Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Cynhelir Cynhadledd Sioeau Amaethyddol Cymru, sy’n cael ei lletya gan CFAC a’i chefnogi gan ASAO, yn y Pafiliwn Rhyngwladol, ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, ddydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Bob blwyddyn, mae Cymdeithas y Sioeau a’r Sefydliadau Amaethyddol a CFAC yn cynnal Cynhadledd Sioeau Amaethyddol Cymru (Cynhadledd Ranbarthol Cymru gynt) ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, sy’n gartref i ddigwyddiad eiconig Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd Cynhadledd Sioeau Amaethyddol Cymru yn dod â chynrychiolwyr o ddigwyddiadau amaethyddol, garddwriaeth, ceffylau a chefn gwlad Cymru at ei gilydd i rannu arfer gorau rhwng cymdeithasau amaethyddol a sefydliadau cysylltiedig.

Mae’r gynhadledd yn ddiwrnod o hyd ac mae’n gyfle gwych i aelodau’r Gymdeithas gwrdd wyneb yn wyneb a siarad am y sioeau amaethyddol sydd ar droed yng Nghymru. Daw hyd at 80 o drefnwyr sioeau a digwyddiadau o bob cwr o Gymru i’r digwyddiad, ynghyd â siaradwyr dylanwadol, ac felly mae’r diwrnod yn addo rhannu gwybodaeth a chefnogi’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru.

Gwahoddir pob un i gyrraedd ac i gofrestru o 10am, ac i ddilyn fe fydd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CFAC, yn estyn croeso. Bydd rhaglen y digwyddiad yn mynd rhagddi gyda diweddariad gan Amy Smith o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, gyda Dafydd Jones (Milfeddyg Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru) yn cadeirio.

Nesaf, fe fydd y rheiny sy’n bresennol yn clywed gan Hannah Thomas, Gohebydd Materion Gwledig ITV, a fydd yn cyflwyno sesiwn am y cyfryngau gan ganolbwyntio’n benodol ar brotestiadau, gwleidyddiaeth a’r wasg mewn perthynas â sioeau amaethyddol.

Fe fydd Paul Hopper, Ysgrifennydd ASAO yn rhoi’r diweddaraf am ASAO, gyda chinio i ddilyn a chyfle i rwydweithio.

Yn ystod y prynhawn, fe fydd Caroline Westwood, Uwch-ddarlithydd Rheoli Digwyddiadau ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, a Dr Greg Langridge-Thomas o Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt yn cyflwyno sesiwn am y newidiadau yn rolau a disgwyliadau sioeau amaethyddol.

Fe fydd Jon Williams, Swyddog Cymorth Prosiectau’r Economi gyda Chyngor Sir Powys yn siarad am gyfleoedd am gymorth grant, gyda Phrif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, yn cadeirio.

I ddwyn digwyddiadau’r dydd i fwcl, fe fydd Fforwm Drafod Agored dan gadeiryddiaeth Geraint James, Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl CFAC, ac i ddilyn fe fydd sylwadau clo gan Rachel Powell, Pennaeth Gweithrediadau CFAC.

Noddir Cynhadledd Sioeau Amaethyddol Cymru ASAO trwy garedigrwydd Event Operations Specialists (EOS), TICKETsrv, Fingers & Forks, Orion Print, Entrymaster, a DCRS Radios.

Mae Entrymaster yn cynnig datrysiadau ar-lein ar gyfer cystadlaethau, digwyddiadau a chofrestru gyda meddalwedd wedi ei theilwra’n arbennig a’i brandio gyda’ch logo, er mwyn cysylltu’n hwylus â’ch gwefan.

Mae gwasanaethau DCRS yn cynnwys hurio a gwerthu systemau cyfathrebu radio llais a data, camerâu corff a chymwysiadau eraill.

Gofynnwn yn garedig i chi gofrestru’ch presenoldeb yn rhad ac am ddim, ar https://rwas.ticketsrv.co.uk/tickets/ASAO2024

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Helen Evans trwy anfon neges e-bost i helen@rwas.co.uk.