Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd pedwar ar bymtheg o weithwyr amaethyddol o bob cwr o Gymru, sydd gyda’i gilydd wedi cyflawni dros 900 mlynedd o wasanaeth, yn derbyn Medal neu dystysgrif Hir-Wasanaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mewn cydnabyddiaeth o’u hymroddiad i’r diwydiant amaethyddol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Y rhai sy’n derbyn medalau eleni yw:

  • Gerald Brown, o Glasnant, Caerfyrddin, sydd wedi gweithio o fewn y diwydiant am 60 mlynedd, yn fwyaf diweddar i FAWL fel Asesydd Gwarant Fferm am y 18 mlynedd ddiwethaf.
  • John Cartwright, o Erw’r Llan, Yr Wyddgrug, sydd wedi gweithio i Philip Robinson, Walgoch, Nannerch, Yr Wyddgrug am 50 mlynedd.
  • William Edward Cartwright, o Lôn Cilan, Cilcain, Yr Wyddgrug, sydd wedi gweithio i T Williams a’i Fab, Fforrest Farm Cilcain, Yr Wyddgrug am 47 mlynedd.
  • Aneurin Glyndwr Davies, o Caersalem House, Cwmann, Llanbed, sydd wedi gweithio i W D Lewis a’i Fab, Melin Mark Lane, Heol y Bont, Llanbed am 48 mlynedd.
  • David Davies, o Raglan, Sir Fynwy, a fu’n gweithio i Pontypool Park Estate, Pontypwl am 46 mlynedd ac i Welsh Tree Services, Canolfan Arddio Rhaglan am y 4 blynedd ddiwethaf. (50 mlynedd o wasanaeth i gyd)
  • David Rees Davies (Dewi), o Glanafan, Llanllwni, Llanybydder sydd wedi gweithio i David Thomas Hefin Evans, Swyddfa’r Mart, Llanybydder am 60 mlynedd.
  • David Tom Lloyd Davies (Dewi), o Glynteg, Llanybydder sydd wedi gweithio i David Thomas Hefin Evans, Swyddfa’r Mart, Llanybydder am 60 mlynedd.
  • Kenneth Wyn Davies, o Ty Mawr, Tywyn, Gwynedd, sydd wedi gweithio i Syr Meuric Rees, Escuan Hall, Tywyn, Gwynedd am 42 mlynedd.
  • Robert Henry Hamer, o Maes-yr-Haul, Aberystwyth, a fu’n gweithio i Thomas Tudor, Glanystwyth, Aberystwyth am 7 mlynedd ac i Hugh ac Ann Tudor, Tynberllan, Llanilar, Aberystwyth am 39 mlynedd. (46 mlynedd o wasanaeth i gyd)
  • Williams Huw Hopkins, o Penlon Uchaf, Llangwyryfon, Aberystwyth sydd wedi gweithio i’r teulu Davies, Brenan, Aberystwyth am 45 mlynedd.
  • John Arthur Jones, o Stablau Isaf, Rhiwlas, Y Bala, Gwynedd, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 45 mlynedd, yn fwyaf diweddar i Rhiwlas Farm Partnership, Rhiwlas, Y Bala.
  • Keith Bryn Jones, o Ty Uchaf, Llandderfel, Y Bala, Gwynedd, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 53 mlynedd, yn fwyaf diweddar i’r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Newborough, Ystâd Y Rhug, Corwen, Sir Ddinbych am y 41 mlynedd ddiwethaf.
  • Raymond Lewis, o Busnant, Llanllŷr, Llandrindod, sydd wedi gweithio i JED Powell a’i Fab, Cwmfeardy, Abaty Cwm-hir, Llandrindod am 40 mlynedd.
  • Doreen Lloyd, o Blaenrhysglog, Llanwrda, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 49 mlynedd, yn fwyaf diweddar yn JJ Morris Auctioneers & Valuers, V King Thomas, Lloyd Jones & Williams, Marchnad Hendygwyn-ar-Daf.
  • David Owen, o Pen-Wal, Niwbwrch, Ynys Môn sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 46 mlynedd, yn fwyaf diweddar i G Owen, Anglesey Woodfuel, Pen-Wal, Niwbwrch.
  • Sarah Jane Price, o Brynllygoed, Abaty Cwm-hir, Llandrindod sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 40 mlynedd, yn fwyaf diweddar i SVS/Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am yr 17 mlynedd ddiwethaf.
  • Elgan Iorwerth Thomas, o Ffynnonbedr, Llanbed, Ceredigion, sydd wedi gweithio i  WD Lewis a’i Fab, Masnachwyr Amaethyddol, Melin Mark Lane, Heol y Bont, Llanbed, am 51 mlynedd.

Medalau wedi’u derbyn o’r blaen – tystysgrifau

  • Richard Tinsley, o Hanmer, Whitchurch, Swydd Amwythig sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 62 mlynedd, i PC & EM Edwards, Little Hall Farm, Bettisfield, a RB & LB Edwards, Little Hall Farm, Bettisfield.
  • Emyr Lloyd Jones, o Can Y Gwynt, Maes y Garn, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 60 mlynedd, i Elwyn ac Oliver Jones, Ty Hen, Llanrhystud, a James a Richard Morgan, Maesnewydd, Llandre, Aberystwyth.