Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae cystadlaethau silwair cladd a byrnau mawr Cymru gyfan 2019, sy’n cael eu rhedeg gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, unwaith eto wedi gweld cynhyrchu silwair o’r safon uchaf gan lawer o’r tyfwyr silwair gorau o bob cwr o Gymru.

Mae silwair yn allweddol i gynhyrchu cig a llaeth ar lawer o ffermydd Cymru, ac mae’r gystadleuaeth yn un y mae mwyaf o gystadlu amdani yn y diwydiant.

 

Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan

Enillydd y gystadleuaeth cladd, a noddir gan Wynnstay Group PLC ac a gefnogir gan Agri Lloyd International Ltd, yw Huw Jones o Fferm Wigfair, Cefn, Llanelwy, aelod o Gymdeithas Tir Glas Clwyd, sydd ond newydd ei sefydlu.

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i holl aelodau 22 cymdeithas tir glas Cymru. Yna mae pum teilyngwr rhanbarthol yn mynd drwodd i rownd derfynol Cymru Gyfan, a feirniadwyd eleni gan feirniad technegol, John Evans, un o noddwyr y diwydiant, Iwan Vaughan ac enillydd 2018, Chris Edwards o R D Edwards, Y Bont-faen.

Cytunodd y Panel Beirniadu fod Fferm Wigfair, fel pecyn cyfan, yn cael ei rheoli’n dda o fewn system ddestlus iawn. Er bod dadansoddiadau ansawdd y silwair (a brofwyd gan Agri-Lloyd) yn bwysig, mae’r beirniaid yn ymweld â phob fferm hefyd i asesu rheolaeth y cladd a’r arferion porthi, ymhlith marcwyr effeithiolrwydd eraill.

Mae Fferm Wigfair yn 302 erw o faint gyda 235 erw yn laswellt a 67erw o Indrawn. Mae’r busnes yn godro 300 o fuchod sy’n cynhyrchu 9587l/fuwch (4.06% Braster Menyn 3.31% Protein).  Mae 70 o wartheg ifanc a 55 dan 12 mis.  Gaeafir 200 o famogiaid a 150 o ŵyn yn Wigfair.  Roedd dadansoddiad y silwair yn Deunydd Sych 27.9%, Gwerth D 76.7%, ME12.3 MJ/kg a Protein Crai 15.9%, yn dangos lefelau cymeriant uchel iawn a chnwd wedi’i wneud yn dda iawn.

Mae’r fferm wedi’i lleoli yn Nyffryn Clwyd, a saif 280 troedfedd uwchben lefel y môr ar bridd clai trwm. Y defnydd o Nitrogen ar gyfer y tri thoriad oedd 80, 70 a 60 kgN/ha.  Cymerwyd 155 erw ar gyfer y toriad cyntaf, 141 ar gyfer yr ail doriad a 119 erw ar gyfer y trydydd toriad.  Y dyddiadau oedd 7fed Mai, 7fed Mehefin a 27ain Medi.  Cafodd y cnwd ei wywo am 20 awr a chwblhawyd y broses silweirio mewn diwrnod.  Silweiriwyd cyfanswm o 2349t. Mae’r buchod ar ddiet cyflawn yn cael ei fwydo â wagen cymysgydd twb.

Mae Dai Davies o Gwarffynnon, Silian, Llambed, a ddaeth yn ail, yn aelod o Gymdeithas Tir Glas Canol Ceredigion. Fferm 185 erw yw Gwarffynnon a saif 750 troedfedd uwchben lefel y môr gyda 144 o fuchod llaeth, 1 tarw, a 63 o stoc ifanc.  Maent yn cynaeafu tri thoriad y flwyddyn (Mai, Mehefin a Medi). Roedd dadansoddiad sylfaen dogn y gaeaf yn Deunydd Sych 28.4%, Gwerth D 74.8%, ME 12.0 MJ/kg a Protein Crai 16%.

Ychwanegodd y beirniad John Evans: “fel bob amser, nid yw’n ddigon gwneud silwair da, mae’n bwysig ei borthi’n dda hefyd.  Mae ffermwyr yn fwyfwy ymwybodol o faterion amgylcheddol megis storio a defnyddio slyri.  Yn fwyfwy maent hefyd yn ystyried effaith yr hyn y maent yn ei borthi ar yr amgylchedd (methan a gynhyrchir).  Gwelsom dystiolaeth o hyn i gyd.  Roedd yn dda nodi hefyd fod y ffermwyr y bu inni eu beirniadu wedi llwyddo i wneud digon o silwair er gwaethaf y sychder y gwnaethom ei ddioddef am ran o’r haf.”

Dywedodd Charlie Morgan, Ysgrifennydd FWGS “ei bod yn galonogol iawn gweld ansawdd porthiant a gynhyrchir gartref a’r sylw i fanylion y mae ffermwyr yn ei ddangos er mwyn lleihau costau a gwella arbedion effeithlonrwydd ar draws pob menter ac mae lefel perfformiad yn dal i godi a hynny dan amodau hinsoddol mwy heriol” a mynegodd ei longyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a gyflawnodd y safon uchel sydd ei hangen ar gyfer y gystadleuaeth hon.

