Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi rhodd i Gyngor Tref Llanfair-ym-Muallt tuag at y goleuadau Nadolig yn y dref, gan barhau’r berthynas agos rhwng y ddau sefydliad a’r gymuned leol.

Mae’r goleuadau Nadolig yn cael eu gosod yn barod ar gyfer y Ffair Aeaf sy’n cael ei chynnal fel
arfer yn niwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r arddangosfa liwgar yn rhoi
croeso tymhorol cynnes i’r miloedd o ymwelwyr â’r Ffair Aeaf a’r llawer o bobl sy’n byw, gweithio
ac yn mynd trwy’r dref yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig. Eleni roedd y Ffair Aeaf yn disgyn yn
wythnos olaf Tachwedd, a gwelsom dyrfaoedd enfawr yn dod ynghyd i fynychu’r digwyddiad mawr
cyntaf ar Faes y Sioe ers 2019.

Fel arwydd o werthfawrogiad, mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru roi
£350 i Gyngor y Dref i helpu tuag at y gost o gynnal a chadw, gosod a phrynu goleuadau newydd.
Mynychodd Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC y Groto Nadolig yn Neuadd Y Strand yn
Llanfair-ym-Muallt ar ddydd Gwener 10fed Rhagfyr i gyflwyno’r siec yn swyddogol i Faer Tref
Llanfair-ym-Muallt, Gwyn Davies.

Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC, “Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i weithio’n agos
gyda’n cymunedau lleol a’r Cyngor Tref lleol drwy’r flwyddyn gron gyfan ac yn arbennig dros adeg
y Nadolig. Cawsom Ffair Aeaf wych er gwaethaf heriau’r pandemig a dibynnwn ar Dref Llanfair-ym-
Muallt a’r goleuadau Nadolig rhagorol i ffurfio rhan o’r awyrgylch Nadoligaidd arbennig hwnnw yn
ystod y Ffair. Am y rheswm hwnnw, mae’n bleser gennyf gyflwyno siec fel cyfraniad bach at gost y
goleuadau Nadolig”

Meddai Gwyn Davies, Maer Tref Llanfair-ym-Muallt “Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd tuag at
y goleuadau Nadolig ac am y gefnogaeth barhaus gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol
Cymru.” Bydd y rhodd yn cael ei defnyddio tuag at gynnal a chadw ac unrhyw waith atgyweirio
sydd ei angen i gadw’r arddangosfa wych ar fynd.

Capsiwn y llun: Cyflwynwyd siec am £350 i Gwyn Davies, Maer Tref Llanfair-ym-Muallt, gan SteveHughson, Prif Weithredwr CAFC, yn Groto Nadolig Neuadd Y Strand yn Llanfair-ym-Muallt.