Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Beth yw’r digwyddiadau? Sut i gyrraedd yma? Ble i aros? Tocynnau… mae popeth sydd angen i chi ei wybod yma…
Mae'r Ffair Aeaf yn gyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd i blant, o'r fferm i'r fforc. Rydyn ni’n croesawu ymweliadau gan ysgolion a cholegau ac yn eu hannog.
Angen gwybod ble mae'r toiled agosaf, peiriant arian neu ganolfan cymorth cyntaf. Darganfyddwch am holl gyfleusterau'r safle.
Gwyliwch ein fideo hygyrchedd, sy'n dangos sut i fynd i mewn i Faes y Sioe, ble i barcio, a sut olwg sydd ar Faes y Sioe.
Mae lle i barcio ceir AM DDIM ar gael ym mhen isaf maes y sioe, ac mae o fewn cyrraedd agos ar droed o’r brif fynedfa. Mae lle parcio agosach ar gael yn ein maes parcio ar gyfer ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas.
Mae Llanelwedd, Llanfair ym Muallt a'r ardal gyfagos yn cynnig dewis gwych o fusnesau bwely a brecwast, gwestai, bythynnodd, tai llety a mannau gwersylla yn un o ardaloedd gwledig mwyaf godidog ac ysblennydd y DU.
Peidiwch ag oedi! Osgowch y ciwiau wrth y giât a manteisiwch ar brisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw, trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.