Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Eleni, unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn annog ymwelwyr i deithio’n gynaliadwy i’r digwyddiad, ac mae’r gwasanaethau rheilffordd a bysiau yn cynnig llwybrau cyfleus i Faes y Sioe.
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun 20 hyd ddydd Iau 23 Gorffennaf ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt bob blwyddyn. Gyda mwy o ffocws ar deithio cynaliadwy a lleddfu tagfeydd o amgylch y digwyddiad, mae’r trefnwyr yn annog y rheiny sy’n dod i’r Sioe i ystyried teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd i orsaf Builth Road sydd ychydig dros filltir o Faes y Sioe.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ymwelwyr sy’n teithio i’r digwyddiad, gyda gwasanaethau rheilffordd yn cysylltu o bob rhan o Gymru a’r gororau, gan gynnwys llwybrau o Gaerdydd trwy rai o ardaloedd gwledig harddaf Cymru. Bydd bysiau gwennol am ddim yn teithio rhwng gorsaf Builth Road a Maes y Sioe trwy gydol yr wythnos, a bydd gwasanaethau bws TrawsCymru hefyd yn cynnig ffordd arall i ymwelwyr deithio i’r Sioe.
Gall ymwelwyr sy’n teithio ar y trên ar lein Calon Cymru, ac sydd â thocyn rheilffordd dilys, brynu tocynnau mynediad i’r Sioe Frenhinol am bris gostyngol o £35 (Oedolion) ac £11 (Plant) gan y tocynnwr neu o swyddfeydd tocynnau ar hyd y llwybr. Mae plant o dan 16 oed yn teithio am ddim gydag oedolyn sydd â thocyn.
Er mwyn helpu i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o deithio i’r digwyddiad, mae Trafnidiaeth Cymru a Thîm Rheilffordd Cymunedol Calon Cymru wedi creu fideo hyrwyddo newydd sy’n dangos tocyn trên enfawr yn teithio ar hyd y llwybr o Gaerdydd i Builth Road. Mae’r fideo’n dangos tirwedd drawiadol Cymru ac yn dangos mor hawdd yw teithio i’r Sioe Frenhinol ar y trên.
Bydd gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail stondin ryngweithiol yn y Sioe hefyd, gydag amrywiaeth o weithgareddau diogelwch ar y rheilffordd ac adloniant i’r teulu. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau profiadau penset Realiti Rhithwir, sesiynau amser stori, dosbarthiadau gwneud bathodynnau a pherfformiadau am ddiogelwch ar y rheilffordd, a bydd Côr Meibion Llanfair-ym-Muallt yn ymweld â’r stondin ar ddydd Llun y Sioe.
Os ydych chi o dan 16 oed ac yn teithio ar y trên i’r Sioe, ar lein Calon Cymru, peidiwch ag anghofio casglu eich taflen weithgareddau am ddim tra byddwch chi ar y trên. Yna, gallwch ddod â’ch gwaith celf i stondin Trafnidiaeth Cymru yn y Sioe am gyfle i ennill gwobr.
Mae teithio ar y trên neu’r bws yn cynnig ffordd gynaliadwy a di-straen i ymwelwyr fwynhau un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, a helpu i leihau tagfeydd traffig yn ystod wythnos brysur y Sioe ar yr un pryd. Anogir ymwelwyr i gynllunio’u siwrneiau ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefan Trafnidiaeth Cymru a’r offeryn cynllunio teithiau.
Mae rhagor o wybodaeth am deithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru, ac mae’r wybodaeth am y digwyddiad a thocynnau i gyd ar wefan CAFC.