog trwy flwyddyn o godi arian, ymgysylltu â’r gymuned a gweithgareddau hyrwyddo cyn Sioe Frenhinol Cymru 2026 a thu hwnt.

Wrth gyflwyno Llywydd 2026 yn ystod cyfarfod y Cyngor, dywedodd aelod o grŵp cynghorol Brycheiniog a ffrind agos i Gethin, David Price:

“Mae gan Gethin holl rinweddau a gwerthoedd arweinydd, gwladweinydd ac yn wir Llywydd gwych i Frycheiniog. Mae’n dod â gwybodaeth a gallu gwych i’r rôl, yn ogystal â llaw gadarn a pharodrwydd i gofleidio syniadau newydd, a’r cyfan wrth hyrwyddo nodau’r Gymdeithas a’n cymuned wledig, sydd mor annwyl iddo.”

Wrth dderbyn y rôl, dywedodd y Llywydd newydd ei fod yn teimlo cyfuniad o nerfau a chyffro ar gyfer y flwyddyn sydd ar droed, ond yn anad dim, teimlad o anrhydedd dwfn:

“Mae un sylw gan gyn-Lywydd annwyl iawn, Dai Jones, Llanilar, wedi aros gyda fi o’i araith dderbyn: Dyma’r anrhydedd fwyaf allwch chi ei rhoi i ffermwr yng Nghymru.

“Allwn i erioed fod wedi dychmygu y byddai ein digwyddiadau hyd yn hyn wedi mynd mor dda. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad Tir Glas ar Fferm Cwmbrynich. Rydyn ni wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn barod, a dydyn ni ddim wedi anghofio’r gymuned goll ar Fynydd Epynt. Os bydd popeth yn mynd yn ôl y bwriad, byddwn ni’n cynnal ein lansiad ar yr Epynt yr haf nesaf – mae’n lle arbennig iawn.

“Mae hon yn fraint aruthrol, a hoffwn ddiolch i’m teulu gwych, fy ffrindiau, a’r mentoriaid rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i’w cael ar hyd y daith, am eu holl gefnogaeth.”

Cyhoeddodd y Gymdeithas hefyd benodiad Teleri Haf Thomas yn Llysgennad Brycheiniog ar gyfer 2026. Â hithau wedi graddio o Aberystwyth gyda gradd ddosbarth gyntaf ac yn Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i Menter a Busnes, bydd Teleri yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo gweithgareddau Brycheiniog, cefnogi digwyddiadau, a chynrychioli’r sir yn nigwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru dros y flwyddyn nesaf.

“Mae fy nghyfnod fel Darpar Lysgennad wedi rhoi cyfle i mi werthfawrogi maint yr ymgyrch y mae’r Gymdeithas yn ei chynnal, trwy ei gwirfoddolwyr, cystadleuwyr, stondinau masnach a noddwyr, ac mae wedi bod yn fraint enfawr darganfod meysydd o’r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf. Mae’r profiad hwn wedi dangos i mi sut y gall y digwyddiad gyflwyno pobl i agweddau ar fywyd gwledig na fyddant byth yn dod ar eu traws fel arall.

“Yn ystod y flwyddyn, rwyf wedi dod i ddeall sut mae’r rôl hon yn wirioneddol ddeublyg, ar draws y Gymdeithas a’r sir. Wrth edrych ymlaen, mae cymaint i ddod o hyd, gan gynnwys dychweliad adref hir-ddisgwyliedig y digwyddiad Tir Glas i Frycheiniog. Mae gennym dîm aruthrol yn y sir sy’n ein gyrru ni ymlaen.”

Mae Teleri yn bwriadu dod â chefn gwlad i’r ddinas yr hydref nesaf yn rhan o’i phrosiect fel Llysgennad i ailgysylltu cymunedau gwledig ag ardaloedd trefol, gan drefnu gorymdaith da byw o amgylch Bae Caerdydd ac yna dathliad o fwyd, ffermio a sgiliau cefn gwlad.

Croesawodd cyfarfod y Cyngor hefyd Susan Jones fel Darpar Lywydd a Mari Llifon Jones fel Darpar Lysgennad Ynys Môn, a fydd yn cymryd yr awenau yn 2027.

Mae blwyddyn Sir Nawdd Brycheiniog yn addo rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu treftadaeth amaethyddol gyfoethog y sir ac arloesi ar gyfer y dyfodol, gan gyfrannu ar yr un pryd at ddatblygiad parhaus Maes y Sioe fel un o brif safleoedd amaethyddiaeth Ewrop. Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu strwythur unigryw siroedd nawdd a phwyllgorau cynghorol y Gymdeithas, sy’n sicrhau bod pobl Cymru yn cadw gwir berchnogaeth dros y digwyddiadau.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn diolch o waelod calon i Gaernarfon am ei  chyflawniadau neilltuol ac yn edrych ymlaen at flwyddyn gofiadwy a llwyddiannus gyda Brycheiniog wrth y llyw.