Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gobeithio penodi Prif Weithredwr newydd ar ôl cyhoeddiad y llynedd fod Mr Steve Hughson yn ymddeol. Wedi bron deng mlynedd o wasanaeth, bydd Mr Hughson yn ymddeol ar ddiwedd mis Medi 2022 ar ôl cwblhau ei ddegfed Sioe.

Mae ceisiadau am swydd y Prif Weithredwr ar agor yn awr ar wefan CAFC. Mae proffil uchel y swydd hon, ynghyd â pha mor anfynych y mae hi’n ymddangos fel swydd wag, yn ei gwneud yn atyniad dengar i ymgeiswyr posibl. Mae CAFC yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig i arwain y Gymdeithas drwy gam nesaf ei thaith a digwyddiadau’r dyfodol.

Yn siarad yr adeg y cyhoeddodd Mr Hughson ei ymddeoliad, gwnaeth Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, y sylwadau hyn:

‘’Y buddsoddiad mwyaf y gall cymdeithas sioe amaethyddol ei wneud yw penodi Prif Weithredwr gweithgar ac ymroddedig, fel y gwnaethom ddegawd yn ôl.  Yr adeg honno dywedodd Steve y byddai’n cysegru deng mlynedd o’i fywyd fel arweinydd y Gymdeithas ac mae wedi gwneud hynny gyda chlod.” meddai.

“Wrth i Steve ymddeol o’r swydd ar ôl Sioe 2022, bydd gennym gyfle i fyfyrio ynghylch y cyfnod llwyddiannus iawn o dwf a sefydlogrwydd tra bu’n dal y swydd. Mae Steve yn bendant iawn wedi rhoi’r Gymdeithas ar seiliau cadarn ar adeg pan gafwyd heriau na fu eu tebyg o’r blaen. Mae ar y Gymdeithas ddyled enfawr o ddiolchgarwch i Steve, bu hi’n bleser gweithio ochr yn ochr ag ef’’.

Fel pennaeth un o’r cymdeithasau amaethyddol mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, bydd y Prif Weithredwr newydd yn gyfrifol am  reolaeth strategol a gweithredol pob dydd y sefydliad a’i staff, yn ogystal ag am ddarparu stiwardiaeth gyffredinol dros y rhwydwaith sefydledig o filoedd o wirfoddolwyr, rhanddeiliaid, aelodau pwyllgorau, a chynghorwyr.

Meddai Mr Steve Hughson y Prif Weithredwr presennol, “Mae bod yn Brif Weithredwr CAFC wedi bod yn gyfle enfawr, yn arbennig i rywun a anwyd yn Llanfair-ym-Muallt ac a dyfodd i fyny gyda Sioe Frenhinol Cymru.”

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau sefyllfa ariannol gref wrth fynd i mewn i’r pandemig, sydd wedi’i chynnal trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth inni fyfyrio ynghylch Ffair Aeaf lwyddiannus ac wrth edrych ymlaen at ein Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a Sioe Frenhinol Cymru cyntaf mewn dwy flynedd, mae hi’n teimlo fel yr adeg iawn i drosglwyddo’r gwaith o redeg y Gymdeithas i rywun fydd yn gallu arwain y Gymdeithas trwy’r heriau gwahanol fydd yn codi yn y deng mlynedd nesaf.”

Mae rhagor o fanylion, yn cynnwys disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais am y swydd, ar gael ar wefan CAFC ar https://rwas.wales/the-society/jobs/. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 21 Ebrill 2022 am 12 canol dydd.