Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Pobl, proffid a’r blaned yw’r neges yn Da Byw 2023, Cynhadledd Ffermio Cynaliadwy Gogledd Cymru.
Bydd y digwyddiad deuddydd yn tynnu sylw at sut y gall ffermio yng Nghymru arwain y byd wrth ddangos bod amaethyddiaeth yn rhan o’r ateb i lawer o heriau amgylcheddol. Bydd yn cael ei gynnal yng nghartref Llywydd CAFC y llynedd, Harry Fetherstonhaugh a’i wraig, Davina, ar yr 16eg a’r 17eg Mehefin.
Bydd manteision ffermio’n adfywiol yn cael eu hamlinellu mewn cynhadledd sydd ag iddi siaradwyr ac ymarferwyr adnabyddus o bedwar ban byd, a bydd taith gerdded o amgylch y fferm yn cynnig cipolwg ar sut mae perchnogion Coed Coch, ger Conwy yng Ngogledd Cymru, wedi ac yn gweithredu syniadau newydd.
Meddai Davina Fetherstonhaugh, y trefnydd: “Mae gan Gymru y cyfle i arwain y byd mewn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac o ran iechyd yr amgylchedd.
“Mae pobl yn mynd â’r fenter ar draws Cymru a thu hwnt. Ond mae angen i’r llunwyr polisi fod yn ddewr. Gyda lwc, bydd y trafodaethau yn Da Byw yn rhoi hyder i Lywodraeth Cymru arwain y byd trwy fod yn gefnogol i’r mudiad.”
Bydd y siaradwyr, ‘y bobl sy’n gwneud i’r hud ddigwydd’, yn cynnwys ffermwyr gyda phrofiad mewn amryw o wahanol wledydd. Mae grŵp MacDoch Ag Alasdair MacLeod, sydd wedi’i leoli yn Awstralia, yn dangos sut y gall ffermio bîff, gwlân a chnydau adeiladu cyfalaf naturiol a chyfrannu at atebion hinsawdd byd-eang.
Mae Jaime Elizondo, a anwyd yn Fecsicanwr, wedi’i leoli yn Houston Texas ac yn cynghori dros y byd i gyd. Mae’i ddulliau wedi’u seilio ar raglenni pori chwyldroadol, economeg a geneteg, ac mae wedi dylanwadu ar ffermio ar draws Ewrop, Gogledd America ac America Ladin. Bydd ymarferwyr yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn rhannu eu profiadau hefyd, ynghyd â buddion lawer dull mwy cynaliadwy o weithredu.
Siaradwr arall yw Patrick Holden CBE, sydd wedi bod yn cynghori’r Brenin ar gynaliadwyedd am fwy na 40 mlynedd ac sy’n ffermio 200 hectar yn organig yng Ngorllewin Cymru. Bydd y gynhadledd yn clywed gan wyddonwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant hefyd.
Bydd trafodaeth panel yn terfynu’r gynhadledd, dan gadeiryddiaeth y Gwir Anrhydeddus Amber Rudd, a bydd yn cynnwys Aelodau’r Senedd, llunwyr polisi a ffurfwyr barn. Y bore canlynol, dydd Sadwrn, bydd taith gerdded o amgylch y fferm i ddangos buddion Fferm Adfywiol, fel sy’n cael ei arfer yng Nghoed Coch.
Bydd bwydydd a diodydd lleol yn cael lle amlwg hefyd, gydag adloniant yn cael ei ddarparu gan y rhyngwladol enwog The Fell a’r DJ Farmer of Funk.