Ei Huchelder Brenhinol Duges Caeredin i ymweld â'r Sioe Frenhinol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Bydd Ei Huchelder Brenhinol Duges Caeredin yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2026.

Bydd y Dduges, a fu’n flaenorol yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru yn 2003 a’r Ffair Aeaf yn 2018, yn ymweld â’r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf yn rhinwedd ei rôl fel Noddwr ASAO (Association of Show and Agricultural Organisations), rôl sydd wedi bod ganddi er 2012.

ASAO yw’r corff cynrychiadol ar gyfer digwyddiadau amaethyddol, garddwriaethol, ceffylau a chefn gwlad y DU, ac mae’r Dduges yn cefnogi sioeau amaethyddol yn rheolaidd ar draws y wlad.

Meddai Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf i ni i groesawu Ei Huchelder Brenhinol Duges Caeredin i’r Sioe Frenhinol. Mae’n galonogol dros ben fod aelodau’r Teulu Brenhinol yn dal i gymryd diddordeb mor weithgar a dwfn mewn materion gwledig. Bydd hwn yn achlysur arbennig iawn i ni. Hanfod Sioe Frenhinol Cymru yw dod â phobl at ei gilydd, a bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cael cyfle i gwrdd â rhai o’r bobl wych sy’n sicrhau bod y Sioe Frenhinol yn ddigwyddiad mor arbennig.”

Yn ystod ei hymweliad, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn teithio o amgylch Maes y Sioe, yn cwrdd ag arddangoswyr, ffermwyr ifanc a gwirfoddolwyr, ac yn gweld rhai o’r ychwanegiadau cyffrous at y Sioe Frenhinol sy’n newydd eleni.

Mae Ei Huchelder Brenhinol yn cael ei chydnabod yn eang am gefnogi ffermio, cynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig.

Meddai Richard Price, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe: “Mae Duges Caeredin yn wybodus iawn am sioeau amaethyddol, â hithau wedi ymweld â llawer o ddigwyddiadau yn ei rôl fel Noddwr ASAO, felly mae’n siŵr o’n cadw ni ar flaenau’n traed! Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddangos y gorau o fyd amaethyddiaeth Cymru iddi ac i sicrhau ei bod yn gadael gydag atgofion melys iawn am y Sioe Frenhinol a’i phobl.”

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2026 o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r digwyddiad pedwar-diwrnod yn un o uchafbwyntiau’r calendr amaethyddol, ac yn dathlu cystadlaethau da byw a cheffylau, sgiliau cefn gwlad, bwyd a diod, garddwriaeth, coedwigaeth, campau cefn gwlad, siopa ac adloniant.

Cewch fanylion llawn y digwyddiad a gwybodaeth am docynnau ar wefan CAFC.