Gethin Lewis o Faesyfed yw enillydd Gwobr Dr Emrys Evans 2026 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Roedd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wrth ei bodd i gyhoeddi mai Gethin Lewis o Lan Elan, Cwmdauddwr, Rhaeadr Gwy, yw enillydd Gwobr Dr Emrys Evans 2026.

Mae eleni yn nodi 20 mlynedd ers cyflwyno’r wobr am y tro cyntaf yn 2006 er cof am y diweddar Dr Emrys Evans, cyn-Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas. Sefydlwyd y wobr i gydnabod talent ifanc neilltuol ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae ffocws y wobr ar thema wahanol ac eleni fe’i cyflwynir i unigolyn o dan 35 oed sy’n gwneud cyfraniad sylweddol ac yn rhagori ym maes cneifio defaid yng Nghymru – diwydiant lle mae Cymru’n dal i osod safonau sy’n arwain y byd.

Gwahoddir pob un o bwyllgorau ymgynghorol sirol y Gymdeithas i enwebu ymgeisydd, ac eleni enwebai Maesyfed fydd yn ennill y wobr.

Canmolodd y beirniaid, Aled Wyn Davies a Gareth Jones, safon yr ymgeiswyr a nerth y sector: “Fe wnaethon ni gwrdd â deg ymgeisydd rhagorol; pob un wedi’i enwebu gan ei sir, ac roedd yn fraint clywed eu straeon, eu huchelgeisiau a’u hangerdd am y diwydiant cneifio defaid. Mae cneifio yng Nghymru ymhlith y cneifio mwyaf trefnus ac uchaf ei barch yn y byd.”

Yn dilyn proses feirniadu drylwyr, daeth y panel i benderfyniad unfrydol. Cafodd Gethin Lewis ei gydnabod am ei gyflawniadau neilltuol,  ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ennill teitl Pencampwr Cneifio Cymru yn 2023 a 2024 a chynrychioli Cymru ar sawl achlysur.

Yn 2026, ef oedd y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth Cneifio Agored Gradd Gyntaf yn Taihape Shears yn Seland Newydd. Ef hefyd sydd â record wyth awr Un Stondin a Dwy Stondin Ynysoedd Prydain, gan gneifio 696 o ddefaid – tipyn o gamp!

Y tu hwnt i’r cystadlu, mae Gethin wedi cyfrannu’n sylweddol at y diwydiant, gan sefydlu stondin gneifio gartref sydd bellach yn cynnal Cystadleuaeth Gneifio Cwmdauddwr bob blwyddyn, gan gefnogi datblygiad talent y dyfodol.

Disgrifiodd y beirniaid ef fel “llysgennad neilltuol dros gneifio defaid, model rôl rhagorol i’r genhedlaeth nesaf, a derbynnydd haeddiannol iawn ar gyfer y wobr hon.”

Nodwyd ei ymrwymiad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru hefyd, gan dynnu sylw at eu pwysigrwydd wrth gynrychioli’r diwydiant gartref a thramor.

Roedd pob un o’r 10 ymgeisydd a enwebwyd yn adlewyrchu nerth a dyfnder y talent sy’n dod i’r amlwg ym maes cneifio yng Nghymru, gyda phob un yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r diwydiant.

Ar ôl cael ei gyhoeddi’n enillydd, dywedodd Gethin Lewis:

“Rwy’n hynod o ddiolchgar fy mod wedi cael fy enwebu i gynrychioli Sir Faesyfed ar gyfer y wobr hon, a hoffwn ddiolch i’r beirniaid am fy newis yn enillydd. Mae’r diwydiant cneifio yng Nghymru mewn sefyllfa gref iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwn a chynnal y cryfder hwnnw wrth symud ymlaen.”

Cyflwynir Medal a Thystysgrif Dr Emrys Evans i Gethin Lewis ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2026 o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Am docynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i www.cafc.cymru.