Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd mis nesaf yn brysur iawn i Dîm Cneifio a Thrin Gwlân Cymru.

Yn brysur yn pacio ar hyn o bryd, bydd y tîm o saith ar eu ffordd i Le Dorat yn Ffrainc yn fuan i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cneifio a Thrin Gwlân Golden Shears y Byd 2019.

Mae’r gystadleuaeth ryngwladol hon yn gweld timau’n teithio o bob cwr o hemisfferau’r gogledd a’r de i gystadlu am deitlau eithaf pencampwriaethau’r byd. Cynhaliwyd Pencampwriaethau Byd cyntaf y Golden Shears yn 1977 ac mae’r gystadleuaeth bellach yn arddangosfa o ansawdd ac o ragoriaeth yn y grefft fedrus o gneifio a thrin gwlân.

Cafodd y gystadleuaeth, a gynhelir bob tua dwy i dair blynedd, ei chynnal ddiwethaf yn Invercargill, Seland Newydd yn 2017. Bydd y tîm profiadol o Gymru’n cystadlu am deitlau Pencampwriaeth Unigolyn a Thîm y Byd yn erbyn timau eraill o wledydd fel Seland Newydd, Lloegr, Awstralia, Ffrainc, Yr Almaen, Gogledd Iwerddon, Norwy, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Alban, De Affrica, Sbaen ac Unol Daleithiau America.

Mae’r pencampwriaethau’n cael eu cynnal o 4 – 7 Gorffennaf, dwy wythnos yn union cyn y byddant yn ôl ar dir cartref yn cystadlu yng 100fed Sioe Frenhinol Cymru.

Tîm Cneifio a Thrin Gwlân Cymru:

Rhydwyn Price, Rheolwr y Tîm o Waltwn, Llanandras
Mae Rhydwyn yn gyn-enillydd Cystadleuaeth Pencampwr Cneifio Cymru a bu’n cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Byd yn Awstralia yn 2005. Mae wedi bod yn cneifio am tua 35 mlynedd a bu’n hyfforddwr i Fwrdd Gwlân Prydain am oddeutu 20 mlynedd.

Richard Jones, Cneifiwr â Pheiriant o Gorwen
Dyma’r trydydd tro y bydd Richard yn cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Byd ar ôl cystadlu yn 2014 yn Iwerddon a 2012 yn Seland Newydd. Yn enillydd teitl Pencampwr Cneifio Cymru bedair gwaith ac yn dal y teitl ar hyn o bryd, mae Richard wedi cynrychioli Cymru ar sawl achlysur mewn gornestau prawf a Phencampwriaethau’r Chwe Gwlad.

Alun Lloyd-Jones, Cneifiwr â Pheiriant o Langollen
Dyma fydd y tro cyntaf y mae Alun wedi cynrychioli Cymru mewn Pencampwriaeth Byd. Mae Alun wedi symud ymlaen trwy drefn y tîm datblygu a daeth yn ail i Richard yng Nghylchdaith Agored Cymru i gymhwyso ar gyfer tîm Cymru. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn sawl gornest brawf.

Elfed Jackson, Cneifiwr â Gwellau o Nant Ffrancon, Bethesda
Enillodd Elfed gystadleuaeth ddechreuol Pencampwr Cneifio â Gwellau Cymru yn 2018. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn naw Pencampwriaeth Byd er 1998 a bu’n rhan o dîm Cymru am 20 mlynedd, gan gystadlu mewn gornestau prawf a Phencampwriaethau’r Chwe Gwlad.

Rheinallt Hughes, Cneifiwr â Gwellau o Lanarmon DC, Llangollen
Enillodd Rheinallt Gylchdaith Cneifio â Gwellau Agored Cymru ac mae’n cynrychioli Cymru am y tro cyntaf mewn Pencampwriaethau Byd. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn gornestau prawf a Phencampwriaethau’r Chwe Gwlad.

Aled W Jones, Triniwr Gwlân o Lanafan Fawr, Llanfair-ym-Muallt
Aled yw Pencampwr Trin Gwlân presennol Cymru. Bu’n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Byd 2014 yn Iwerddon, ble enillodd deitl Pencampwriaeth Tîm Trin Gwlân y Byd gyda Meinir Evans. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn gornestau prawf a Phencampwriaethau’r Chwe Gwlad.

Gwenan Paewai, Triniwr Gwlân o Sidmouth, Dyfnaint (gynt o Gorwen)
Enillodd Gwenan Gylchdaith Trin Gwlân Agored Cymru ac mae’n cynrychioli Cymru am y trydydd tro mewn Pencampwriaethau Byd ar ôl cystadlu yn 2008 yn Norwy a 2012 yn Seland Newydd. Mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn gornestau prawf a Phencampwriaethau’r Chwe Gwlad.

“Mae gennym dîm cryf iawn o Gymru ar eu ffordd i Ffrainc ar gyfer Pencampwriaethau Cneifio a Thrin Gwlân Golden Shears y Byd 2019 y mis nesaf a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hymgais i ddod â theitlau’r bencampwriaeth adref.” meddai Rhydwyn Price, Rheolwr y Tîm. “Mae Gorffennaf yn fis prysur i’n tîm ac er eu bod yn canolbwyntio’n llwyr ar y cystadlaethau yn Ffrainc, rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gystadlu, unwaith eto, yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddarach yn y mis.”

Mae tîm Cymru’n ddyledus i’w noddwyr am eu holl gefnogaeth a’u teyrngarwch parhaus. Mae’r rhain yn cynnwys BISCA, British Wool, Caleb Roberts Insurance Services Ltd, J & S Pughe Sheep Shearing Trailers, KiwiKit Ltd, Lister, Mid Wales Egg Packing Ltd a Randall Parker Foods.