Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Y diweddaraf ar Ffliw Ceffylau / Equine Flu important update

Yn dilyn cyngor gan weithwyr iechyd anifeiliaid proffesiynol a nifer yr achosion o Ffliw Ceffylau yn Haf 2019, mae Swyddogion y Gymdeithas wedi gwneud y penderfyniad i ddim ond caniatáu i geffylau sydd wedi’u brechu rhag Ffliw Ceffylau fynychu Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad 2020 (16 & 17 Mai 2020) a Sioe Frenhinol Cymru (20 – 23 Gorffennaf 2020).

Ni fu hwn yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ac rydym yn deall bod hyn am fod yn siom i rai o’n harddangoswyr yn 2020, ond rhaid i les yr anifeiliaid sy’n mynychu’r sioe fod yn brif flaenoriaeth.

Mae canllawiau brechu i’w gweld ar ein gwefan a byddant wedi’u cynnwys hefyd yn ein hatodlenni, a fydd yn cael eu rhyddhau ar yr 2il o Fawrth 2020 ar gyfer yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ac ar ddydd Gwener 27ain Mawrth 2020 ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru.

 

Rheolau Ffliw Ceffylau / Equine Influenza Rules

Mae’r Gymdeithas yn disgwyl i’r holl geffylau fydd yn cystadlu fod â chofnod cyfredol o frechu rhag ffliw ceffylau. Rhaid iddynt fod wedi derbyn dau frechiad sylfaenol, sy’n cael eu rhoi dim llai na 21 diwrnod a dim mwy na 92 diwrnod oddi wrth ei gilydd.

Os oes digon o amser wedi mynd heibio rhaid i’r ceffyl sy’n cystadlu fod wedi derbyn brechiad atgyfnerthu hefyd, sy’n cael ei roi dim llai na 150 diwrnod a dim mwy na 215 diwrnod ar ôl ail elfen y brechiad sylfaenol, a brechiadau atgyfnerthu pellach o fewn ysbeidiau o ddim mwy na blwyddyn oddi wrth ei gilydd. Rhaid i ddim un o’r brechiadau fod wedi’i roi ar ddiwrnod y mynediad i faes y sioe nag ar unrhyw un o’r chwe diwrnod cyn y mynediad i faes y sioe.

Noder: Y gofynion lleiaf yw’r ddau frechiad sylfaenol, ynghyd â saith diwrnod cyn mynediad i faes y sioe. Rhaid i ebolion chwe mis oed neu hŷn gwrdd â’r gofyn lleiaf o ran brechu rhag ffliw ceffylau.