Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor, Mr David Lewis DL FRICS FLAA FRAgS y gorau i’w swydd yn
ystod cyfarfod Cyngor CAFC yr wythnos ddiwethaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Fe wnaeth aelodau’r Cyngor, sydd wedi methu cyfarfod ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr
2019 oherwydd y pandemig Coronafeirws, gyfarfod dydd Gwener diwethaf (10fed Rhagfyr 2021) yn
y cnawd ar Faes y Sioe gyda’r opsiwn o ymuno’n rhithiol hefyd. Yn ystod cyfarfod y Cyngor,
rhoddodd Mr David Lewis y gorau iddi fel Cadeirydd y Cyngor ar ôl dechrau’i dymor yn ôl yn 2012.

Mae brwdfrydedd Mr Lewis dros y diwydiant wedi’i wneud yn un o’r ychydig bobl i ddal pob un o’r
swyddi uchaf o fewn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ers iddo ymuno fel aelod yn 1976.
Yn ogystal â bod yn un o brif sylwebwyr gwartheg y Gymdeithas am dros 40 mlynedd, roedd Mr
Lewis yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2005 a chyn hynny roedd wedi dal swydd Cadeirydd
Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Yn 2017 derbyniodd Mr Lewis Fedal Aur y Gymdeithas am ei gyflawniadau
parhaus a’i gyfraniad nodedig at y Gymdeithas.

Yn ystod cyfarfod y Cyngor, diolchodd yr aelodau iddo am ei wasanaeth i’r Gymdeithas a rhannu
teyrngedau teimladwy am ei amser fel Cadeirydd, gan sôn am sut y bu’n fentor i lawer o fewn y
Gymdeithas. Bydd yr Is-Gadeirydd presennol, Mrs Nicola Davies yn camu i mewn yn awr fel
Cadeirydd Gweithredol y Cyngor hyd nes y penodir Cadeirydd newydd.

Capsiwn y llun (chwith i’r dde): Mr John T Davies (Cadeirydd y Bwrdd), Mr David Lewis (Cadeirydd
y Cyngor), Mrs Nicola Davies (Is-Gadeirydd y Cyngor) a Mr Harry Fetherstonhaugh (Llywydd 2022)