Talu teyrnged i gefnogaeth aelodau’r gymdeithas yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

“Bydd cydnerthedd y gymdeithas yn sicrhau ei pharhad am genedlaethau i ddod” meddai Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn ei anerchiad i’r aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd ar 14 Mehefin.

Yn cael ei groesawu eleni gan Sir Benfro, Sir Nawdd eleni, yn Drysgolgoch, cartref hardd llywydd eleni, Mr Seimon Thomas FRAgS, edrychodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019 yn ôl ar flwyddyn lwyddiannus arall, ac edrych ymlaen at 100fed Sioe Frenhinol Cymru, oedd ond ychydig wythnosau i ffwrdd.

Ar adeg pan fo dyfodol ein diwydiant, yn wleidyddol ac yn ariannol, yn dal yn aneglur o hyd, cysurwyd yr aelodau a oedd yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wrth iddynt glywed bod y gymdeithas wedi rhoi mesurau yn eu lle yn barod i lywio’r heriau a mwyafu cyfleoedd. “Dyfodol y gymdeithas yw’n blaenoriaeth neilltuol o hyd. Byddwn yn parhau i fod yn gyswllt rhwng gwlad a thref a bwyd a’r defnyddiwr.” eglurodd Mr Davies.

“Wrth ymorol am sicrhau dyfodol y gymdeithas ymhellach, rydym yn falch o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi’r genhedlaeth nesaf. Gyda Phwyllgor Cenedlaethau’r Dyfodol gweithgar, gallwn fod yn sicr fod ein haelodau ifanc yn derbyn cyfle i leisio syniadau. Mae’r gymdeithas yn frwd ei chefnogaeth hefyd i CFfI Cymru, yr Academi Amaeth, Ysgoloriaethau Nuffield, CowsOnTour a bwrsarïau a gwobrau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc.

“Mae technoleg yn parhau i yrru newid. Mae’n fwriad i’r mast ffôn EE parhaol ar faes y sioe gael ei uwchraddio i 5G, edrychwn ymlaen at gael gosod mast Vodafone/O2 newydd hefyd. Ynghyd â gwefan newydd ac Ap wedi’i ddiweddaru, rydym yn edrych hefyd ar ffyrdd o ymestyn e-docynnu, cyflwyno system o gynigion ar-lein a llawer mwy. Mae’r byd yn symud ymlaen, a CAFC gydag ef.”

Fel bob amser, cydnabuwyd cefnogaeth ac ymdrechion codi arian anhygoel ein siroedd nawdd. Mynegwyd diolch i Sir Drefaldwyn, sir nawdd 2018, y mae’u £436,000 anhygoel yn cael ei fuddsoddi mewn gwella’r cyfleusterau ar faes y sioe i’n haelodau iau, ac a fydd yn cynnwys creu Bar Aelodau newydd a gwell, ynghyd ag ailddatblygu Pafiliwn Trefaldwyn.

Yn ogystal â buddsoddi cyfalaf, mae’r gymdeithas yn gwario dros £400k bob blwyddyn ar gydymffurfiaeth y safle ac ar ei gynnal a’i gadw. Mae hyn yn cyfateb yn fras i’r arian dros ben  y dywedir ei fod wedi’i gyflawni, sydd i bob pwrpas yn golygu bod yr holl elw’n cael ei ailfuddsoddi ym maes y sioe.

Wrth annerch yr aelodau, diolchodd Mr Seimon Thomas, Llywydd 2019, i’w wraig, Eleanor, a’u dau blentyn, Sion a Hanna, am eu cefnogaeth, ynghyd â thîm ehangach Sir Benfro am eu gwaith caled a’u cefnogaeth yn ystod blwyddyn nawdd brysur iawn. Cydnabu hefyd y gefnogaeth gan siroedd eraill a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth.  “Bu hi’n fraint ac yn anrhydedd arwain ein tîm gweithgar yn Sir Benfro. Rydym wedi cael amser bythgofiadwy yn trefnu digwyddiadau, yr un yn fwy felly na digwyddiad Tir Glas yr wythnos ddiwethaf.”

