Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd 2020 yn gweld Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dathlu ei 20fed mlynedd yn cynnal yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ym mis Mai. Bydd penwythnos yr 16eg – 17eg Mai yn arddangos amrywiaeth gwirioneddol cefn gwlad Cymru, gyda Thyddynnu a gweithgareddau Gwledig wrth galon y digwyddiad.

Dathliad o fywyd gwledig a byw yn y wlad i bawb sy’n chwilio am syniadau busnes neu ddiwrnod allan i’r teulu!

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich gardd, eich rhandir neu help gyda’r syniad eginol hwnnw o fenter busnes newydd, yr Ŵyl yw’r lle i fod. Pa un a ydych eisoes yn mwynhau’r bywyd gwledig neu’n gobeithio gwella’ch sgiliau a gwybodaeth bydd digonedd yma ichi ei weld a’i ddysgu.

Canolfan y Tyddynwyr fydd y ganolfan i’r rheini sydd am ddysgu mwy am ffordd o fyw’r tyddynnwr, gydag ardal y siaradwyr, gweithdai a lolfa fusnes yn rhedeg trwy gydol y digwyddiad. Ynghyd â hyn, mae gennym ein Parth Arddangos Arallgyfeirio Gwledig yn rhedeg yng Nghanolfan y Tyddynwyr eleni, ble bydd digonedd i bawb ei ddysgu.  Os ydych chi’n chwilio am iar neu ddwy i’w hychwanegu at eich haid, neu unrhyw beth, o fwced newydd i gist o offer newydd, fe gewch hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn y digwyddiad hwn!

Ni fyddai’n ddigwyddiad Brenhinol Cymru heb arddangos y cynnyrch bwyd a diod gorau sydd gan Gymru a siroedd y gororau i’w gynnig! O ddanteithion i fynd â nhw adref i’w bwyta’n hwyrach i rywbeth i’w fwyta yn yr Ŵyl gellwch ddod o hyd iddo yma yn ein hardaloedd bwyd.

Os ydych â diddordeb mewn dysgu mwy am y grefft o gneifio a thrin gwlân y sied gneifio yw’r lle i fynd! Bydd gennym arddangosiadau cneifio â gwellau a thrin gwlân trwy gydol y digwyddiad gyda’r gystadleuaeth trin gwlân yn ei hôl i’r rheini gofrestru ar ei chyfer a chymryd rhan ynddi hefyd.

Mae cystadlaethau eraill yma yn yr ŵyl yn cynnwys dosbarthiadau geifr pigmi, defaid, gwartheg, moch a cheffylau. Yn newydd i’r adrannau da byw bydd Adran Texel Glas newydd a dwy adran newydd ar gyfer Stoc Llaeth Ifanc a Thywyswyr Ifanc. Bydd atodlenni’n cael eu rhyddhau ym mis Mawrth felly cadwch lygad ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

“Bydd yr Ŵyl yn llawn gwybodaeth, hwyl ac adloniant i’r teulu i gyd, ac rydym yn gyffrous o fod yn dod ag adrannau newydd i mewn i’r cystadlaethau da byw ac ardaloedd newydd i’r ŵyl ei hun” meddai Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl.

“Pa un a ydych wedi hen ymsefydlu yn y gymuned Dyddynnu neu fod arnoch eisiau dysgu mwy amdani, gellwch arddangos eich sgiliau a dysgu rhai newydd trwy roi cynnig ar unrhyw beth o odro buwch i nyddu gwlân yma yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad”

Yn newydd eleni, byddwn yn gweld y parth Gŵyl Briodas yn cael ei ychwanegu. Cyfle i gael golwg ar y lleoliadau priodi mwy unigryw gydag ymdeimlad o’r ŵyl. Ewch ar daith o amgylch ei gyfleusterau ei hun ein safle a gweld beth sydd ar gael ar gyfer priodasau a dathliadau eraill. Felly os ydych yn cynllunio eich priodas eich hun neu’n dymuno cael hyd i rywbeth newydd ac unigryw ar gyfer eich achlysur, yna dewch i weld y cyflenwyr dethol o bob cwr o Gymru i wneud eich dathliad yn rhywbeth gwirioneddol arbennig.

Fel arfer bydd yr holl atyniadau ac ardaloedd poblogaidd eraill yn dal yno ichi eu chwilota a’u mwynhau. Cannoedd o ddosbarthiadau ceffylau, sgrialu yrru, Gŵyl Land Rovers Cymru, neidio ceffylau a llawer mwy i’w weld. Bydd yr ardal Bywyd Gwledig, sy’n rhoi lle amlwg i’r unig Brif Sioe Gŵn Agored a gynhelir yng Nghymru, yn ei hôl ynghyd â gweithgareddau plant, gweithgareddau gwledig a llawer mwy!

Unwaith eto bydd pob plentyn 16 mlwydd oed ac iau yn cael mynediad i’r Ŵyl am ddim. Prynwch eich tocynnau ar‐lein YN AWR a’u cael am bris gostyngedig. Parcio am ddim ar gael yn agos at bob mynedfa felly ’dyw ond ychydig o waith cerdded i’r Ŵyl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen cylchlythyr y mis nesaf am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n newydd yn yr Ŵyl.