Y Pentref Garddwriaeth yn dychwelyd gyda rhaglen lawn dop o sgyrsiau ac arddangosiadau - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Gall ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol edrych ymlaen at bedwar diwrnod o sgyrsiau arbenigol, arddangosiadau byw a gweithdai ymarferol wrth i’r Pentref Garddwriaeth ddychwelyd gyda’i raglen fwyaf amrywiol hyd yn hyn.

Erbyn hyn, mae’r Pentref Garddwriaeth yn ei drydedd flwyddyn ac mae wedi dod yn un o atyniadau mwyaf bywiog y Sioe, gan ddod â selogion garddio, tyfwyr, arbenigwyr o’r diwydiant a theuluoedd at ei gilydd i ddathlu pob agwedd ar arddwriaeth. Mae’r Pentref ar Rodfa A rhwng Mynedfeydd A ac M, ac, unwaith eto, bydd yn arddangos cynnyrch amrywiol y cystadlu ochr yn ochr ag arddangosiadau i’ch ysbrydoli, arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfleoedd i ddysgu gan rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r DU ar arddwriaeth.

Elfen newydd ar gyfer 2026 yw’r Ardd Ganolog, sef lle croesawgar sydd wedi’i gynllunio i arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni hyd yn oed yn y gerddi lleiaf, a chynnal rhaglen amrywiol o sgyrsiau garddio, sesiynau coginio a cherddoriaeth fyw trwy gydol yr wythnos.

Ymhlith y prif atyniadau eleni mae cyflwynydd arobryn Gardeners’ World ar y BBC, Adam Frost, a fydd yn ymweld ddydd Llun i feirniadu’r Gerddi Arddangos Micro a chystadleuaeth ferfa’r plant, cynnal sesiwn holi ac ateb a thraddodi sgwrs, gan roi cyfle i ymwelwyr glywed gan un o bersonoliaethau garddio mwyaf adnabyddus y DU.

Wrth sôn am ei bresenoldeb yn y Sioe eleni, meddai Adam Frost, “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi i gyd yn y Pentref Garddwriaeth ddydd Llun. Mae Cymru yn fan poblogaidd a llwyddiannus dros ben ar gyfer garddwriaeth, a alla’ i ddim aros i ymweld fel beirniad a siaradwr gwadd.”

Yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod, gall ymwelwyr fwynhau trafodaethau a gweithdai sy’n trafod dewis eang ac amrywiol o bynciau, gan gynnwys garddio mewn mannau bach, garddio heb balu, lluosogi, compostio, iechyd y pridd, cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, planhigion tŷ, cadw gwenyn, celf flodau a thyfu er mwyn arddangos.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys rhestr drawiadol o siaradwyr ac arddangoswyr gan gynnwys yr arbenigwraig ar arddio Stephanie Hafferty, yr awdures a’r ddarlledwraig Liz Zorab, yr arbenigwraig ar fwyd a’r awdures Nerys Howell, Adam Jones o Adam yn yr Ardd, ochr yn ochr ag arbenigwyr o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, The Houseplant Place, Pheasant Acre Plants, Farmyard Nurseries a llawer mwy.

Bydd Dysgubor yn dychwelyd unwaith eto ac yn cyflwyno amserlen helaeth o weithdai ymarferol, trafodaethau ac arddangosiadau, gan gynnig cyfle i ymwelwyr gael cyngor arbenigol, holi cwestiynau a dysgu sgiliau newydd, mewn lleoliad anffurfiol a rhyngweithiol. Mae’r pynciau’n amrywio o adfer mawndiroedd a sicrwydd bwyd i gompostio, gyrfaoedd ym maes garddwriaeth a dyfodol tyfu cynaliadwy yng Nghymru.

Yn ogystal â’r sgyrsiau, mae yna ddigonedd o bethau i’w darganfod yn y Pentref Garddwriaeth. Gall ymwelwyr edmygu gwaith y cystadleuwyr niferus sy’n dangos y gorau o fyd y blodau, llysiau, ffrwythau a chelf flodau, pori trwy’r stondinau masnach arbenigol a’r Farchnad Tyfwyr sy’n cyflwyno planhigfeydd arobryn o Gymru, ac archwilio’r Gerddi Arddangos Micro dychmygus sy’n llawn dop o syniadau creadigol ar gyfer gerddi o bob maint.

Mae Sioe Fêl Genedlaethol Cymru hefyd yn dychwelyd, gan arddangos cynnyrch y cystadlu, cwch gwenyn arsylwi, gweithgareddau rholio canhwyllau a chyfleoedd i ddysgu mwy am rôl hanfodol gwenyn yn ein hamgylchedd.

Fe fydd arddangosiadau cerflunio byw, gweithdai celf flodau a pherfformiadau gan gerddorion o Gymru trwy gydol yr wythnos yn ychwanegu at yr awyrgylch byrlymus, gan sicrhau bod rhywbeth i’w fwynhau rownd bob cornel.

Meddai Adam Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus Garddwriaeth a Mêl gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:

“Mae’r Pentref Garddwriaeth bellach yn ei drydedd flwyddyn ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth, gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr arddangoswyr a’r cystadleuwyr, Gerddi Arddangos i’ch ysbrydoli ac amrywiaeth gyffrous o sgyrsiau a gweithgareddau sy’n cwmpasu pob agwedd ar arddwriaeth.

“Efallai eich bod chi’n troi eich llaw at arddio am y tro cyntaf neu’n hen law. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae yma rywbeth i bawb. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr trwy gydol yr wythnos.”

O gyngor arbenigol ac arddangosfeydd blodau trawiadol i erddi creadigol a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu, mae’r Pentref Garddwriaeth yn cynnig rhywbeth i ysbrydoli pob ymwelydd.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun 20 i ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol. I gael rhagor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.cafc.cymru.