Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol yn gyffrous o gyhoeddi cychwyniad astudiaeth uwchgynllunio a chreu gweledigaeth sy’n torri tir newydd ar gyfer Maes Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r fenter yma’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn natblygiad y Gymdeithas a Maes y Sioe, gan atgyfnerthu ei le fel man cyfarfod blaenllaw ar gyfer digwyddiadau yn ymwneud ag amaeth, busnes, ac adloniant, sy’n chwarae rhan arwyddocaol yn economi’r rhanbarth.

Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru, a leolir yn Llanelwedd ger Llanfair-ym-Muallt, wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad amaethyddiaeth a’r economi wledig yng Nghymru am dros ganrif. Mae Maes y Sioe yn ymestyn i dros 150 erw gyda mwy na 40 o adeiladau ac mae’n fan gwaith parhaol i dros 30 o staff y Gymdeithas a nifer o sefydliadau amaethyddol.

Yn ogystal â thri digwyddiad blynyddol y Gymdeithas; Sioe Frenhinol Cymru, un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop, y Ffair Aeaf, a’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, mae rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau proffil uchel eraill yn cael ei chynnal trwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio’r cyfleusterau cynadledda a lleoedd arddangos, gan wneud maes y sioe yn brif gyrchfan amaethyddol a chyrchfan digwyddiadau yng Nghymru wledig.

Mae’r astudiaeth uwchgynllun a chreu gweledigaeth sydd ar ddod yn anelu at adfywhau ac ail-ddychmygu Maes y Sioe, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn llwyddiannus am genedlaethau i ddod. Bydd yr astudiaeth yn clustnodi amrediad cydgysylltiedig o gyfleoedd, wedi’u gosod o fewn y cyd-destun cenedlaethol a chyd-destun Canolbarth Cymru, ar gyfer buddsoddi a datblygu o’r newydd.

Mae amcanion allweddol yr astudiaeth yn cynnwys gwella’r cyfleusterau presennol a gweinyddiad digwyddiadau mawr, strategaethau i fwyhau’r cyfraniad at yr economi leol a rhanbarthol, lleihau’r ôl troed amgylcheddol a chyfoethogi cyfraniadau diwylliannol ac addysgol Maes y Sioe. Bydd proses ymgysylltu â’r gymuned gadarn yn cael ei dilyn i gasglu mewnbwn a dirnadaethau gan randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cydweithio â’r arbenigwyr cynllunio Owen Davies Consulting i ymgymryd â’r prosiect gweledigaethol yma. Mae i’r practis creu lleoedd, a leolir yn Y Fenni, hanes blaenorol cryf o ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer gwahanol safleoedd a lleoedd.

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC:

“Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru wedi bod yn rhan annatod o economi wledig a diwylliant Cymru ers cenedlaethau. Mae’r astudiaeth uwchgynllunio a chreu gweledigaeth yma’n cynrychioli ein hymrwymiad i lunio’i ddyfodol mewn modd cynaliadwy, cynhwysol, a blaengar. Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y siwrnai gyffrous hon gyda’n cymuned leol a rhanddeiliaid wrth inni siartio cwrs ar gyfer pennod nesaf Maes Sioe Frenhinol Cymru.”

Mae’r astudiaeth wedi’i chefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) ar gyfer Canolbarth Cymru a disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn dechrau 2024. Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu ar hynt yr astudiaeth trwy wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.