Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno cyfres o wobrau er anrhydedd i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i’r gymdeithas, mewn cymhwyster gwirfoddol yn bennaf, ac mewn llawer achos am ymhell dros 30 mlynedd.

Ddoe (dydd Llun 22 Gorffennaf) cyflwynwyd amrywiaeth o is-lywyddiaethau oes er anrhydedd, swyddi llywodraethwyr oes er anrhydedd a gwobrau’r gymdeithas mewn seremoni ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru.

Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd

Mr Selwyn Evans   

Mae Selwyn yn aelod gweithgar o Sir Nawdd Sir Gâr ac yn gyn-Gadeirydd y pwyllgor. Mae e’ wedi bod yn sylwebu yng nghylch y gwartheg am dros 40 mlynedd ac ar ben hynny roedd yn un o’r sylwebwyr cyntaf yn y Ffair Aeaf, sy’n 30 mlwydd oed eleni. Roedd tad Selwyn yn un o brif symbylwyr Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ac rydym wrth ein bodd fod ei fab Tom yn dilyn y traddodiad teuluol drwy’i ymwneud â’r gymdeithas. Yn un o deuluoedd gwirioneddol y gymdeithas.

Mr Huw Geraint Williams

Bu a wnelo Huw Geraint â’r gymdeithas am 25 mlynedd. Gan ddechrau gyda’r gymdeithas yn 1993 fel swyddog milfeddygol, mae wedi symud ymlaen trwy ddyrchafiadau gan ddod yn ddirprwy filfeddyg yn 2003 ac mae wedi ymddeol yn ddiweddar o swydd Uwch Swyddog Milfeddygol ar ôl 10 mlynedd. Bu Huw yn gaffaeliad mawr ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm sy’n gwneud i’r holl hud ddigwydd y tu ôl i’r llenni. Yn bendant bydd pawb yn ei golli, yn arbennig y rheini yn y llinellau stoc, a dymunwn yn dda iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol a’i ymddeoliad. Roedd Huw yn methu mynychu’r seremoni wobrwyo yn y sioe, a bydd ei is-lywyddiaeth oes er anrhydedd yn cael ei gyflwyno iddo’n ddiweddarach.

Swydd Llywodraethwr Oes Er Anrhydedd

Mr Mike Coleman

Er 1992, bu Mike yn stiward stondinau masach, ac mae wedi rhoi gwasanaeth ardderchog i Sioe Frenhinol Cymru, yn arbennig yn ystod y cyfnodau gosod pethau at ei gilydd ac ymadael. Fe wnaeth Mike ddarparu cerbyd ymateb hefyd ac mae wedi bod fel y pedwerydd gwasanaeth brys. Bydd colled fawr ar ôl ei wybodaeth a’i arbenigedd.

Mr Allan Evans

Bu Allan yn aelod o’r gymdeithas am dros 28 mlynedd ac mae’n aelod gweithgar o Bwyllgor Ymgynghorol Caernarfon. Mae’n cynrychioli Caernarfon ar y Pwyllgor Garddwriaeth a Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Mae Allan wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi fel aelod o’r bwrdd a diolchwn iddo am ei gyfraniad effeithiol dros flynyddoedd lawer. Garddwriaeth yw cariad Allan ac mae’n ymwneud yn weithredol â Phys Pêr ac rydym wrth ein bodd fod yna bysen bêr, a lansiwyd ddoe, i goffáu 100fed Sioe Frenhinol Cymru.

Mr Bruce McKay

Bu a wnelo Bruce â’r gymdeithas ers blynyddoedd lawer, ac ym mlwyddyn Sir Nawdd ei sir enedigol, Sir Benfro, mae’n dathlu 50 mlynedd fel sylwebydd yn Adran y Defaid. Bu Bruce yn arddangoswr ac yn feirniad yn Sioe Frenhinol Cymru hefyd, gan ddangos Gwartheg Simmental a Defaid Texel yn llwyddiannus, tra bu’n beirniadu’r Gystadleuaeth Stocmon Gwartheg a Defaid yn ogystal â chystadleuaeth Grŵp o Dri’r Gwartheg Bîff a chystadleuaeth y teirw Bridiau Brodorol.

Mr Edward Perkins a Mrs Eireen Perkins

Bu Edward yn stiwardio a sylwebu yn Sioe Frenhinol Cymru am 56 mlynedd ers i’r sioe wneud ei chartref yn Llanelwedd yn 1963. Yn Llywodraethwr Oes y gymdeithas er 1975, roedd yn Llywydd y tro diwethaf yr oedd Sir Benfro yn sir nawdd yn 2007. Derbyniodd Edward OBE yn 1994 am ei wasanaeth i Amaethyddiaeth yng Nghymru ac mae’n hanesydd tra chyfarwydd hefyd, yn arbennig ym maes tirfeddianwyr a theuluoedd ffermio Cymru. Roedd Edward yn ysgrifennydd Cymdeithas Amaethyddol y Siroedd Unedig Caerfyrddin am 15 mlynedd.

Mae Eireen yn gyn-ysgrifennydd a chadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Sirol Sir Benfro. Mae hi wedi stiwardio amrywiol adrannau o’r sioe am dros 50 mlynedd hefyd. Mae Eireen wedi rhoi oes o ymroddiad i Sefydliad y Merched hefyd. Mae Edward ac Eireen yn ymroddedig i’r gymdeithas ac mae’r ddau ohonynt ar y cyngor. Maent ar hyn o bryd yn rheng flaen y codi arian eleni ar gyfer ymdrech Sir Nawdd Sir Benfro. Mae’r ddau yr un mor frwdfrydig ac ymroddedig i gymuned wledig  Gorllewin Cymru.

Mr Roger Perkins

Bu Roger yn stiward yn yr Adran Peiriannau a Stondinau Masnach ers blynyddoedd lawer ac mae’n aelod gweithgar o Bwyllgor Ymgynghorol Sir Benfro, ar ôl gwasanaethu ynghynt fel Cadeirydd. Mae Roger yn cynrychioli’r gymdeithas ynglŷn ag Ysgoloriaeth Nuffield Sioe Frenhinol Cymru a bu’n aelod o’r bwrdd yn cynrychioli Sir Benfro ers blynyddoedd lawer

Mrs Janet Rees

Mae Janet yn gefnogwr tanbaid i bopeth sy’n gysylltiedig â’r gymdeithas, bob amser yn fodlon dangos ei chefnogaeth i unrhyw adran. Mae Janet wedi darparu cyfarwyddyd a chefnogaeth i Bwyllgor y Llysgenhades dros gyfnod maith o amser a bu’n cyfrannu at gadw’r swydd yn berthnasol yng nghymdeithas heddiw. Bu hi’n stiward yn y sioe am fwy na 30 mlynedd.

Gwobr Gydnabyddiaeth y Gymdeithas

Yr Arolygydd Stuart Eckley

Fel arolygydd yn yr heddlu, bu Stuart yn gyfrifol am blismona Sioe Frenhinol Cymru yn ystod y dydd am flynyddoedd lawer. Mae’i gariad at y sioe yn golygu ei fod bob amser wedi mynd y filltir ychwanegol i helpu’r gymdeithas. Mae’r teulu Eckley yn arddangoswyr adnabyddus yn y sioe hefyd.

Mae Stuart yn ymddeol o Heddlu Dyfed Powys ym mis Medi ac rydym yn cyflwyno’r grisial engrafedig hwn iddo fel arwydd o’n gwerthfawrogiad.