Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae dod â stondin masnach i un o’n digwyddiadau yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes.

Mae’r Gymdeithas yn cynnal tri digwyddiad mawr, felly mae gennym ni lu o gyfleoedd i chi gwrdd â’ch cynulleidfa wyneb yn wyneb a’i thargedu, gwella ymwybyddiaeth o’ch brand a gwerthu.

Gall arddangoswyr stondinau masnach ddisgwyl cael llawer iawn o sylw cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau… fe wnaiff hyn oll eich helpu i gyrraedd at nifer fawr o ddarpar gwsmeriaid.

Mae’r tri digwyddiad yn denu bron iawn 300,000 o bobl, ac ar hyn o bryd, bydd ychydig yn llai na 3,000 o stondinau masnach yn mwynhau buddion arddangos ar faes Sioe Frenhinol Cymru. Bydd cwmnïau yn gwerthu amrywiaeth enfawr o nwyddau, yn cynnwys gwerthwyr peiriannau, iechyd a harddwch, nwyddau garddio, crefftau, dillad a bwyd a diod, a cheir digonedd o gyfleoedd i unrhyw fusnes fanteisio o arddangos yn ein digwyddiadau.

P’un ai a ydych chi’n fusnes annibynnol bychan yn gwerthu nwyddau o waith llaw, neu’n sefydliad amlwladol mawr, mae lle addas ar gael ar gyfer eich stondinau masnach chi.

Ffeithiau Sioe Frenhinol Cymru:

  • Bydd ymwelwyr yn gwario bron iawn £10 miliwn wrth ymweld â Sioe Frenhinol Cymru

  • Amcangyfrif bod gwerthiant eilaidd (masnach busnes yn bennaf) yn werth dros £6 miliwn

  • Mae’n debyg y bydd gwerth £3 miliwn o fudd economaidd ychwanegol wrth i werthiant symud i lawr y gadwyn gyflenwi

  • Mae 82% o fasnachwyr wedi cynnal stondin masnach yn sioe yn ystod blynyddoedd blaenorol

  • Credai 83% o fasnachwyr bod y proffil ymwelwyr yn cyd-fynd â’u disgwyliadau

  • Dywedodd 9 o bob 10 masnachwr eu bod yn credu y byddent yn mynychu sioe y flwyddyn nesaf

  • Cafodd 70% o fasnachwyr eu cymell i fynychu’r sioe i hyrwyddo eu brand, ac roedd 55% yn gobeithio gwerthu yn uniongyrchol i bobl

  • Dywedodd 96% o fasnachwyr y byddent yn argymell Sioe Frenhinol Cymru i fasnachwyr eraill!

Blaenorol
“Dyma brif ddigwyddiad ein calendr. Mae'n hynod o bwysig i ni, i'n haelodau ac i'r byd amaeth yng Nghymru.”
“Mae pobl yn disgwyl i mi fod yno, rwyf i wedi bod yn yr un stondin ers 14 mlynedd.”
“Mae'r rhywbeth rydym ni'n ei wneud ers tro, yn bennaf oherwydd ansawdd y cysylltiadau y byddwn yn eu gwneud ac i ddenu ymholiadau newydd.”
Nesaf
Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad

Dathliad deuddydd o fywyd tyddynod a chefn gwlad, â rhaglen brysur o adloniant, gweithgareddau addysgol, gweithdai am ddim, dros 1,400 o gynigion da byw, neuadd fwyd, llecyn bwyd stryd ac adloniant, cannoedd o stondinau masnach, a pherfformiadau cyffrous yn y prif gylch.

Sioe Frenhinol Cymru

Y sioe yw uchafbwynt calendr digwyddiadau amaethyddol Prydain, ac mae'n cynnig rhywbeth i ddiddori pawb trwy gyfrwng ei hamrywiaeth helaeth o weithagreddau yn cynnwys pedwar diwrnod o gystadlaethau cyffrous, da byw, siopa, coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen adloniant gyffrous sy'n para 12 awr bob dydd.

Y Ffair Aeaf

Un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop sy'n denu arddangoswyr da byw o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn cystadlu am y prif wobrau yn ystod y digwyddiad dau ddiwrnod. Bydd cynhyrchwyr bwyd gorau Cymru yn arddangos eu nwyddau a gall siopwyr Nadolig fwynhau awyrgylch y Nadolig wrth bori trwy'r cannoedd o stondinau masnach.

Noddwyr

Beth am gyfuno safle eich stondin masnach â phecyn nawdd, ac elwa o’r holl fuddion sydd ar gael i chi?

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch:
Lucy Walton Powell
Swyddog Stondinau Masnach
Ffôn
01982 554408