Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Mae’r tymor tyfu yn prysur agosáu, ac yn sgil hynny mae’r gwaith cynllunio ar y gweill ar gyfer Pentref Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru 2026.
Lansiwyd y Pentref Garddwriaeth yn 2024, ac fe fydd yn parhau i ddathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru, o dyfu cymunedol a masnachol i arddangosiadau ac arddangosfeydd cystadleuol. Bydd hefyd yn hyrwyddo manteision iechyd a chymdeithasol garddio. Arweinir y Pentref Garddwriaeth gan yr ethos o ysbrydoli, addysgu a chydweithio, a bydd yn cynnig mannau cymdeithasol cynhwysol, ardaloedd cyfarfod a llwyfannau arddangos sy’n annog dysgu, creadigrwydd a chydweithio.
Mae’r Gymdeithas yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Adam Frost – dylunydd gerddi a garddwriaethwr Prydeinig, sy’n enwog am ei lwyddiannau yn Sioe Flodau Chelsea ac fel cyflwynydd ar Gardeners’ World ar y BBC – yn ymuno â’r Pentref Garddwriaeth ar y dydd Llun. Bydd Adam yn beirniadu ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar draws y Pentref, gan gynnig cyfle i ymwelwyr weld un o ffigurau garddwriaeth enwocaf y DU ar waith.
Bydd yr elfen gystadleuol yn yr un ardal â’r llynedd, a bydd modd mynd at yr ardal honno trwy lwybrau mewnol neu lwybrau allanol. Bydd ardal Garddle, sy’n cynnal cystadlaethau cyffredinol, gweithgareddau i blant a stondinau masnach, unwaith eto yn llifo i ardal Eisteddflodau, ac yma y bydd yr arlwy trefnu blodau, gweithdai a stondinau masnach. Mae’r lle hwn wedi’i ymestyn i gynnwys y Farchnad, sef ardal werthu bwrpasol i dyfwyr Cymru. Bydd y Gwobrau’n cael eu cyflwyno ym Mhabell Dysgubor ar y prynhawn dydd Llun a’r prynhawn dydd Iau.
Mae ‘r atodlenni cystadlaethau ar gyfer y Pentref Garddwriaeth ar gael nawr ar wefan CAFC ac mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau ar agor.
Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu yn yr adran fêl, trefnu blodau, llysiau, planhigion, blodau wedi’u torri, adrannau’r plant, neu gerddi micro, ewch i’r wefan i gael rhagor o fanylion.
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o gyhoeddiadau cyffrous dros yr wythnosau nesaf!
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2026 rhwng 20 a 23 Gorffennaf ar Faes y Sioe Frenhinol. Am ragor o wybodaeth neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.