Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddydd Gwener 8fed Rhagfyr 2023, ble penodwyd swyddogion am y tymor pedair blynedd nesaf.

Etholwyd Cadeirydd presennol y Cyngor, Nicola Davies, i barhau yn y swydd tan fis Rhagfyr 2027. Penodwyd Nicola, cyn-Is-Gadeirydd y Cyngor, yn Gadeirydd yn swyddogol ym mis Ionawr 2022, wedi i’w rhagflaenydd, David Lewis, roi’r gorau i’r swydd.

Mae Nicola, o Geredigion, wedi bod yn gysylltiedig â’r Gymdeithas ers pan oedd hi’n ifanc, gan arddangos Cobiau Cymreig yn Sioe Frenhinol Cymru am flynyddoedd lawer. Ymunodd hi â Phwyllgor Ymgynghorol Ceredigion gyntaf yn 1996. Gyda’i brwdfrydedd dros y diwydiant, mae Nicola wedi ymgymryd ag amryw o swyddi o’r blaen, yn cynnwys Prif Gyflwynydd a Sylwebydd, Llysgennad, a stiwardio yn yr adrannau Nawdd a Lletygarwch.

“Mae’n anrhydedd gennyf gael fy ail-enwebu’n Gadeirydd y Cyngor am 2023 – 2027,” meddai Nicola yn ystod cyfarfod y Cyngor.

“Mae hi wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd er Ionawr 2022 ac yn bleser gweithio gyda’r Cyngor, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Pwyllgorau Ymgynghorol y Siroedd, a llawer o bwyllgorau eraill yn ogystal ag aelodau a stiwardiaid, yr oll er budd y Gymdeithas.”

Cafodd Is-Gadeirydd y Cyngor, Alwyn Rees ei ethol hefyd i aros yn ei flaen am y tymor pedair blynedd, ynghyd â’r Trysorydd Anrhydeddus, David Powell.

Mae Alwyn Rees, sy’n ffermio yn Caeceinach ym Meirionnydd wedi bod yn gysylltiedig â’r Gymdeithas ers blynyddoedd lawer, yn stiwardio yn adran y gwartheg am dros 30 mlynedd ac yn cyfrannu at nifer o bwyllgorau’r Gymdeithas. Mae Alwyn yn Gadeirydd Pwyllgor Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar hyn o bryd. Fe’i hetholwyd yn Is-Gadeirydd y Cyngor yn Ionawr 2022.

Magwyd David Powell ar fferm ddefaid a bîff yng Nghanolbarth Cymru ac ymunodd â’r Midland Bank cyn ail-leoli i Lundain tua diwedd y 1970au, ble daeth yn rhan o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd HSBC Agriculture. Yn 2004, etholwyd David yn Drysorydd Anrhydeddus y Gymdeithas, ar y cyd â Richard Moseley, gan ddod yn unig Drysorydd pan fu iddo ef farw yn 2007.

Penodwyd Cyfarwyddwyr Anrhydeddus ar gyfer pob un o dri digwyddiad CAFC am y tymor pedair blynedd nesaf, yn cynnwys Richard Price fel Cyfarwyddwr y Sioe, William Hanks fel Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf, a Geraint James fel Cyfarwyddwr yr Ŵyl.

Mae Richard Price o Ystâd Rhiwlas yn rheoli fferm y faenor gyda buches o wartheg Duon Cymreig Pedigri a 1000 o ddefaid mynydd Cymreig pur yn ogystal â rheoli’r ystâd deuluol. Dechreuodd Richard a’r teulu y trawsnewid i ffermio adfywiol yn 2019. Mae Richard wedi bod yn stiward diogelwch yn amrywiol ddigwyddiadau’r Gymdeithas ac fe’i hetholwyd yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Sioe Frenhinol Cymru yn 2019.

Dilynodd William Hanks yng nghamre ei dad fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Ffair Aeaf, ar ôl cael ei ethol yn 2011. Magwyd William ar fferm laeth y teulu ym Mro Morgannwg. Aeth yn ei flaen i arallgyfeirio mewn manwerthu llaeth. Yn aelod o Bwyllgor Sir Nawdd Morgannwg, bu William yn gysylltiedig â’r Gymdeithas ers dros 30 mlynedd.

Mae cysylltiadau Geraint James â’r Gymdeithas yn mynd yn ôl i 2005, pan ymunodd â Phwyllgor Ymgynghorol Sirol Sir Benfro. Ers hynny mae wedi stiwardio mewn llawer adran. Dechreuodd cysylltiad Geraint â’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad fel aelod o’r pwyllgor ac fel sylwebydd yn adran y gwartheg. Etholwyd Geraint yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl yn Rhagfyr 2019.

Wrth i’r flwyddyn ddod i’w therfyn, mae Morgannwg yn trosglwyddo’r awenau i Geredigion i gymryd ei thro fel Blwyddyn Nawdd CAFC, gyda Denley Jenkins wedi’i ethol yn Llywydd 2024.