Mae egin-arweinwyr o bob rhan o’r sectorau amaethyddol a chefn gwlad yn cael eu hannog i gymryd y cam nesaf yn eu datblygiad personol a phroffesiynol, wrth i’r cyfnod ymgeisio agor ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig 2026–27, a gefnogir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn galw ar unigolion uchelgeisiol i ddilyn yn ôl troed Llysgennad presennol CAFC, Teleri Haf Thomas, a gwblhaodd y rhaglen yn 2024, ac i fanteisio ar y cyfle hwn a ariennir yn llawn i fagu hyder, ehangu eu rhwydweithiau a dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant.
Mae’r rhaglen, sy’n cefnogi carfan o hyd at 12 cynrychiolydd, yn cynnig cyfuniad unigryw o ddatblygiad personol, hyfforddiant ym maes arweinyddiaeth ac ymgysylltiad â’r diwydiant. Bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau gwerthfawr ym maes cyfathrebu, trafod y cyfryngau a rheoli, ac yn meithrin cysylltiadau â ffigurau allweddol ar draws y sector amaethyddol ar yr un pryd.
Trwy gyfres o sesiynau i’w trwytho, a gynhelir ar draws y DU, gan gynnwys ymweliadau â Chaerdydd a Llundain, bydd cynrychiolwyr yn cwrdd ag arweinwyr a sefydliadau dylanwadol, yn archwilio safbwyntiau newydd ac yn herio eu huchelgeisiau eu hunain.
Wrth feddwl am ei phrofiad ei hun, meddai Llysgennad presennol Sir Nawdd Brycheiniog, Teleri Haf Thomas:
“Heb os nac oni bai, heb y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, fyddwn i ddim wedi magu’r hyder na’r momentwm i gamu ymlaen a gwneud cais am rôl y Llysgennad gyda’r Gymdeithas. Mae’r rhaglen wedi fy nhynnu allan o’m man cyfforddus ac wedi rhoi hyder i fi i ystyried cymryd cyfleoedd nad oeddwn i wedi’u cael o’r blaen.
“A dweud y gwir, ar y daith adref o’r sesiwn olaf yn Llundain, lle cefais ymdeimlad o gyflawniad go iawn, y penderfynais ymgeisio. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle unigryw i unrhyw un sy’n angerddol am y diwydiant amaethyddol yng Nghymru i ddysgu gan y diwydiant ac i herio arweinwyr, a myfyrio ar eu huchelgeisiau eu hunain a’u hymestyn ar yr un pryd, a hynny ar lefel bersonol a phroffesiynol.
“Roedd bod yng nghanol pobl a oedd i gyd eisiau gwneud gwahaniaeth, boed ynddyn nhw’u hunain neu yn eu rolau proffesiynol a’u bywyd gwaith beunyddiol, wedi creu ymdeimlad go iawn o ysfa a momentwm y mae’n anodd ei efelychu.”
Cynhelir y Diwrnod Dethol ddydd Iau 30 Ebrill 2026, a bydd gofyn i ymgeiswyr ddod i sesiwn ragarweiniol y Rhaglen ar Faes y Sioe.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i Seremoni Wobrwyo yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun 20 Gorffennaf, pan fydd y Gymdeithas yn cyhoeddi’n swyddogol yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC 2026-27.
Bydd sesiynau allweddol yn cael eu cynnal fis Mai, mis Medi a mis Ionawr nesaf.
Bydd cyfranogwyr sy’n cwblhau’r rhaglen yn cael eu gwahodd i Seremoni Wobrwyo Sioe Frenhinol Cymru 2027 ac yn cael tystysgrif cyflawniad uchel ei bri
Mae Rural Advisor yn falch iawn o gyflwyno’r Rhaglen ar ran y Gymdeithas.
“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn hwylusydd ar gyfer y Rhaglen hon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr,” meddai Alison Harvey o Rural Advisor. “Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyflwyno cais, byddwn yn hapus iawn i sgwrsio, felly cysylltwch â fi.”
Mae’r rhaglen wedi’i hariannu’n llawn diolch i gymynrodd hael gan y diweddar Mr N Griffiths ac arian cyfatebol gan Bwyllgor Cynghorol Sirol Morgannwg.
Mae’r Gymdeithas yn chwilio am unigolion sy’n angerddol am ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn barod i ymrwymo’n llawn i’r Rhaglen.
Peidiwch â cholli’r cyfle anhygoel hwn i drawsnewid eich potensial i arwain.
Ymgeisiwch Nawr
Bydd y cyfnod ymgeisio’n cau am 4pm ddydd Iau 23 Ebrill 2026.
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno’u ceisiadau wedi’u cwblhau trwy e-bost i: [email protected].
Am ragor o wybodaeth neu i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i wefan CAFC.