Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dadorchuddio Neuadd Morgannwg ar ei newydd wedd - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o ddadorchuddio Neuadd Morgannwg ar ei newydd wedd ar Faes y Sioe Frenhinol. Mae’r cam hwn yn nodi penllanw ar brosiect gwella mawr ar gyfer un o fannau arddangos mwyaf y lleoliad o ran ei faint a’r defnydd ohono.

Mae Neuadd Morgannwg yn rhychwantu bron i erw o ran maint, ac yn chwarae rhan ganolog trwy letya stondinau masnach, arddangosiadau, cystadlaethau ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Fe’i adeiladwyd yn 1975 yn wreiddiol ac fe’i adwaenwyd fel Neuadd De Morgannwg, ond ailenwyd yr adeilad ar ôl cwblhau’r rhaglen adnewyddu helaeth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith mawr wedi trawsnewid y Neuadd, gan gynnwys ailosod y to yn gyfan gwbl a gosod cladin newydd ar y talcen deheuol. Gosodwyd paneli gwydr mawr hefyd yn rhan o’r dyluniad, fel bod llawer mwy o olau naturiol yn llifo i mewn gan greu lle mwy golau a chroesawgar i arddangoswyr ac ymwelwyr.

Ar dalcen y neuadd mae yna gladin pren newydd sy’n rhoi golwg gyfoes i’r adeilad ac yn ategu at y Neuadd Fwyd gyfagos.

Fe fu’r prosiect ailwampio yn bosibl diolch i ymdrechion codi arian rhagorol Sir Nawdd Morgannwg yn 2023, ac mae ei hymroddiad a’i hymrwymiad wedi helpu i sicrhau gwaddol parhaol ar Faes Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r Gymdeithas yn diolch o waelod calon i dîm cyfan Morgannwg, dan arweiniad Llywydd 2023, Mr John Homfray FRAgS.

Meddai Prif Weithredwr CAFC, Aled Rhys Jones:

“Rydyn ni’n hapus dros ben â’r gwaith adnewyddu – mae’n teimlo fel adeilad hollol newydd. Mae cymaint o bobl wedi dweud pa mor drawiadol mae’n edrych, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r tîm yn Morgannwg y mae eu hymdrechion i godi arian wedi sicrhau bod y gwaith hwn yn bosibl.

“Mae Neuadd Morgannwg yn lle mor amlbwrpas, sy’n ddelfrydol ar gyfer sioeau masnach, arddangosiadau ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gyda chyfleusterau ardderchog a digon o le i barcio. Hoffwn ddiolch hefyd i’n Rheolwr Ystadau, Andrew Crockett, sydd wedi goruchwylio’r prosiect ac wedi sicrhau bod popeth wedi’i gwblhau mewn da bryd ar gyfer y Sioe eleni, ynghyd â’n contractwyr, J A Morgan Construction a Vanguard Roofing, ein Syrfewyr Meintiau, CQS Solutions, a’n Hymgynghorwyr Cynllunio, B P & Ltd.”

Ychwanegodd John Homfray FRAgS, Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2023:

“Gyrrwyd ein blwyddyn fel Sir Nawdd gan awydd i gyflawni dau brosiect arwyddocaol; adnewyddu Neuadd Morgannwg a lansio’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig.

“Mae system unigryw Sioe Frenhinol Cymru, sy’n grymuso ac yn cefnogi Siroedd Nawdd i gyflawni prosiectau parhaol, yn ysgogiad gwych. Fe fuon ni’n gweithio’n ddiflino trwy gydol ein blwyddyn fel Sir Nawdd a’r blynyddoedd o gynllunio a chodi arian cyn hynny, i helpu i wireddu’r dyheadau hyn, ac rydyn ni’n falch dros ben o’r hyn a gyflawnwyd.”

Mae cwblhau’r gwaith o adnewyddu Neuadd Morgannwg yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fuddsoddi yn nyfodol Maes Sioe Frenhinol Cymru. Mae’n un o brif safleoedd amaethyddol a digwyddiadau’r DU, ac mae Maes y Sioe yn parhau i esblygu i ddiwallu anghenion arddangoswyr, ymwelwyr a threfnwyr digwyddiadau, gan sicrhau y bydd yn parhau i fod yn addas at y diben am genedlaethau i ddod.

Bydd Neuadd Morgannwg ar ei newydd wedd yn ymddangos am y tro cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru 2026, lle bydd miloedd o ymwelwyr yn cael cyfle i brofi’r cyfleuster drostyn nhw eu hunain.