Bydd gwneuthurwr ffyn enwog o Ynys Harris yn yr Hebrides Allanol yn dod i’r Sioe Frenhinol am y tro olaf yr haf hwn i gystadlu yn yr hyn y mae’n credu fydd ei dymor olaf ar gylch y sioeau amaethyddol.
Ag yntau’n wreiddiol o Halifax yng Ngorllewin Swydd Efrog, symudodd David i Ynys Harris ym 1972 tra’n gweithio fel saer. Yno, cyfarfu â’i wraig, ac ar ôl sawl blwyddyn yn byw ar y tir mawr, dychwelodd y cwpl yn y pen draw i dyddyn y teulu lle cafodd ei wraig ei geni.
Dechreuodd siwrnai gwneud ffyn David ym 1976 pan brynodd ffon wedi’i gwneud â llaw gan dyddynwr lleol am £5. Fe’i swynwyd gan y ddolen addurniadol a phenderfynodd geisio gwneud ei ffon ei hun. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae’r ‘Harris Stickmaker’ yn cael ei gydnabod fel un o wneuthurwyr ffyn mwyaf uchel eu parch y DU.
Dros y blynyddoedd, mae David wedi ennill nifer o deitlau pencampwriaeth a gwobrau mewn sioeau amaethyddol ar draws y DU. Mae ei lwyddiant hefyd wedi dod ag ef i gysylltiad ag aelodau o’r Teulu Brenhinol. Yn ystod dathliadau i nodi 100 mlynedd ers sefydlu nod masnach Harris Tweed Orb, cyflwynodd ffyn cerdded wedi’u creu â llaw i Dywysog Cymru a Duges Cernyw fel yr adnwaenwyd hwy ar y pryd, sydd bellach yn cael eu hadwaen fel Eu Mawrhydi y Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla. Mae hefyd wedi cwrdd â’r Dywysoges Frenhinol trwy’r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol.
Mae ffyn nodedig David wedi’u crefftio o ddeunyddiau sy’n cynnwys corn hwrdd, corn buwch yr Ucheldir a chorn byfflo, wedi’u cyfuno â phrennau brodorol fel cyll, y ddraenen ddu a phren ceirios. Mae pob darn yn cael ei siapio’n unigol a’i orffen â llaw.
Breuddwyd David ers meitin oedd cystadlu yn y Sioe Frenhinol ond roedd yn teimlo bod y daith 600 milltir o’r Hebrides yn rhy bell. Newidiodd hynny pan ddyweddïodd ei wyres â ffermwr mynydd ger Croesoswallt, gan roi rhywle canolog iddo i aros dros nes er mwyn gwneud y daith i Ganolbarth Cymru a chyflawni uchelgais hirdymor trwy gystadlu o’r diwedd yn y Sioe Frenhinol yn 2023.
Ag yntau bellach yn 74 oed a’i iechyd yn dirywio, mae David wedi penderfynu mai 2026 fydd ei flwyddyn olaf o gystadlu, a bydd yn cystadlu am y tro olaf yn Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Frenhinol yr Ucheldir a’r Great Yorkshire, yn yr hyn y mae’n eu disgrifio fel y tair sioe orau yn y wlad.
Mae David yn awyddus i drosglwyddo’r grefft i’r genhedlaeth nesaf ac mae’n dysgu ei sgiliau i bobl ifanc ar yr Ynys, yn ogystal â’i wyres pan ddaw i ymweld.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ffocws llawer o waith gwneud ffyn David wedi bod ar waith elusennol, gyda ffyn yn cael eu rhoi i arwerthiannau codi arian i gefnogi Prostate Cancer UK a Sefydliad Prydeinig y Galon.
Ymhlith y dosbarthiadau niferus y bydd David yn cystadlu ynddynt yn y Sioe Frenhinol sydd ar droed, mae’r dosbarth unigryw sy’n gofyn i gystadleuwyr greu pâr o ffyn sy’n matsio i wraig a gŵr bonheddig, wedi’u crefftio’n gywrain. Ar gyfer y dosbarth, mae David wedi creu pâr o ffyn allan o gyrn defaid Shetland, wedi’u haddurno mewn du ac aur trawiadol.
Wrth fyfyrio ar ei ymroddiad i wneud ffyn, dywedodd David:
“Dydy gwneud ffyn ddim yn grefft hawdd, ac mae’r beirniadu yn gallu bod yn hallt dros ben, ond mae’n angerdd go iawn i mi ac mae’n hynod o werth chweil. Rwy’n gallu treulio oriau bwy’i gilydd yn fy sied, yng nghanol y feisiau, y gweisg ac annibendod yr offer, ac mae’n dod â’r llawenydd mwyaf i mi.
“Rydw i wedi bod yn gwneud ffyn ers bron i 50 mlynedd ac rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel trwy’r grefft. Rydw i eisiau gadael y cylch cystadlu trwy greu argraff a phe bawn i’n gallu gorffen trwy ennill yn y Sioe Frenhinol byddai hynny’n rhywbeth arbennig iawn.”
Mae’r gystadleuaeth gwneud ffyn yn dal i fod yn nodwedd boblogaidd yn y Sioe Frenhinol ac yn denu crefftwyr medrus o bob cwr o’r DU gan helpu i gadw crefft wledig draddodiadol yn fyw.
Bydd y dosbarthiadau’n cael eu beirniadu ar ddiwrnod agoriadol y Sioe eleni, a gynhelir rhwng 20 a 23 Gorffennaf yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.
Cewch fanylion llawn y digwyddiad a gwybodaeth am docynnau ar wefan CAFC.