Cydnabod Hoelion Wyth Sioeau Amaethyddol yn y Sioe Frenhinol eleni wrth gyhoeddi’r Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Uchel ei Bri Syr Bryner Jones
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi enwau’r tri sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Syr Bryner Jones 2026, sef un o brif wobrau’r Gymdeithas a gyflwynir bob blwyddyn yn y Sioe Frenhinol.
Cyflwynwyd y Wobr am y tro cyntaf yn 1957, ac mae’n cydnabod unigolyn o faes gwahanol o’r diwydiant ffermio bob blwyddyn sydd wedi cyflawni ar y lefel uchaf yn eu maes. Mae’n cael ei gweld fel anrhydedd unwaith-mewn-oes, a chyflwynir enwebiadau gan bwyllgorau ymgynghorol sirol ledled Cymru.
Eleni, am y tro cyntaf, dewiswyd sioeau amaethyddol fel y thema ar gyfer y Wobr. Mae Gwobr 2026 yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac wedi dangos ymroddiad neilltuol i lwyddiant sioe amaethyddol leol neu ranbarthol yng Nghymru.
Roedd y thema yn hynod boblogaidd, gyda phob un o’r 12 pwyllgor ymgynghorol sirol yng Nghymru yn cyflwyno enwebiadau.
Dywedodd y beirniaid Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS a Mrs Susan Jones FRAgS fod safon eithriadol o uchel yr enwebiadau wedi creu argraff arnynt.
Meddent: “Roedd ansawdd rhagorol pob enwebai wedi creu argraff arnom. Mae pob un ohonynt wedi dangos ymroddiad diwyro i’r mudiad sioeau amaethyddol, gan gysegru swm sylweddol iawn o’u hamser, eu hegni a’u harweiniad, i gynllunio, datblygu a chynnal sioeau amaethyddol lleol a rhanbarthol uchel eu parch yn llwyddiannus.
“Maen nhw wedi hyrwyddo pwysigrwydd cadw traddodiad y sioeau amaethyddol ac addasu i ddisgwyliadau modern. Mae eu hymrwymiad ymhell y tu hwnt i wirfoddoli bob-dydd, ac mae eu dylanwad wedi creu gwaddol sy’n parhau ac sydd wedi siapio hunaniaeth, gwytnwch a chyfeiriad eu digwyddiadau yn y dyfodol, a hynny dros flynyddoedd lawer.”
Ar ôl ystyried yn ofalus, aeth y beirniaid ati i dynnu rhestr ar gyfer y rownd derfynol, sef, yn nhrefn y wyddor:
Brian Davies, Brycheiniog
Mae Brian Davies wedi gwasanaethu Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog ers 59 mlynedd, gan helpu i gynnal un o sioeau amaethyddol hynaf y DU. Yn gyn-Gadeirydd, Is-gadeirydd a Llywydd, mae wedi chwarae rhan allweddol wrth annog pobl ifanc a theuluoedd lleol i gefnogi, gan helpu i sicrhau dyfodol hirdymor y sioe.
Edward Morris, Sir Benfro
Fe fu gan Edward Morris gysylltiad agos â Sioe Gwlad a Thref Penfro ers 1970 gan helpu i adfywio’r digwyddiad pan wynebai ddirywiad yn 2005. Mae ei arweinyddiaeth ymarferol, ei ymrwymiad dwfn a’i allu i ysbrydoli gwirfoddolwyr wedi bod yn greiddiol i lwyddiant parhaus y sioe.
Enid Williams, Ynys Môn
Mae Enid Williams wedi bod yn allweddol yn adfywiad a datblygiad Cymdeithas Amaethyddol Môn yn dilyn heriau’r cyfnod ar ôl Covid. Yn gyn-Lywydd, Cyfarwyddwr ac Ymddiriedolwr, mae hi wedi helpu i ailadeiladu’r sefydliad, cryfhau ei sefyllfa ariannol ac annog cenedlaethau ifancach i gymryd rolau arwain.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Seremoni Wobrwyo Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yng Nghaeadle’r Cyngor ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru, ddydd Llun 20 Gorffennaf, am 2.30pm. Bydd y derbynnydd yn cael Tlws Coffa, Medal a Thystysgrif Syr Bryner Jones. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cydnabod yn ddiolchgar y nawdd ar gyfer y fedal gan Mr Gareth Roberts, aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas a derbynnydd blaenorol.
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2026 o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.
Am docynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i www.cafc.cymru.