Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Unwaith eto mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi rhodd i Gyngor Tref Llanfair-ym-Muallt tuag at y goleuadau Nadolig yn y dref, gan barhau’r berthynas agos rhwng y ddau sefydliad.

Bob blwyddyn mae strydoedd Llanfair-ym-Muallt yn cael eu goleuo gydag arddangosfa ardderchog o oleuadau Nadolig yn barod ar gyfer wythnos brysur a ddaw i’r dref yn sgîl Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gynhelir fel arfer yn niwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr bob blwyddyn. Eleni roedd y Ffair Aeaf yn syrthio yn wythnos olaf Tachwedd, pryd y gwelsom dyrfaoedd enfawr yn ymgasglu i fynychu’r digwyddiad amaethyddol ac i helpu i ddathlu ei degfed mlynedd ar hugain.

Fel arwydd o werthfawrogiad mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o roi £350 tuag at y gost o gynnal, codi a phrynu goleuadau newydd.

Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru “Mae’r Gymdeithas yn falch iawn o allu parhau ein cefnogaeth i oleuadau Nadolig tref Llanfair-ym-Muallt bob blwyddyn. Nid yn unig y mae’n dod â’r dref yn fyw yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod y Ffair Aeaf, ond mae’n gyfle arall hefyd i ni a chyngor y dref gydweithio’n agos ac i ddangos ein cefnogaeth i bobl Llanfair-ym-Muallt a’r ardaloedd o gwmpas”.

Dywedodd Gwyn Davies, Maer Tref Llanfair-ym-Muallt, ei bod yn “bleser” derbyn y rhodd ar gyfer y goleuadau Nadolig, a fydd yn cael ei defnyddio tuag at gynnal a chadw ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen i gadw’r arddangosfa wych ar fynd. Ychwanegodd hefyd sut y mae’n “hanfodol” fod cyngor y dref a’r gymdeithas yn parhau i gefnogi ei gilydd.

Mae dal ymlaen â pherthynas agos rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Chyngor Tref Llanfair-ym-Muallt o bwysigrwydd mawr i’r gymdeithas, yn arbennig adeg y Nadolig. Trwy gydol y flwyddyn mae’r gymdeithas wedi cyfrannu at y dref mewn llawer ffordd: trwy gydweithio ar y “Llwybr Gwyrdd” a diogelwch yn ystod prif ddigwyddiad y gymdeithas ym mis Gorffennaf; roedd yn anrhydedd gan ein Prif Weithredwr, Steve Hughson, gynrychioli’r gymdeithas yng Ngorymdaith Sul y Cofio Llanfair-ym-Muallt; ac yn awr y rhodd tuag at y goleuadau Nadolig.