Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr
Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, gyda chefnogaeth Sir Nawdd Morgannwg 2023, lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC ar gyfer 2023-2024.
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu at ddarparu rhaglen lawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys. Mae’r cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant yn dechrau gyda diwrnod dethol/blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2023.
Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bydd y rhaglen ar gael i unrhyw un wneud cais am y lleoedd cyfyngedig. Cymerwch y cyfle hwn i ddatblygu’ch sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.
Dylid e-bostio ceisiadau wedi’u cwblhau at Alison Harvey. Ebost: [email protected]
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 4 Mai 2023.