Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Prif fusnesau o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn uno i gefnogi prif ddigwyddiad amaethyddol Ewrop
Heddiw, mynegodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei diolch diffuant i’r noddwyr eithriadol sy’n cefnogi Sioe Frenhinol Cymru 2025, a gynhelir rhwng dydd Llun 21ain a dydd Iau 24ain Gorffennaf ar faes y sioe yn Llanelwedd.
Gyda’r paratoadau ar eu hanterth ac ond ychydig ddyddiau tan agoriad y sioe, mae’r Gymdeithas wedi amlygu’r rôl hanfodol a chwaraeir gan ei grŵp amrywiol o noddwyr – hebddynt, ni fyddai’r digwyddiad yn cyrraedd y llwyddiant a’r enw da sydd ganddo.
“Diolch yn fawr!” meddai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. “Rydym yn dymuno diolch i bawb a fu’n rhan o drefnu Sioe Frenhinol Cymru 2025, gan gynnwys holl noddwyr eleni – hebddynt, ni fyddai’r Sioe’n llwyddiant mor fawr ag y mae.”
Gellir gweld ein holl noddwyr ar dudalen Noddwyr Presennol