Mae ceisiadau ar agor yn awr ar gyfer Ysgoloriaeth Goffa Louise Owen - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Ysgoloriaeth Goffa Louise Owen

Dyfernir i’r cneifiwr iau mwyaf addawol yng Nghymru

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gefnogi ysgoloriaeth o £1,000 er cof am Sarah Louise Owen.

Cafodd yr ysgoloriaeth hon ei chyflwyno gyntaf yn 2014 er cof am Louise Owen, a oedd yn drinwraig gwlân fedrus ac a fu’n teithio’n helaeth ar draws y byd. I warchod ei choffadwriaeth, mae’r teulu’n garedig iawn wedi sefydlu’r ysgoloriaeth hon i roi’r cyfle i gneifiwr iau ddatblygu a hybu ei sgiliau mewn cneifio.

Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu i’r cneifiwr iau sy’n dangos fwyaf o addewid a bydd yn cael ei defnyddio i helpu i ariannu taith i Seland Newydd yn hydref 2024. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant uwch a bydd yn gweithio gyda chontractwr cneifio a drefnir ymlaen llaw.

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i bob ymgeisydd:-

  • fod yn gneifiwr iau
  • bod yn barod i dreulio o leiaf 3 mis yn gweithio yn Seland Newydd i un contractwr y bydd ei enw ar y fisa gwaith
  • fod yn 26 mlwydd oed neu iau ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru 2023
  • fod yn byw yng Nghymru, a
  • heb fod wedi ennill yr ysgoloriaeth yn y gorffennol

Meini Prawf Dyfarnu

Bydd yn ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu i’r cneifiwr iau sydd:-

  • wedi dangos gallu cyson trwy gydol tymor sioeau cneifio Cymru
  • yn gallu dangos ymroddiad a dyhead i wella’u gallu cneifio, ac
  • sydd wedi’i glustnodi fel un o’r cneifwyr mwyaf addawol yng Nghymru

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais amgaeedig a byddant yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf dyfarnu a amlinellwyd uchod.  Mae’r ysgoloriaeth hon yn agored i bob cneifiwr iau yng Nghymru.

Byddir yn cyflwyno tystysgrif i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru 2024 a bydd disgwyl iddynt ysgrifennu erthygl ar gyfer blwyddlyfr y Gymdeithas ar ôl iddynt ddychwelyd o’u taith.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 4 Hydref 2023 a byddir yn gofyn i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddod am gyfweliad anffurfiol o flaen y panel dewis.

Ar ôl ei llenwi dychwelwch eich ffurflen gais at Tracy Powell ([email protected]).