“Wedi’i fendithio â thywydd braf, roedd yr achlysur yn llwyddiant ysgubol oherwydd y gwahoddwyr, Hugh a David James, ac ymroddiad y pwyllgor trefnu, George John, Tom Allisson, Delana Davies a’r holl wirfoddolwyr eraill. Rhaid diolch hefyd i’r miloedd a ddaeth i’r digwyddiad ac wrth gwrs i’r cwmnïau a fu’n arddangos yn y digwyddiad ac yn ei noddi.

“Bydd yr arian a godir gan dîm Sir Benfro yn cael ei roi tuag at ddatblygu prosiect strategol a fydd yn cynnwys adran cynnyrch llaeth, neuadd garcasau, swyddfeydd a lle arddangos.”

Wrth edrych ymlaen at ei sioe olaf yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, rhoddodd Mr Harry Fetherstonhaugh amlinelliad o’r hyn sydd i edrych ymlaen ato yng 100fed Sioe Frenhinol Cymru  (22 – 25 Gorffennaf 2019).

“Gyda da byw yn parhau i fod yn ganolbwynt y sioe, rwyf yn falch o ddweud bod niferoedd cryf yn cystadlu unwaith eto. Y cynigion gwartheg yw’r uchaf ers blynyddoedd lawer gyda niferoedd uwch mewn llawer adran, yn cynnwys y Gwartheg Duon Cymreig. Mae’r cynigion defaid yn ymddangos yn uchel hefyd gyda mwy nag erioed yn cystadlu mewn deg adran, yn cynnwys Defaid Mynydd Duon Cymreig. Erys y cynigion ceffylau, geifr a moch yn gryf hefyd, gan sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer pedwar diwrnod o gystadlaethau ffyrnig yn arddangos da byw ar eu gorau un.” meddai Mr Fetherstonhaugh.

“I gwblhau’r 100fed sioe mewn steil, ac yn fy mlwyddyn ddiwethaf fel Cyfarwyddwr y Sioe, rwyf wedi cael yr anrhydedd o feirniadu cystadleuaeth syfrdanol Prif Bencampwr y Pencampwyr, yn cael ei chynnal yn y prif gylch ar y prynhawn dydd Iau. Bydd y dosbarth arbennig hwn yn gweld ceffylau, gwartheg, defaid, geifr a moch i gyd yn cystadlu am y teitl unigryw hwn yng 100fed Sioe Frenhinol Cymru.

“Yr atyniadau mawr yn y prif gylch fydd yr anhygoel Atkinson Action Horses, sydd wedi treulio’r ugain mlynedd ddiwethaf yn hyfforddi ceffylau a marchogion ar gyfer ffilm a theledu, tîm arddangos beiciau modur herfeiddiol Bolddog Lings, tros-ehediad gan un neu fwy o awyrennau Hercules C130 ac arddangosfa o geirt cwrw’n cael eu tynnu gan geffylau trwm.” eglurodd Mr Fetherstonhaugh.

Ar bob un o’r pedwar diwrnod, bydd y prif gylch yn gweld strafagansa gerddorol hefyd yn dathlu 100 mlynedd o ffermio a diwylliant Cymreig, wedi’i gynhyrchu mewn cydweithrediad â thîm Sir Nawdd Sir Benfro ac Euros Llyr Morgan, yn gyflawn â cherddoriaeth draddodiadol a cherddoriaeth gyfoes, canu, dawns a sylwebaeth, gorymdaith o rai o’r peiriannau ffermio cynharaf i’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael heddiw.

Bydd Sioe Frenhinol Cymru’n cael ei chynnal ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 22 – 25 Gorffennaf. I gael mwy o wybodaeth am y gymdeithas neu’r sioe ewch i www.cafc.cymru