Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ethol Llywydd 2020 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

I lawer, Mr Harry Fetherstonhaugh yw’r prif ffigwr y tu ôl i lwyddiant Sioe Frenhinol Cymru, ond ar ôl 25 mlynedd mae Harry wedi ymddeol fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe ac ymgymryd â swydd newydd fel Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020.

Yn ystod cyfarfod cyngor blynyddol y gymdeithas, a gynhaliwyd eleni ar faes y sioe ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr, y mae siroedd nawdd y gymdeithas yn dechrau ac yn gorffen eu tymor yn y swydd. Gan ddilyn camre Sir Benfro, Sir Nawdd 2019, tro Clwyd yw hi yn awr i wisgo’r fantell yn y flwyddyn sydd i ddod yn 2020, gyda Harry yn arwain o’r tu blaen.

Wrth ei gyflwyno dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd, Mr Richard Tomlinson, fod Harry eisoes wedi cael dylanwad enfawr ar ymdrechion y pwyllgor yn ystod ei amser fel Darpar Lywydd a’u bod i gyd yn edrych ymlaen yn llawn cyffro at y 12 mis nesaf.

Mae cysylltiad Harry â’r Sioe Frenhinol yn rhychwantu oes, gyda chyfranogiad ei deulu’n mynd yn ôl trwy’r cenedlaethau. Roedd tad Harry, Yr Uwchgapten David Fetherstonhaugh, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe am 21 mlynedd, gan ymddeol yn 1989. Mae Harry ei hun wedi stiwardio yn amrywiol adrannau’r sioe er 1977, yn cynnwys fel Prif Stiward Diogelwch, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus Gweinyddiaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sioe.

Mae Harry hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Gweinyddu’r Sioe, y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ac yn Is-Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y gymdeithas. Yn 2004 dyfarnwyd iddo Fedal Aur y gymdeithas am ei wasanaeth eithriadol i’r gymdeithas fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe. Cyflwynwyd y fedal i Harry gan Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ystod ei hymweliad â’r sioe ym mlwyddyn canmlwyddiant y gymdeithas.

Mae Harry yn ffermio defaid Romney pedigri ar ei fferm deuluol ar Ystâd 2,900 erw Coed Coch, ger Abergele, Clwyd.

Dyfarnwyd OBE i Harry yn 2001 am ei wasanaeth fel Comisiynydd Coedwigaeth Cymru.  Bu’n gwasanaethu hefyd fel Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Tyfwyr Coed (TGA) am bymtheng mlynedd ac fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru’r TGA am wyth mlynedd. Bu’n Llywodraethwr Ysgol am 30 mlynedd hefyd, ac fe’i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Clwyd yn 2013.

Wrth dderbyn swydd y llywydd, dywedodd Harry “Mae cael fy nghyd-gymheiriaid ar ein pwyllgor ymgynghorol sirol yn pleidleisio imi fod yn llywydd yn ein blwyddyn nawdd yn anrhydedd enfawr ac yn gwneud imi deimlo’n wylaidd iawn hefyd.

“Mae fy 40 mlynedd a mwy o gysylltiad â’r Sioe Frenhinol wedi bod yn hyfrydwch, a thrwy gydol y cyfnod hwn rwyf wedi gwneud ffrindiau di-rif, a byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am hynny.

“Bydd blwyddyn Clwyd yn mynd i fyny gêr yn awr o 2019 sydd eisoes yn brysur, gyda gweithgareddau codi arian yn wythnosol gyda’r anghenraid fod rhaid i bob un digwyddiad fod yn hwyl!”

Yn cymryd yr awenau yr wythnos ddiwethaf hefyd oedd Ms Lowri Lloyd Williams. Cafodd Lowri, a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol Clwyd, Mrs Ruth Davies, ei hethol yn swyddogol yn Llysgennad cyntaf y gymdeithas ar gyfer 2020.

Dechreuodd paratoadau Clwyd o ddifrif 12 mis yn ôl, dan arweiniad rhagorol y pwyllgor ymgynghorol. Gyda dwsinau o ddigwyddiadau megis rasio camelod, ffeiriau gwledig, teithiau cerdded noddedig, lloriau sglefrio, pimms a phwdinau, noson fingo a llawer mwy, wedi digwydd yn barod, mae ymdrechion codi arian y sir brysur ar eu hanterth bellach.

Gyda llawer mwy o ddigwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer 2020, mae’r pwyllgor yn gweithio’n ddyfal yn y cefndir hefyd yn trefnu Digwyddiad Tir Glas Brenhinol Cymru 2020, a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 7 Mai yng Ngholeg Cambria – Llysfasi, Rhuthun, Sir Ddinbych.

Y flwyddyn nesaf fydd y pumed tro y bu Clwyd yn sir nawdd ers i Sioe Frenhinol Cymru ymgartrefu’n barhaol ar faes y sioe yn 1963. Strwythur unigryw’r siroedd nawdd a’r pwyllgorau ymgynghorol yw’r hyn sy’n gosod y gymdeithas ar wahân i eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchenogaeth ar y digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian pob un o’r siroedd er 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, sy’n cael eu buddsoddi’n ôl ym maes y sioe, gan ei gwneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchenogaeth ein safle.