Bu Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan yn rhedeg er 1979.

Cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan

Enillydd y gystadleuaeth byrnau mawr, a noddir gan BPI Agriculture (Silotite), yw AG & MT Davies, Fferm Llys, Ffordd Ystrad, Dinbych, aelod o Gymdeithas Tir Glas Clwyd, sydd ond newydd ei ffurfio – a’r ail fferm o’r gymdeithas honno i ennill un o brif Wobrau Silwair CAFC/FWGS.

Mae cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan wedi dod yn boblogaidd iawn ers ei chychwyn yn 1996. Mae’n agored i holl aelodau 22 cymdeithas tir glas Cymru, ac mae wedi mynd yn gystadleuaeth anodd iawn ei hennill. Beirniadwyd cystadleuaeth eleni gan banel o dri: Dr Dave Davies o Silage Solutions; Mr Stuart Anthony (BPI Agriculture (Silotite)); ac enillydd y llynedd, Mr Mark Evans.

Fe wnaeth Fferm Llys argraff ar y beirniaid nid yn unig trwy ganolbwyntio ar ansawdd y porthiant ar gyfer eu stoc, ond hefyd drwy archwilio’r rhan y mae cynnwys mwynau’r porthiant yn ei chwarae ym maeth ac iechyd eu da byw, gan sylweddoli eu bod mewn ardal o ddiffyg seleniwm yn eu priddoedd ac yn gwrteithio eu tir glas gyda gwrtaith wedi’i gyfoethogi â Seleniwm, ffordd o fynd ati a fydd ochr yn ochr ag eraill yn rhan o arfer ffermio mewnbwn isel yn y dyfodol.  Roeddynt yn canolbwyntio hefyd ar eu cylch cynhyrchu gyda thymor ŵyna arwahanol ond estynedig i ychwanegu at y ffenestr cyfle i werthu ŵyn dros y flwyddyn, ffactor arall a fydd yn fwyfwy pwysig ym Mhrydain ar ôl Brexit.

Uned Bîff a Defaid 300 erw yw Llysfran, wedi’i lleoli 330 troedfedd uwchben y môr ar lôm clai ac yn wynebu’r De/De-ddwyrain.  Y niferoedd stoc yw 20 o fuchod sugno; 850 o famogiaid yn cynhyrchu 1500 o ŵyn; a 250 o anifeiliaid bîff sy’n pesgi a brynir yn wartheg stôr 15-20 mis oed. Cânt eu gorffen ar ddogn o Trafford Gold, Betys Porthi a silwair yn ystod y gaeaf, ac mae’u pwysau byw yn cynyddu 1.5-2.0 kg yn ddyddiol.

Caiff yr ŵyna ei rannu’n 4 cyfnod – Rhagfyr, Chwefror, Mawrth ac ŵyn benyw yn Ebrill, er mwyn cyflenwi ŵyn Pasg am y prisiau gorau, a chael cyflenwad parhaus o ŵyn o safon 38-42kg trwy gydol y tymor tyfu glaswellt.

Cymerwyd dau doriad o silwair ac eleni, ar y 7fed Mehefin – 60 erw/500 o fyrnau; a 30 erw/150 o fyrnau ym mis Awst.  Cafodd y cnwd ei wywo am 48 awr, ar ôl ei dorri yn hwyr yn y prynhawn. Bwydir y byrnau gyda system tractor a llwythwr syml, ac roedd darlleniadau’r dadansoddiad yn: Deunydd Sych 54.7%, Protein Crai 11.5, Gwerth D 62.4, ME 10, a pH 4.8.

Roedd y beirniaid i gyd yn cytuno y bu’r cystadlu yn frwd fel arfer. Meddai Dave Davies “Roedd gan yr enillydd a’r ail eleni raddau uwch o ffocws ar eu silwair wedi’i fyrnu, gan geisio o ddifrif baru anghenion yr anifail gyda’r silwair yr oeddynt yn ei wneud. Fodd bynnag, y tro hwn, roedd Llysfran ar y blaen o drwch blewyn”.

Mae’r ail Wobr yn mynd y tro hwn i E Evans a’i Gwmni, Ty Nant, Talybont, aelod o Gymdeithas Tir Glas Aberystwyth ac enillydd gwobr FWGS o’r blaen.  Mae’u ffocws hwy ar borthiant sy’n gallu cwrdd ag anghenion y fuwch sugno, megis silwair ŷd cnwd cyfan, ochr yn ochr â silwair meillion coch a glaswellt o’r ansawdd gorau ar gyfer y gwartheg ar eu twf a mamogiaid cyfeb.

Fferm dir uchel/fynydd 2800 erw sy’n 900 troedfedd uwchben lefel y môr yw Tynant.  Maent yn stocio bron 70 o fuchod bîff ynghyd â nifer debyg o stoc ifanc.  Maent yn cynaeafu tri thoriad y flwyddyn (Mehefin, Gorffennaf ac Awst). Roedd dadansoddiad y silwair yn: Deunydd Sych 41.9%, Protein Crai 16.8, Gwerth D 70.2, ME 1.2, pH 4.6.