Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae blwyddyn sir nawdd anhygoel Sir Benfro wedi dod i’w therfyn wrth i’w tymor yn y swydd ddod i ben yng nghyfarfod cyngor blynyddol y gymdeithas, a gynhaliwyd eleni ar faes y sioe ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr.

Dan arweiniad medrus y Llywydd, Seimon Thomas, dechreuodd Sir Nawdd 2019 eu siwrnai dros ddwy flynedd yn ôl. “Bu hi’n uffernol o siwrnai, ond yn siwrnai ardderchog!” meddai Seimon yn ei anerchiad olaf fel llywydd i aelodau cyngor y gymdeithas. “Nid yn unig yr ydym wedi cael llawer o ddigwyddiadau codi arian llwyddiannus, ond rydym hefyd wedi dod â ffrindiau at ei gilydd ac wedi cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd – a fydd bob amser yn ffrindiau am oes. Bu hi’n hyfrydwch gweithio gyda chymaint o bobl wych ac rwyf yn diolch i bawb a fu’n cymryd rhan.”

Trwy lu o ddigwyddiadau megis Digwyddiad Tir Glas 2019, Drama’r Geni (gyda thro), sioe deithiol Cows On Tour, cyngherddau carolau, ciniawau, gornestau saethu colomennod clai, arwerthiannau, reidiau ar gefn beic, gemau rygbi, boreau coffi, teithiau tractorau, helfeydd trysor, sioeau ffasiwn, i enwi dim ond ychydig, mae’r tîm wedi cael dwy flynedd eithriadol o brysur.

“Trwy weithio gyda’n gilydd rydym yn gallu ymfalchïo yn y ffaith ein bod nid yn unig wedi codi’r swm syfrdanol o £400,100 i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ond ein bod hefyd wedi codi £26,000 ychwanegol at elusennau a mudiadau lleol megis Prostate Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru, Sefydliad DPJ, Tir Dewi, RABI, Ymatebwyr Cyntaf Crymych, yr Urdd, Sioe Sir Penfro, ac eraill.” cyhoeddodd Seimon.

Mynegodd David Lewis, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ei ddiolchgarwch i dîm Sir Benfro; “Estynnwn ein gwerthfawrogiad enfawr i Sir Benfro a’n Llywydd, Mr Seimon Thomas, ei wraig Eleanor a theulu cyfan Drysgolgoch. Maen nhw wedi bod yn rhyfeddol.

“Dethol llywydd yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae pob sir nawdd yn ei wneud, ac mae hi’n amlwg mai Seimon oedd y dewis iawn. Mae’r ffordd y mae ef a’r pwyllgor wedi uno’r sir ar y ddwy ochr i Linell Landsker yn ganmoladwy a bydd yn gadael etifeddiaeth gadarnhaol i’r gymdeithas yn Sir Benfro am flynyddoedd i ddod.

“Mae ar bob arweinydd angen tîm da ac yn ogystal â’r teulu, mae Seimon wedi derbyn cefnogaeth i’w ryfeddu gan y cadeirydd, Meurig James, yr ysgrifennydd, Geraint James a’r trysorydd, Roger Howells. Diolchwn iddynt i gyd.”

Wrth dderbyn pleidlais o ddiolch gan Roger Howells, canmolwyd Emily Rees hefyd am yr holl waith caled, y brwdfrydedd a’r egni y daeth hi â hwy i swydd y Llysgenhades.

“Roeddwn yn benderfynol o nid yn unig ddathlu llwyddiant, ond hefyd o gyflawni nod y gymdeithas o annog a hyrwyddo gwyddor, ymchwil ac addysg amaethyddol, yn arbennig mewn perthynas â bwyd, ffermio a chefn gwlad” eglurodd Emily.

“Trwy ymgymryd â phrosiect hynod o uchelgeisiol sioe deithiol Cows On Tour, rydym wedi gallu rhannu ein stori ffermio yn llwyddiannus gyda miloedd o blant ysgol a chymunedau ar draws Cymru. Trwy gydweithio â sefydliadau ac elusennau eraill, rydym wedi gallu mwy na dyblu ein hymdrechion. Lle pob un ohonom, y gymdeithas a’r diwydiant yn awr yw chwarae rôl wrth barhau i gyflawni’r nod hwn ac addysgu’r genhedlaeth nesaf.”

Yn dilyn yng nghamre Sir Nawdd Sir Benfro 2019, tro Clwyd yw hi yn awr i wisgo’r fantell ar gyfer y flwyddyn sy’n dod yn 2020.