Digwyddiadau - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Ochr yn ochr â’r rhaglen orlawn arferol o gystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau bydd y Ffair ddeuddydd yn llawn dop o ddathliadau Nadoligaidd, yn cynnwys siopa gyda’r hwyr ac arddangosfa tân gwyllt ar y nos Lun.

Draw oddi wrth y cylchoedd beirniadu mae goreuon cynhyrchwyr bwyd Cymru yn arddangos eu cynnyrch a bydd siopwyr Nadolig yn gallu chwilota cannoedd o stondinau masnach.

Cystadlaethau

Mae gan Ffair Aeaf Frenhinol Cymru enw am fod yn un o’r sioeau stoc ddethol gorau yn y DU, os nad Ewrop. Mae stocmyn balch yn dod â’u hanifeiliaid o’r radd flaenaf o agos ac ymhell, i gystadlu am gyfle i ennill teitl pencampwriaeth a’u cyfran o’r arian sydd ar gael yn wobr.

Ochr yn ochr â da byw o’r radd flaenaf, gall ymwelwyr fwynhau dewis helaeth o atyniadau gan gynnwys cystadlaethau ceffylau, arddangosfeydd cigyddiaeth arbenigol, crefftau cartref, sioeau cŵn, ac adran trefnu blodau hynod o drawiadol.

Gyda channoedd o gystadlaethau’n cael eu cynnal dros y ddau ddiwrnod, mae yna rywbeth at ddant pawb.

Siopa

Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle perffaith i godi rhai eitemau unigryw, o ansawdd arbennig, o’n dewis helaeth o gynhyrchion amaethyddol, nwyddau ar gyfer y cartref ac anrhegion, celf a chrefft, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, a llawer mwy.

Bydd y stondinau masnach ar agor tan yr hwyr nos Lun 24 Tachwedd ar gyfer ychydig o siopa Nadolig gyda’r hwyr.

Bwyd a Diod

Mae’r Neuadd Fwyd yn y Ffair Aeaf yn denu cynhyrchwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac mae’n llawn dop o fwydydd blasus, arddangosiadau, anrhegion Nadolig a thameidiau i’w blasu.

Mae ardal boblogaidd Gwledd | Feast, yn y Sied Gneifio, yn addo bod yn ganolbwynt byrlymus ar gyfer bwyd stryd lleol o Gymru, gyda phopeth o dameidiau sawrus i ddanteithion Nadoligaidd moethus.

Dewch draw a bwytwch, yfwch a byddwch lawen!

Tân gwyllt

Mae’r arddangosfa dân gwyllt anhygoel yn ffefryn ymhlith gwesteion y Ffair Aeaf. Y ffordd berffaith o orffen diwrnod cyntaf y digwyddiad, felly dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau at ei gilydd i fwynhau’r uchafbwynt gwych hwn.

Gallwch weld yr arddangosfa am 7:00pm nos Lun 24 Tachwedd – peidiwch â’i cholli!

Adloniant Cerddorol

Mwynhewch yr awyrgylch Nadoligaidd yn y Ffair Aeaf gydag adloniant cerddorol byw ar ddau ddiwrnod y digwyddiad! Mwynhewch amrywiaeth o berfformiadau ar lwyfan Llwyfan Gwledd, gyda phopeth o dalent leol i ffefrynnau tymhorol bywiog.

Efallai eich bod chi’n aros i wrando am ychydig neu’n setlo i glywed set lawn. Beth bynnag yw’ch bwriad, mae’r gerddoriaeth yn gefndir hudolus i’ch profiad yn y Ffair Aeaf.

Groto Siôn Corn

Dewch draw i gwrdd â Siôn Corn yn ei Groto yn y Ffair Aeaf! Bydd yn Nhŵr y Cloc, Tŷ Ynys Môn, ger y Bandstand, ar ddau ddiwrnod y digwyddiad.

Teledu a Radio

Peidiwch â mynd i banig os na allwch chi ddod i fwynhau’r digwyddiad ei hun, mae yna ddigon o gyfleoedd i ddal i fyny â holl weithgarwch y Ffair Aeaf ar y teledu a’r radio.

Bydd S4C yn dangos yr holl fwrlwm yn fyw ar y ddau ddiwrnod, gyda sioe uchafbwyntiau bob nos. Mae BBC Radio Cymru a Radio Wales yn darlledu’n fyw o Faes y Sioe trwy gydol y digwyddiad.

Ap Frenhinol Cymru

Lawrlwythwch ein ap am ddim ac ewch ati i greu eich amserlen eich hun ar gyfer y Ffair Aeaf, i sicrhau na fyddwch chi’n colli dim wedi cyrraedd.

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Peidiwch ag oedi! Rhaid i tocynnau gael eu prynu cyn y digwyddiad ar-lein am y Ffair eleni